Andreas Vesalius

Oddi ar Wicipedia
Andreas Vesalius
Portread o Vesalius yn ei De Humani Corporis Fabrica (1543)
GanwydAndries Wytinck van Wesel Edit this on Wikidata
31 Rhagfyr 1514 Edit this on Wikidata
Mont aux Potences - Galgenberg Edit this on Wikidata
Bu farw16 Hydref 1564 Edit this on Wikidata
Zakynthos Edit this on Wikidata
DinasyddiaethHabsburg Netherlands Edit this on Wikidata
Alma mater
ymgynghorydd y doethor
  • Gemma Frisius Edit this on Wikidata
Galwedigaethanatomydd, biolegydd, meddyg, llawfeddyg, academydd, ffisiolegydd, ysgrifennwr Edit this on Wikidata
Cyflogwr
Adnabyddus amDe Humani Corporis Fabrica Edit this on Wikidata
Prif ddylanwadGalen Edit this on Wikidata
PriodAnne van Hamme Edit this on Wikidata

Anatomydd a meddyg o Fflandrys oedd Andreas Vesalius (Lladineiddio o'r enw Iseldireg Andries van Wesel) (31 Rhagfyr 151415 Hydref 1564). Roedd yn awdur llyfr dylanwadol ar anatomeg, De Humani Corporis Fabrica (Basel, 1543).

Fe'i ganwyd ym Mrwsel. Astudiodd ym Mhrifysgol Leuven (1528-32), ym Mhrifysgol Paris (1533-7) ac ym Mhrifysgol Padova, Gweriniaeth Fenis (1537). Yn syth ar ôl iddo gael ei ddoethuriaeth yn Padova, penodwyd ef yn athro llawdriniaeth ac anatomeg yno.

Ar ôl ei ymchwiliadau ei hun, fe ddaeth i'r casgliad bod llawer o ddamcaniaethau ffisiolegol hynafol Galen yn anghywir. Cynhwyswyd ei ddarganfyddiadau yn ei lyfr De Humani Corporis Fabrica, a gyhoeddodd pan oedd yn 28 mlwydd oed.

Yn fuan wedi cyhoeddi ei lyfr, penodwyd ef yn feddyg yn llys Siarl V, Ymerawdwr Glân Rhufeinig, ac yn ddiweddarach gwasanaethodd ei fab Philip II.

Yn ystod bererindod i'r Tir Sanctaidd ym 1564 bu farw pan gafodd ei longddryllio ar ynys Zakynthos.