Americanwyr Affricanaidd

Oddi ar Wicipedia
Martin Luther King, un o arweinwyr y Mudiad Hawliau Sifil

Americanwyr o linach ddu Gorllewin Affricanaidd yw Americanwyr Affricanaidd a elwir hefyd yn Americanwyr Duon neu'n Affro-Americanwyr. Mae eu mwyafrif yn ddisgynyddion i gaethweision o oes caethwasiaeth yr Unol Daleithiau, ond mae eraill yn fewnfudwyr duon o Affrica, y Caribî, Canolbarth America a De America, neu'n ddisgynyddion i fewnfudwyr o'r rhanbarthau hyn. Americanwyr Affricanaidd yw'r categori ethnig mwyaf ond dau yn yr Unol Daleithiau, ar ôl Americanwyr Gwynion ac Americanwyr Latino.

Mae hanes yr Americanwyr Affricanaidd yn agwedd bwysig o hanes yr Unol Daleithiau, sy'n cynnwys y fasnach gaethweision, eu rhyddfreiniad yn ystod Rhyfel Cartref America, arwahanu hiliol drwy ddeddfau Jim Crow, y Mudiad Hawliau Sifil, ac etholiad Barack Obama yn Arlywydd yr Unol Daleithiau yn 2008.

Eginyn erthygl sydd uchod am yr Unol Daleithiau. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.