Alma mater

Oddi ar Wicipedia
Cerflun i'r Alma Mater gan Mario Korbel, ym Mhrifysgol Havana, Ciwba.

Ymadrodd Lladin yw Alma mater am brifysgol neu goleg. Tarddiad y gair yw dau air Lladin: alma "llawn maeth/caredig" a mater "mam" hy "y fam a roddodd faeth". Mae'n perthyn yn agor i'r term alumnus, sef myfyriwr graddiedig, neu yn llythrennol: "maethiad ifanc" neu "un a roddwyd iddo fwyd".[1] Defnyddir yr ymadrodd 'Alma mater' yn aml i gyfeirio at y coleg mae person wedi ei fynychu yn ystod ei oes. Fel arfer, cyfeirir at y coleg cyntaf, y radd gyntaf i'r person ei derbyn.[2] Dyma'r ystyr modern i'r gair.

Cyn yr 17eg ganrif, roedd yr ymadrodd yn cyfeirio at naill ai fel teitl anrhydeddus am dduwiesau mamol e.e. Ceres neu Cybele neu yn yr Eglwys Gatholig fel teitl i'r Forwyn Fair.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. Cresswell, Julia (2010). Oxford Dictionary of Word Origins. Oxford University Press. t. 12. Cyrchwyd 18 Mai 2015.
  2. "Alma mater" at Dictionary.com. Adalwyd 11 Gorffennaf 2011.