Ainŵeg

Oddi ar Wicipedia
Ainŵeg
Enghraifft o'r canlynoliaith, iaith fyw Edit this on Wikidata
MathAinu Edit this on Wikidata
Yn cynnwysHokkaido Ainu, Sakhalin Ainu, Kuril Ainu Edit this on Wikidata
Nifer y siaradwyr 
  • 10 (2007)[1]
  • cod ISO 639-2ain Edit this on Wikidata
    cod ISO 639-3ain Edit this on Wikidata
    System ysgrifennuAinu orthography, yr wyddor Ladin Edit this on Wikidata

    Ainŵeg (Ainŵeg: アィヌ・イタㇰ Aynu=itak; Japaneg: アイヌ語 Ainu-go) yw iaith a siaredir gan aelodau’r grŵp ethnig Ainw ar ynys Hokkaidō yng ngogledd Japan. Mae hi’n iaith mewn perygl,[2][3] ond ceir ymgais i’w hadfywio.[4] Mae anghytundeb ar sawl siaradwr sydd yn bodoli heddiw, ac mae'r niferoedd yn amrywio rhwng 2 a 15 o siaradwyr.[5]

    Siaredir Ainŵeg yn flaenorol yn eang ar draws Hokkaidō, ar draws llawer o ynys Sachalin, ac ar yr ynysoedd Kuril sydd yn cysylltu gogledd-ddwyrain Hokkaidō â gorynys Kamchatka yn Siberia. Mae hefyd arwydd o’r iaith yn cael ei defnyddio ar Honshū, rhan ogleddol prif ynys Japan, o edrych ar enwau llefydd yn yr ardal. Mae’r ardaloedd traddodiadol lle bu’r iaith yn cael ei siarad wedi dioddef symudiad iaith enfawr dros y 200 mlynedd diwethaf.[6]

    Dosbarthiad ieithyddol[golygu | golygu cod]

    Disgrifir Ainŵeg fel iaith arunig[2], h.y. nid yw hi'n perthyn i unrhyw iaith arall, ond mae sawl awgrym wedi bod ynglŷn â pha deulu ieithyddol y mae'r Ainŵeg yn ei berthyn iddo. Yn ei eiriadur Ainŵeg-Saesneg-Japaneg ym 1889, awgrymodd John Batchelor bod yr iaith yn perthyn i'r ieithoedd Indo-Ewropeaidd, gan gymharu geiriau rhwng Ainŵeg a'r Gymraeg a Chernyweg,[7] er enghraifft garu a garw sydd â'r un ystyr; guru, sy'n golygu 'person' neu 'dyn', a gŵr; pen, sydd yn golygu aber, rhan uwch o ddyffryn, neu darddle, mewn cymhariaeth a'r gair pen yn y Gymraeg; a chisei, tshe neu che, sydd yn golygu 'tŷ', a oedd Batchelor yn gweld yn debyg i'r gair Cernyweg tshey, sef 'tai'.[8]

    Siaradwyr[golygu | golygu cod]

    Ystyrir yr Ainŵeg yn iaith mewn perygl ers cyn y 1960au. Mae’r rhan fwyaf o’r 15,000 o Ainwiaid ethnig yn Japan yn siarad Japaneg yn unig. Yn ystod y 1980au roedd 100 siaradwr, a dim ond pymtheg ohonynt a oedd yn defnyddio’r iaith yn feunyddiol. Ym 1996 roedd pymtheg o siaradwyr iaith gyntaf yn bodoli yn Japan[2], a phob un ohonynt o leiaf 80 mlwydd oed. Roedd Ainŵeg dal i'w clywed yn neheubarth ynys Sachalin ar ddechrau'r 20g. Bu farw siaradwr olaf Ainŵeg ynys Sachalin ym 1994[9].

    Mae DeChicchis (1995) yn categoreiddio siaradwyr Ainŵeg mewn i 4 grŵp[10][11]:

    • Siaradwyr archifol – y siaradwyr sydd i’w clywed mewn hen recordiau o’r iaith
    • Siaradwyr dwyieithog a gafodd eu magu yn clywed neu siarad Ainŵeg yn y gymuned fel plant
    • Siaradwyr symbolaidd sydd yn cofio rhai geiriau ac ymadroddion ac weithiau’n eu defnyddio wrth siarad Japaneg
    • Siaradwyr ail-iaith sydd yn dysgu Ainŵeg naill ai oherwydd rhesymau etifeddiaeth neu o ran diddordeb personol. 

    Dirywiad ac adfywiad[golygu | golygu cod]

    Dechreuodd dirywiad Ainŵeg yn y 19g yn ystod yr Oes Meiji. Roedd angen i Japan diffinio ei ororau gogleddol yn erbyn Rwsia, felly roedd rhaid i'r wladwriaeth taeru mai Japaneaid oedd y cynfrodorion ar Ezo (enw gwreiddiol Hokkaidō) er mwyn hawlio mai rhan o Japan oedd yr ynys,[11] a newidiwyd enw'r ynys i Hokkaidō ym 1869. Crewyd y Deddf Diogelu Cynfrodorion Hokkaidō (Japaneg: hokkaidō kyūdojin hogohō) ym 1899 i gymathu ac integreiddio'r Ainwiaid i ddiwylliant Japan gan eu gwahardd rhag gymryd rhan mewn traddodiadau diwylliannol brodorol, gan gynnwys siarad eu hiaith.[11][12] Yn sgil hyn, diflannodd yr iaith o ddefnydd beunyddiol yn y gymuned, y teulu, yr ysgol a pharthau cyhoeddus eraill.[10]

    Heddiw mae mudiad i adfywio’r iaith, yn bennaf yn Hokkaidō ond hefyd mewn mannau eraill, ac nawr mae yna nifer gynyddol o ddysgwyr ail iaith. Ym 1997 crëwyd y Deddf Hyrwyddo Diwylliant Ainu a sefydliwyd y Sefydliad ar gyfer Ymchwil a Hyrwyddo Diwylliant Ainw (Saesneg: The Foundation for Research and Promotion of Ainu Culture (FRPAC)), yn cynnig hyfforddiant a dosbarthiadau, ac maent yn datblygu gwerslyfrau a deunyddiau dysgu eraill ac yn darlledu rhaglen radio i ddysgwyr.[13]

    Ffonoleg[golygu | golygu cod]

    Llafariaid[golygu | golygu cod]

    Blaen Canolog Cefn
    Caeedig i u
    Canol e o
    Agored a

    Cytseiniaid[golygu | golygu cod]

    Gwefusol Gwefusol-

    Felar

    Gorfannol Taflodol Felar Glotol
    Ffrwydrol p t k ʔ
    Affrithiol ts
    Trwynol m n
    Ffrithiol s h
    Amcanedig w j
    Tap ɾ

    Gall leisio'r cytseiniaid ffrwydrol /p t ts k/ i [b d dz g] rhwng lafariaid ac ar ôl cytseiniaid trwynol.

    Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

    1. (yn en) Ethnologue (25, 19 ed.), Dallas, Texas: SIL International, 21 Chwefror 2022, ISSN 1946-9675, OCLC 43349556, Wikidata Q14790, https://www.ethnologue.com/
    2. 2.0 2.1 2.2 https://www.ethnologue.com/country/JP/languages
    3. http://www.unesco.org/languages-atlas/en/atlasmap/language-id-475.html
    4. "copi archif". Archifwyd o'r [* gwreiddiol] Check |url= value (help) ar 2016-03-21. Cyrchwyd 2016-05-26.
    5. http://www.endangeredlanguages.com/lang/1212
    6. J.C. Maher, "Akot Itak: Our Language, Your Language: Ainu in Japan", yn Can Threatened Languages be Saved?  Reversing Language Shift, Revisited: a 21st Century Perspective, gol. Joshua Fishman (2001)
    7. Shibatani, Masayoshi (1990) The Languages of Japan
    8. Batchelor, John (1889: 73-74) An Ainu-English-Japanese Dictionary (Including a Grammar of the Ainu Language) Arlein: http://library.uoregon.edu/ec/e-asia/read/ainueng.pdf Archifwyd 2018-01-26 yn y Peiriant Wayback.
    9. Piłsudski, Bronisław; Alfred F. Majewicz (2004: 600). The Collected Works of Bronisław Piłsudski. Trends in Linguistics Series 3.
    10. 10.0 10.1 http://johncmaher.weebly.com/uploads/1/5/9/5/15955968/ainu-celtic.pdf
    11. 11.0 11.1 11.2 Gottlieb, Nanette (2005: 19-20) Language and Society in Japan
    12. Lie, John (2001) Multiethnic Japan
    13. "copi archif". Archifwyd o'r [* gwreiddiol] Check |url= value (help) ar 2015-09-23. Cyrchwyd 2016-05-26.