Agni

Oddi ar Wicipedia
Agni
Enghraifft o'r canlynolHindu deity, Rigvedic deities, fire deity Edit this on Wikidata
RhagflaenyddMitra Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia
Agni, duw'r tân
Erthygl am y duw yw hon. Gweler hefyd Agni (gwahaniaethu).

Duw Hindŵaidd a Vedig a gysylltir â thân yw Agni. Mae'r gair Sansgrit agni yn golygu "tân", ac yn gytras â'r gair Lladin ignis (gwraidd y gair Saesneg ignite). Mae gan Agni dair ffurf neu agwedd: tân, mellt a'r Haul.

Mae Agni yn un o'r pwysicaf o'r duwiau Vedig hynafol a cheir nifer o emynau cysegredig iddo yn y Rig Veda. Yn yr emynau hynny fe'i portreadir fel duw'r tân a derbyniwr offrymau trwy dân. Mae'r offrymau i Agni yn cael eu trosglwyddo i'r duwiau eraill am ei fod yn negesydd rhwng yr offeiriaid a'r duwiau a rhwng y duwiau eu hunain. Fel ei elfen, erys Agni yn ifanc yn dragwyddol am fod tân yn cael ei gynnau bob dydd (ar yr aelwyd ac yn yr awyr, fel yr Haul).

Lleihaodd pwysigrwydd rhai o'r duwiau Vedig eraill gyda threiglad amser, ond mae addoliad Agni yn goroesi yn rhan o ddefodau a chred Hindŵaeth heddiw.

Fel un o'r devas, mae Agni yn cael ei bortreadu mewn lluniau a cherfluniau gyda dwy neu saith o ddwylaw, dau ben a thair coes. Mae ganddo saith tafod tanllyd i lyfu menyn yr aberth; un o'i enwau yw Saptajihva ("[gyda] Saith Tafod"). Mae'n marchogaeth hwrdd neu'n gyrru cerbyd a dynnir gan geffylau tanllyd. Ei briodweddau yw bwyall, llusern, gleiniau a gwaywffon danllyd. Mewn delweddau, mae Agni yn dduw o liw coch gyda dau wyneb, a gwallt a llygaid du. Mae saith pelydr goleuni yn deillio o'i gorff.

Gweler hefyd[golygu | golygu cod]

Eginyn erthygl sydd uchod am Hindŵaeth. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.