Afon Volkhov

Oddi ar Wicipedia
Afon Volkhov
Mathafon Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirOblast Novgorod, Oblast Leningrad Edit this on Wikidata
GwladBaner Rwsia Rwsia
Cyfesurynnau58.4717°N 31.2825°E, 60.1289°N 32.3319°E Edit this on Wikidata
TarddiadLlyn Ilmen Edit this on Wikidata
AberLlyn Ladoga Edit this on Wikidata
LlednentyddAfon Tigoda, Afon Pchyovzha, Afon Maly Volkhovets, Vavol, Velya, Vloya, Vybro, Vyyka, Gzen, Glubochka, Derevyanka, Dymenka, Afon Elena, Zhubka, Zlatynka, Kerest, Meneksha, Olomna, Afon Oskuya, Osma, Pit'ba, Polist, Prost, Prusynya, Rakomka, Robeyka, Siglinka, Sosninka, Stipenka, Chazhenka, Chyornaya, Camlas Sievers Edit this on Wikidata
Dalgylch80,200 cilometr sgwâr Edit this on Wikidata
Hyd224 cilometr Edit this on Wikidata
Arllwysiad593 metr ciwbic yr eiliad Edit this on Wikidata
LlynnoeddLlyn Ladoga, Llyn Ilmen, Volkhov Reservoir Edit this on Wikidata
Map

Afon yng ngogledd-orllewin Rwsia Ewropeaidd yn llifo drwy Oblast Novgorod ac Oblast Leningrad yw Afon Volkhov (Rwsieg Во́лхов). Mae'n llifo o Lyn Ilmen i'r gogledd i Lyn Ladoga, llyn mwyaf Ewrop. Hi yw'r unig afon i lifo allan o Lyn Ilmen. Ei hyd yw 224 km, a'i chwymp yw 15m. Rheolir lefel y dŵr gan Argae Hydroelectrig Volkhov (agorwyd 19 Rhagfyr 1926), a leolir 25 km i fyny o aber yr afon. Mae'r afon yn rhewi tua diwedd mis Tachwedd, ac yn toddi yn gynnar ym mis Ebrill. Y prif drefi a dinasoedd ar ei hyd yw Velikiy Novgorod, Kirishi, Volkhov a Novaya Ladoga.

Afon Volkhov ger Velikiy Novgorod a Mynachlog Yuriev
Eginyn erthygl sydd uchod am Rwsia. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.