Afon Ebwy

Oddi ar Wicipedia
Afon Ebwy
Mathafon Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirCymru Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Uwch y môr3 metr Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau51.55°N 2.98°W Edit this on Wikidata
AberAfon Wysg Edit this on Wikidata
LlednentyddAfon Ebwy Fach, Ebbw Fawr River, Afon Sirhywi Edit this on Wikidata
Map

Mae Afon Ebwy (Saesneg: River Ebbw) yn afon yn ne Cymru.

Ei tharddiad yw nentydd ar Fynydd Llangatwg ac mae'n llifo tua'r de ar hyd Glyn Ebwy, dan y ddaear am ran o'i thaith. Mae Afon Ebwy Fach yn llifo iddi yn Aber-big yna mae'n parhau tua'r de heibio Trecelyn ac Aber-carn i Crosskeys lle mae Afon Sirhywi yn ymuno â hi. Mae'n llifo tua'r de-ddwyrain trwy Rhisga ac ychydig i'r gorllewin o ddinas Casnewydd cyn ymuno ag Afon Wysg ychydig cyn i'r afon honno lifo i Fôr Hafren.

Cynrychiolir yr ardal hon yn y Cynulliad Cenedlaethol gan Alun Davies (Llafur Cymru) a'r Aelod Seneddol yw Nick Smith (Llafur).[1][2]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. Gwefan y Cynulliad;[dolen marw] adalwyd 24 Chwefror 2014
  2. Gwefan parliament.uk; adalwyd 24 Chwefror 2014
Eginyn erthygl sydd uchod am ddaearyddiaeth Cymru. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.