Adelaide Sophia Claxton

Oddi ar Wicipedia
Adelaide Sophia Claxton
Ganwyd19 Mai 1841 Edit this on Wikidata
Fitzroy Square Edit this on Wikidata
Bu farw29 Awst 1927 Edit this on Wikidata
Llundain Edit this on Wikidata
DinasyddiaethTeyrnas Unedig Prydain Fawr ac Iwerddon Edit this on Wikidata
Galwedigaetharlunydd, darlunydd, dyfeisiwr Edit this on Wikidata
TadMarshall Claxton Edit this on Wikidata

Roedd Adelaide Sophia Claxton (10 Mai 184129 Awst 1927)[1] yn beintiwr, darlunydd a dyfeisydd Seisnig. Hi oedd un o'r artistiaid benywaidd cyntaf ym Mhrydain i ennill rhan bwysig o'i fywoliaeth trwy'r wasg fasnachol, gan werthu darluniau dychanol a chomig i fwy na hanner dwsin o gyfnodolion.

Bywyd personol[golygu | golygu cod]

Ganwyd Claxton yn Llundain, yn un o ddwy ferch ddawnus yr arlunydd Prydeinig Marshall Claxton; Dilynodd Adelaide a'i chwaer Florence eu tad i ddod yn beintwyr. Fodd bynnag, nid oedd hi'n rhannu blas ei thad am baentiadau olew mawr. Astudiodd gelf yn Ysgol Cary yn ardal Bloomsbury yn Llundain, lle dechreuodd ganolbwyntio ar baentio ffigur mewn dyfrlliw.

Ym 1850, teithiodd gyda'i theulu i Awstralia, lle bu'n aros am bedair blynedd cyn dychwelyd i Loegr trwy Kolkata, India.

Gyrfa[golygu | golygu cod]

Adelaide Claxton, Wonderland.

Mae paentiadau Claxton yn cyfuno golygfeydd o fywyd domestig gydag elfennau llenyddol neu ffantasi fel ysbrydion a breuddwydion. Dechreuodd arddangos ei gwaith ar ddiwedd y 1850au yng Nghymdeithas yr Artistiaid Benywaidd (Society of Women Artists). Rhwng y 1850au a 1896 arddangoswyd sawl enghraifft o'i gwaith yn Academi Frenhinol y Celfyddydau, Academi Frenhinol Hibernaidd, a Chymdeithas Frenhinol Artistiaid Prydain, yn ogystal â Chymdeithas yr Artistiaid Benywaidd. Roedd un o'i gweithiau, A Midsummer Night's Dream at Hampton Court, mor boblogaidd ei bod hi wedi paentio 5 copi ohoni; peintiodd un arall, Little Nell, 13 gwaith. Mae Wonderland, darlun sy'n dangos merch fach yn darllen straeon gan y Brodyr Grimm wrth oleuadau cannwyll, wedi cael ei atgynhyrchu nifer o weithiau. Seiliodd yr arlunydd Saesneg, Walter Sickert, ei baentiad olew She Was the Belle of the Ball (After Adelaide Claxton) ar un o'i gweithiau.

Hysbyseb ar gyfer Ffrwythau Halen Eno's; ysgythriad ar ôl Adelaide Claxton.

Enillodd Claxton ei bywoliaeth yn rhannol trwy ei phaentiadau ac yn rhannol trwy werthu darluniau comig a lluniau dychanol o'r gymdeithas bonheddig i gylchgronau poblogaidd fel Bow Bells, The Illustrated London News, London Society, Judy (lle roedd hi'n un o'r prif ddarlunwyr),[2] a nifer o gyhoeddiadau eraill. Hi oedd un o'r artistiaid benywaidd cyntaf yng ngwledydd Prydain i weithio'n rheolaidd yn y farchnad gylchgrawn, lle cafodd ei thalu rhwng £ 2-£7 am bob darlun. Mor gynnar â 1859, ymddangosodd ei pheintiad The Standard-Carrier ar glawr blaen yr Illustrated Times[3]. Roedd Claxton hefyd yn awdur ddau lyfr darluniadol, A Shillingsworth of Sugar-Plums (1867) a Brainy Odds and Ends (1904).[4]

Mae gan archif House of Fraser, Prifysgol Glasgow casgliad o waith hysbysebu Adelaide Claxton. Mae peth o'i gwaith darluniadol wedi ei chadw yng nghasgliad Oriel Gelf Walker, Lerpwl, a sefydliadau celfyddydol eraill.[5]

Bywyd personol a dyfeisiadau[golygu | golygu cod]

Cap glust dan batent Adelaide Claxton

Ym 1874, priododd Claxton George Gordon Turner, achlysur a ddaeth a'i gyrfa fel arlunydd i ben. Ymgartrefodd y cwpl yn Chiswick a bu iddynt fab. Trodd Claxton ei llaw at ddyfeisio, ac yn y 1890au cofrestrodd sawl patent o dan ei enw priod, Adelaide Sophia Turner. Un o'r rhain oedd ar gyfer "Bagl cesail ar gyfer gorffwysiadau gwely a chefnau cadair". Roedd un arall ar gyfer cap clust ar gyfer gwirio clustiau plant oedd yn sticio allan yn ormodol.

Roedd Claxton yn aelod o bwyllgor Y Gymdeithas Gwisg Synhwyrol, oedd yn ymgyrchu yn erbyn gwisgoedd merched oedd yn anghyffyrddus ac yn andwyol i iechyd. Gan ddefnyddio ei ddiddordeb mewn diwygio gwisgoedd merched a'r wybodaeth dechnegol chafodd trwy ddarlunio hysbysebion staesiau dyfeisiodd y Claxton Classical Corset a oedd yn defnyddio elastig yn lle esgyrn i roi mwy o ryddid symud i ferched.

Diwedd oes[golygu | golygu cod]

Wedi marwolaeth ei gŵr bu Claxton yn byw yn yr Artists' General Benevolent Institution Home yn Earls Court, lle fu'n byw hyd ychydig cyn ei marwolaeth. Bu farw yn 28 Marloes Road, Kensington, Llundain.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. "Claxton, Adelaide Sophia (1841–1927), painters and illustrators" (yn en). Oxford Dictionary of National Biography. doi:10.1093/ref:odnb/9780198614128.001.0001/odnb-9780198614128-e-109621. http://www.oxforddnb.com/view/10.1093/ref:odnb/9780198614128.001.0001/odnb-9780198614128-e-109621.
  2. Brake, Laurel, and Marysa Demoor. Dictionary of Nineteenth-Century Journalism in Great Britain and Ireland. Academia Press, 2009, p. 126.
  3. Van Remoortel, Marianne, ed. "The Fine Art of Satire: Florence and Adelaide Claxton and the Magazines." In Women, Work and the Victorian Periodical: Living by the Press. Palgrave Macmillan, 2015, pp. 92–114.
  4. Baron, Wendy, and Walter Sickert. Sickert: Paintings and Drawings. Yale University Press, 2006, p.504.
  5. Gray, Sara. The Dictionary of British Women Artists. Casemate Publishers, 2009, p. 69.