Actau'r Apostolion

Oddi ar Wicipedia
Y Beibl
Y Testament Newydd

Llyfr yn y Testament Newydd yw Actau'r Apostolion (Lladin: Acta Apostolorum), hefyd Llyfr yr Actau (talfyriad: Act.). Mae'n dechrau gydag esgyniad Iesu Grist i'r nefoedd, yna'n rhoi hannes yr Eglwys Fore yn Jeriwsalem a theithiau cenhadol yr Apostolion. Un o'r prif gymeriadau yw yr Apostol Paul. Rhoir hanes ei droedigaeth at Gristnogaeth a hanes tair o'i bedair taith genhadol.

Yr Ysbryd Glân yn disgyn ar yr Apostolion, llun gan El Greco.

Yn draddodiadol, ystyrir mai Luc oedd yr awdur. Nid oes sicrwydd o hyn, ond cred ysgolheigion mai Groegwr yn hytrach nag Iddew oedd yr awdur. Mae anghytundeb am ddyddiad y llyfr; cred rhai ysgolheigion iddo gael ei ysgrifennu yn fuan ar ôl 60 OC, tra cred eraill ei fod yn ddiweddarach, efallai tua 90 OC.