A. H. Dodd

Oddi ar Wicipedia
A. H. Dodd
Ganwyd1891 Edit this on Wikidata
Bu farw21 Mai 1975 Edit this on Wikidata
Alma mater
Galwedigaethhanesydd Edit this on Wikidata

Hanesydd Cymreig oedd yr Athro Arthur Herbert Dodd (1891 - 21 Mai 1975), a arbenigai yng nghyfnod y Tuduriaid a'r Stiwardiaid yng Nghymru ac yn hanes y Chwyldro Diwydiannol.

Bywgraffiadau[golygu | golygu cod]

Ganed Dodd yn Wrecsam, lle roedd ei dad Charles yn brifathro. Roedd tueddiadau academaidd yn y teulu; daeth un o'i dri brawd, C. H. Dodd, i amlygrwydd fel ysgolhaig yn arbenigo ar y Testament Newydd. Aeth i Ysgol Ramadeg Wrecsam ac yna i Goleg Newydd, Rhydychen ym 1911. Wedi graddio mewn hanes, ymunodd â chorfflu meddygol y fyddin (RAMC) ym 1914.

Penodwyd ef yn ddarlithydd yng Ngholeg Prifysgol Bangor ym 1919, ac ym 1930 dilynodd Syr John Edward Lloyd fel Athro Hanes yno. Bu hefyd yn dysgu yn yr Adran Efrydiau Allanol a Chymdeithas Addysg y Gweithwyr. Ymddeolodd ym 1958, ond bu'n gweithio wedyn fel curadur Amgueddfa Bangor ac yn dysgu yng Ngholeg y Normal, Bangor.

Llyfrau[golygu | golygu cod]

  • The Industrial Revolution in North Wales (1933)
  • Studies in Stuart Wales (1952)
  • Life in Elizabethan England (1961)
  • A History of Caernarvonshire (1968)
  • Life in Wales (1972)
  • A Short History of Wales (1977) (cyhoeddwyd ar ôl ei farwolaeth)