Y Gofid Mawr (COVID-19) yng Nghymru: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Wicipedia
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
cychwyn arni - help plis!
(Dim gwahaniaeth)

Fersiwn yn ôl 09:02, 28 Mawrth 2020

Yn Rhagfyr 1919 ymddangosodd y clefyd COVID-19, neu'r Gofid Mawr yn Wuhan, Tsieina. Ar 24 Ionawr 2020 roedd cynlluniau yn eu lle yng Nghymru gan Iechyd Cyhoeddus Cymru ar gyfer ymlediad yr epidemig .[1] Ar y diwrnod hwn, hefyd, nododd ICC eu bod wedi profi un claf am yr haint, ond ei fod yn glir; yn Wuhan, roedd 26 wedi marw a Llywodraeth Tsieina wedi cyhoeddi cyfyngiadau teithio (neu "locdawn") llwyr. Ar 1 Chwefror canslwyd y digwyddiad cyntaf yng Nghymru, sef Dathliadau'r Flwyddyn Newydd Tsieineaidd ym Mangor a oedd i'w gynnal ar ddydd Sadwrn 1 Chwefror.Gwall cyfeirio: Mae tag clo </ref> ar goll ar gyfer y tag <ref>

Drwy Chwefror a Mawrth 2020, lledaenodd y clefyd yn fyd-eang, gan arwain at bandemig. Dyma'r digwyddiadau a'r cerrig milltir mewn llinell amser:

Chwefror

  • 28 Chwefror - 'Coronafeirws: Achos cyntaf Cymru wedi'i ganfod yn Abertawe'.Gwall cyfeirio: Mae tag clo </ref> ar goll ar gyfer y tag <ref>
  • 21 Mawrth - twristiaid yn tyrru i fewn i Gymru i'w tai haf a'u carafanau; posteri a cheir yn cael eu gosod i geisio atal hyn a galw mawr ar Lywodraeth Cymru i ymateb.
  • 25 Mawrth = Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri wedi cyhoeddi y byddan nhw'n cau mynediad i'r mynyddoedd prysuraf ar unwaith.[2]
  • 28 Mawrth, dywedodd yr Athro Deian Hopkin ar Radio Cymru "Pam yn y byd fod na ddiffyg paratoi, a hwnnw'n ddiffyg o ran yr offer diogelwch a'r broblem o fethu prynnu nwyddau, gan nad oedd unrhyw system dogni yn ei lle. Roedd diffyg gwybodaeth hefyd yn bodoli yng ngwanwyn 2020."

Gweler hefyd

Cyfeiriadau

  1. www.bbc.co.uk; adalwyd 28 Mawrth 2020.
  2. Gwefan bbc.co.uk; adalwyd 28 Mawrth 2020.