Nordrhein-Westfalen: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
Kamen |
Sian EJ (sgwrs | cyfraniadau) gwybodlen wd |
||
Llinell 1: | Llinell 1: | ||
[[Delwedd:Mecklenburg-Vorpommern Map Districts Border Mecklenburg Western Pomerania - Landkreise Grenzen Karte MV MeckPomm.svg|bawd|chwith|300px|Mecklenburg & Pomerania]] |
|||
[[Delwedd:Deutschland Lage von Nordrhein-Westfalen.svg|bawd|de|200px|Lleoliad Nordrhein-Westfalen o fewn yr Almaen]] |
|||
Un o daleithiau ffederal (''Länder'') yr Almaen yw '''Nordrhein-Westfalen''' (yn llythrennol 'Gogledd Rhein a Westfalen'). Fe'i lleolir yng ngorllewin canolbarth y wlad, ar y ffin â'r [[Iseldiroedd]] a [[Gwlad Belg]]. Mae'n cynnwys nifer o ddinasoedd mawr, gan gynnwys [[Düsseldorf]], prifddinas y dalaith, [[Cwlen]], ei dinas fwyaf, [[Aachen]], [[Bielefeld]], [[Bonn]], [[Bochum]], [[Essen]], [[Dortmund]], [[Duisburg]], [[Gelsenkirchen]], [[Münster]], [[Oberhausen]], [[Paderborn]] a [[Wuppertal]]. |

Fersiwn yn ôl 14:15, 27 Mawrth 2020
Un o daleithiau ffederal (Länder) yr Almaen yw Nordrhein-Westfalen (yn llythrennol 'Gogledd Rhein a Westfalen'). Fe'i lleolir yng ngorllewin canolbarth y wlad, ar y ffin â'r Iseldiroedd a Gwlad Belg. Mae'n cynnwys nifer o ddinasoedd mawr, gan gynnwys Düsseldorf, prifddinas y dalaith, Cwlen, ei dinas fwyaf, Aachen, Bielefeld, Bonn, Bochum, Essen, Dortmund, Duisburg, Gelsenkirchen, Münster, Oberhausen, Paderborn a Wuppertal.
Daearyddiaeth
Mae Nordrhein-Westfalen yn cynnwys rhan ogleddol y Rheinland (Nordrhein) ac ardal Westfalen. Mae Afon Rhein ei hun yn rhannu'r ddwy ardal oddi wrth ei gilydd, Nordrhein yn y gorllewin, a Westfalen yn y dwyrain. Canol y dalaith yw ardal ddiwydiannol y Ruhr.
Hanes
Crewyd y dalaith gan y weinyddiaeth filwrol Brydeinig ym 1946 allan o rhan ogleddol yr hen Rheinprovinz (Talaith y Rhein) a thalaith Westfalen. Daeth y dalaith newydd â holl ardaloedd y Ruhr at ei gilydd. Gan fod y dalaith newydd o fewn parth meddiannol Prydain, roedd hyn yn sicrhau rheolaeth Prydain dros ardal ddiwydiannol fwya'r Almaen. Ychwanegwyd hen dalaith Lippe ati ym 1947. Mae'r ffiniau wedi aros yr un ers hynny.
Pobl nodedig a anwyd yn Nordrhein-Westfalen
- Petra Reski, a anwyd yn Kamen; nofelydd
Cyfeiriadau