Neil Armstrong: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Wicipedia
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
B r2.7.1) (robot yn ychwanegu: gd:Neil Armstrong
B r2.7.1) (robot yn ychwanegu: so:Nayl armistaroong
Llinell 90: Llinell 90:
[[sk:Neil Armstrong]]
[[sk:Neil Armstrong]]
[[sl:Neil Armstrong]]
[[sl:Neil Armstrong]]
[[so:Nayl armistaroong]]
[[sq:Neil Armstrong]]
[[sq:Neil Armstrong]]
[[sr:Нил Армстронг]]
[[sr:Нил Армстронг]]

Fersiwn yn ôl 21:09, 2 Mai 2011

Neil Armstrong

Neil Alden Armstrong (ganed 5 Awst, 1930) oedd y person cyntaf i roi ei droed ar y Lleuad.

Ganed ef yn Wapakoneta, Ohio yn yr Unol Daleithiau. Astudiodd ym Mhrifysgol Purdue cyn ymuno a Llynges yr Unol Daleithiau. Bu'n ymladd yn Rhyfel Corea. Wedi'r rhyfel bu'n beilot prawf.

Bu yn y gofod am y tro cyntaf ar Gemini 8 yn 1966, pan fu'n gyfrifol gyda David Scott am ddocio dwy long ofod wrth ei gilydd am y tro cyntaf. Ef oedd y pennaeth ar Apollo 11 a laniodd ar y lleuad ar 20 Gorffennaf, 1969. Treuliodd Armstrong a Buzz Aldrin ddwy awr a hanner ar wyneb y lleuad tra roedd Michael Collins mewn orbit uwchben.