William Butler Yeats: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Wicipedia
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
FoxBot (sgwrs | cyfraniadau)
Llinell 5: Llinell 5:


==Bywgraffiad==
==Bywgraffiad==
Ganed Yeats yn [[Sandymount]] ger [[Dulyn]], [[Iwerddon]]. Bu farw ar 28 Ionawr 1939 yn [[Roquebrune-Cap-Martin]] ger [[Nice]], [[Monaco]]. Claddwyd ef ym mynwent [[Drumcliff]], ger [[Sligo]] yn [[Swydd Sligo]].
Ganed Yeats yn [[Sandymount]] ger [[Dulyn]], [[Iwerddon]], mab yr arlunydd [[John Butler Yeats]] ac yn frawd yr arlunydd [[Jack B. Yeats]]. Bu farw ar 28 Ionawr 1939 yn [[Roquebrune-Cap-Martin]] ger [[Nice]], [[Monaco]]. Claddwyd ef ym mynwent [[Drumcliff]], ger [[Sligo]] yn [[Swydd Sligo]].


==Gwaith llenyddol==
==Gwaith llenyddol==

Fersiwn yn ôl 16:49, 25 Ebrill 2011

William Butler Yeats, 1933
Cerflun Yeats yn Sligeach
Bedd Yeats yn Droim Chliabh

Bardd a dramodydd Gwyddelig yn ysgrifennu yn Saesneg oedd William Butler Yeats (13 Mehefin 1865 - 28 Ionawr 1939). Roedd yn un o'r ffigyrau amlycaf yn y Dadeni Llenyddol yn Iwerddon ar droad yr 20fed ganrif. Ystyrir ef yn un o'r beirdd pwysicaf i ysgrifennu yn Saesneg yn yr 20fed ganrif. Dyfarnwyd Gwobr Llenyddiaeth Nobel iddo yn 1923.

Bywgraffiad

Ganed Yeats yn Sandymount ger Dulyn, Iwerddon, mab yr arlunydd John Butler Yeats ac yn frawd yr arlunydd Jack B. Yeats. Bu farw ar 28 Ionawr 1939 yn Roquebrune-Cap-Martin ger Nice, Monaco. Claddwyd ef ym mynwent Drumcliff, ger Sligo yn Swydd Sligo.

Gwaith llenyddol

Er iddo ysgrifennu yn Saesneg roedd gan Yeats ddiddordeb mawr yn y Wyddeleg a llên gwerin ei wlad. Cyhoeddodd Fairy and Folk Tales of the Irish Peasantry (1888) ac Irish Fairy Tales (1892), dwy gyfrol a ystyrir yn glasuron ar y pwnc. Roedd mytholeg, hanes a thraddodiadau Iwerddon yn ysbrydoli llawer o'i gerddi hefyd, a hynny mewn ysbryd gwlatgar. Amlygwyd ei wladgarwch yn fwy uniongyrchol mewn cerddi sy'n ymwneud â'r ymgyrch dros annibyniaeth Iwerddon: un o'r enwocaf o'r cerddi hynny yw Easter 1916 sy'n seiliedig ar ddigwyddiadau Gwrthryfel y Pasg a dienyddio James Connolly, Pádraig Pearse ac eraill gan yr awdurdodau Prydeinig.

Llyfryddiaeth

  • The Wanderings of Oisin and Other Poems (1889)
  • The Celtic Twilight (1893)
  • The Lake Isle of Innisfree (1893)
  • The land of heart's desire (1894)
  • The secret rose (1897)
  • The Wind Among the Reeds (1899)
  • Cathleen ni Houlihan (1902)
  • Ideas of Good and Evil (1903)
  • In the Seven Woods (1904)
  • Discoveries (1907)
  • Deirdre (1907)
  • The green helmet (1910)
  • Responsibilities (1914)
  • The Wild Swans at Coole (1917)
  • Four Plays for Dancers (1921)
  • Four Years (1921)
  • The Cat and the Moon (1924)
  • A Vision (1925)
  • Autobiographies (1926)
  • The Tower (1928)
  • The Winding Stair and Other Poems (1933)
  • Collected Plays (1934)
Baner Republic of IrelandEicon person Eginyn erthygl sydd uchod am Wyddel neu Wyddeles. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.

Nodyn:Cyswllt erthygl ddethol Nodyn:Cyswllt erthygl ddethol Nodyn:Cyswllt erthygl ddethol Nodyn:Cyswllt erthygl ddethol