Aneirin Karadog: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
Oergell (sgwrs | cyfraniadau) |
→top: Gwybodlen wd |
||
Llinell 1: | Llinell 1: | ||
{{ |
{{Person | fetchwikidata=ALL | onlysourced=no | suppressfields= dinasyddiaeth | nationality = {{banergwlad|Cymru}} |
||
| dateformat = dmy }} |
| dateformat = dmy }} |
||
Bardd, darlledwr, perfformiwr ac ieithydd yw '''Aneirin Karadog''' (ganed [[11 Mai]] [[1982]]) yn Ysbyty H.M Stanley, [[Llanelwy]]<ref>[http://www.literaturewales.org/rhestr-o-awduron/i/131877/ Gwefan Llenyddiaeth Cymru]; adalwyd 9 Rhagfyr 2015</ref>. |
Bardd, darlledwr, perfformiwr ac ieithydd yw '''Aneirin Karadog''' (ganed [[11 Mai]] [[1982]]) yn Ysbyty H.M Stanley, [[Llanelwy]]<ref>[http://www.literaturewales.org/rhestr-o-awduron/i/131877/ Gwefan Llenyddiaeth Cymru]; adalwyd 9 Rhagfyr 2015</ref>. |
Fersiwn yn ôl 06:08, 15 Mawrth 2020
Aneirin Karadog | |
---|---|
Ganwyd | 11 Mai 1982 Llanelwy |
Man preswyl | Kerlouan |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Alma mater | |
Galwedigaeth | bardd |
Adnabyddus am | awdl, Crap ar Farddoni |
Gwlad chwaraeon | Cymru |
Bardd, darlledwr, perfformiwr ac ieithydd yw Aneirin Karadog (ganed 11 Mai 1982) yn Ysbyty H.M Stanley, Llanelwy[1].
Fe'i magwyd yn Llanrwst cyn symud i Bontardawe yn y 1980au ac yna i Bontypridd a bu'n ddisgybl yn Ysgol Gynradd Pontardawe a Pont-Siôn-Norton ac yna yn Ysgol Gyfun Rhydfelen rhwng 1993-2000. Graddiodd wedyn o'r Coleg Newydd, Prifysgol Rhydychen, gyda gradd mewn Ffrangeg a Sbaeneg. Mae ei fam yn Llydawes a'i dad yn Gymro; gall siarad Cymraeg, Saesneg, Llydaweg, Ffrangeg a Sbaeneg yn rhugl.
Roedd yn arfer byw ym Mhontyberem yng Nghwm Gwendraeth Fawr gyda'i wraig Laura. Yn Haf 2018 symudodd y teulu i Lydaw gyda'r bwriad o drochi eu plant yn yr iaith Lydaweg. Maent yn byw yn Kerlouan, sef pentref genedigol mam Aneirin. Mae'n darlithio yn Université de Bretagne Occidentale.[2]
Gyrfa
Bu'n gweithio am gyfnod gyda Menter Iaith Rhondda Cynon Taf cyn cael swydd yn Llanelli fel ymchwilydd gyda chwmni teledu Tinopolis yn 2005. Mae wedi cyflwyno Wedi 7 ac arferai rannu'i amser rhwng y rhaglen Heno a Sam Ar y Sgrin, ar S4C.
Enillodd Wobr Emyr Feddyg yn Eisteddfod Casnewydd 2004 a Chadair Eisteddfod yr Urdd yn 2005. Cyhoeddodd gerddi ar y cyd yn y gyfrol Crap ar Farddoni. Yn Eisteddfod Wrecsam 2011 enillodd ar gystadleuaeth Y Delyneg.[angen ffynhonnell] Ym mis Mawrth 2012 cyhoeddodd ei gyfrol gyntaf o gerddi yn unigol: O Annwn i Geltia (Cyhoeddiadau Barddas). Cyfrannodd Huw Aaron ugain o luniau a chlawr i'r gyfrol.[3] Enillodd y gyfrol "O Annwn i Geltia" wobr Categori Barddoniaeth Llyfr y Flwyddyn.
Yn Eisteddfod yr Urdd Boncath, 2013, cyhoeddwyd mai Aneirin oedd Bardd Plant Cymru 2013-2015.
Mae bellach yn gweithio fel bardd a darlledwr llawrydd, ac yn gwneud ymchwil doethuriaethol ym Mhrifysgol Abertawe.[4]
Cerddoriaeth a llenyddiaeth
Bu'n aelod o Genod Droog a'r Diwygiad[5] ac mae wedi cyfrannu i amryw o albymau cerddorol, gyda Llwybr Llaethog, Cofi Bach a Tew Shady. Ym Mis Mawrth 2012 cyd-greodd a pherfformiodd Aneirin Bx3, sioe farddoniaeth i blant, ar y cyd gydag Eurig Salisbury, Catrin Dafydd a Llyr Bermo.[6]
Yn hydref 2013 cyhoeddodd albym gysyniadol mewn cynghanedd am zombis yng Nghwm Gwendraeth o'r enw "Y Meirw Byw" gyda'r prosiect Y Datgyfodiad, sy'n cynnwys geiriau gan Abeirin, cerddoriaeth gan Chris Josey a gwaith celf gan Huw Aaron. Bu'n un o 6 a greodd ac a berfformiodd sioe am Dylan Thomas o'r enw Dylan Live/Dylan ar Daith a deithiodd ledled cymru yn ystod 2014 ac gyrhaeddodd uchafbwynt drwy berfformio yn Pen Festival, Efrog newydd ym mis Mai 2014.
Yn 2007 cyflwynodd Aneirin Karadog gyfres Byd y Beirdd i Radio Cymru. Yn 2013, cyflwynodd a sgriptiodd Aneirin rhaglen ddogfen am Zombis i S4C o'r enw Sombis! Byd y Meirw Byw. Yn 2014 cyflwynodd ac actiodd Aneirin estyniad o'i hunan gyda barf piws hir mewn cyfres o'r enw Y Barf ar S4C, gan ymdrechu i gyflwyno barddoniaeth i wylwyr ifanc S4C mewn ffordd hwyliog.[7]
Fe recordiwyd albwm o'r enw Y Meirw Byw gyda Chris Josey dan yr enw artist Y Datygyfodiad.
Enillodd Gadair Eisteddfod Genedlaethol Sir Fynwy yn 2016 o dan y ffugenw "Tad Diymadferth?" Roedd ei gerdd, ar y testun "Ffiniau", yn archwilio rhyfel a heddwch.[4]
Llyfryddiaeth
- (Gydag eraill) Crap ar Farddoni. Gwasg Carreg Gwalch, 2006.
- O Annwn i Geltia. Cyhoeddiadau Barddas, 2012.
- Bylchau. Cyhoeddiadau Barddas, 2016.
- Llafargan. Cyhoeddiadau Barddas, 2019.
Cyfeiriadau
- ↑ Gwefan Llenyddiaeth Cymru; adalwyd 9 Rhagfyr 2015
- ↑ Aneirin Karadog: Codi pac a symud i Lydaw , BBC Cymru Fyw, 8 Mai 2018. Cyrchwyd ar 9 Awst 2019.
- ↑ Gwefan Gwales; adalwyd 17 Chwefror 2015
- ↑ 4.0 4.1 'Aneirin Karadog yn ennill Eisteddfod Genedlaethol Sir Fynwy'.http://www.bbc.co.uk/cymrufyw/36988660; adalwyd 8 Awst 2016.
- ↑ Karadog, Aneirin. Llenyddiaeth Cymru. Adalwyd ar 30 Tachwedd 2012.
- ↑ www.celfcymru.org.uk; Gwefan www.celfcymru.org.uk, Cyngor Celfyddydau Cymru;] adalwyd 17 Chwefror 2015
- ↑ Gwefan S4C; adalwyd 17 Chwefror 2015