Ynysoedd Cocos: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Wicipedia
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Escarbot (sgwrs | cyfraniadau)
B robot yn ychwanegu: rw:Ibirwa bya Koko
Llinell 52: Llinell 52:
[[gv:Ellanyn Cocos (Keeling)]]
[[gv:Ellanyn Cocos (Keeling)]]
[[he:איי קוקוס]]
[[he:איי קוקוס]]
[[hi:कोकोज (कीलिंग) द्वीप समूह]]
[[hi:कोकोस (कीलिंग) द्वीपसमूह]]
[[hif:Cocos (Keeling) Islands]]
[[hif:Cocos (Keeling) Islands]]
[[hr:Kokosovi otoci]]
[[hr:Kokosovi otoci]]

Fersiwn yn ôl 10:05, 13 Ebrill 2011

Baner Ynysoedd Cocos
Lleoliad Ynysoedd Cocos
Prif ynys

Grŵp o ynysoedd yng Nghefnfor India yw'r Ynysoedd Cocos (hefyd Ynysoedd Keeling) a reolir gan Awstralia fel 'tiriogaeth allanol' wrth yr enw swyddogol Tiriogaeth yr Ynysoedd Cocos (Keeling) (Saesneg: Territory of the Cocos (Keeling) Islands). Ceir dau atol a 27 o ynysoedd cwrel yn y grŵp. sy'n gorwedd tua hanner ffordd rhwng Awstralia a Sri Lanka ac i'r gorllewin o Indonesia. Y brifddinas yw West Island ond pentref Bantam yw'r anneddle mwyaf.

Yn 2010, roedd gan yr ynysoedd boblogaeth o tua 600.[1] Mae'r rhan fwyaf o'r ynysoedd llai yn anghyfanedd. Ceir y boblogaeth i gyd bron ar yr atol deheuol lle ceir dwy brif ynys, West Island a Home Island. Mae mwyafrif poblogaeth West Island (tua 100) yn bobl o dras Ewropeaidd a phobl o dras Malay yw'r mwyafrif ar Home Island (tua 500). Saesneg yw'r iaith swyddogol de facto ond siaredir tafodiaith o'r iaith Malaieg hefyd. Mae 80% o'r ynyswyr, sef y rhai o dras Malay, yn Fwslemiaid Sunni.

Mae'r ynysoedd dan reolaeth Awstralia ers 1955 ar ôl iddynt gael eu cipio a dod yn rhan o'r Ymerodraeth Brydeinig yn 1857. Llywodraethir Ynysoedd Cocos gan Llywodraethwr Cyffredinol yn ninas Canberra sy'n llywodraethu Ynys y Nadolig yn ogystal. Mae gan yr ynysoedd eu parth rhyngrwyd eu hunain, sef .cc.

Mae'r mwyafrif Malaieg eu hiaith yn teimlo bod llywodraeth Awstralia yn esgeuluso eu hiaith. Dim ond dwy ysgol sydd ar yr ynys. Saesneg yw unig iaith yr ysgolion hyn a gwrthodir hawl y plant i siarad tafodiaith Malaieg y Cocos yn yr ysgol, hyd yn oed wrth chwarae.[2]

Cyfeiriadau

  1. CIA World Factbook
  2. Paige Taylor, Crime in paradise lost in translation "The Australian", Awst 17, 2009

Dolenni allanol

Comin Wikimedia
Comin Wikimedia
Mae gan Gomin Wikimedia
gyfryngau sy'n berthnasol i: