Edith Gyömrői Ludowyk: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Wicipedia
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Dim crynodeb golygu
→‎top: Gwybodlen wd
Llinell 1: Llinell 1:
{{Gwybodlen person/Wicidata | fetchwikidata=ALL | onlysourced=no | suppressfields= dinasyddiaeth | nationality = {{banergwlad|Hwngari}} | dateformat = dmy}}
{{Person | fetchwikidata=ALL | onlysourced=no | suppressfields= dinasyddiaeth | nationality = {{banergwlad|Hwngari}} | dateformat = dmy}}


[[Awdur]]es Iddewig o [[Hwngari]] oedd '''Edith Gyömrői Ludowyk''' ([[8 Medi]] [[1896]] - [[11 Chwefror]] [[1987]]) sy'n cael ei hystyried yn nodigedig am ei gwaith fel [[bardd]], [[seicdreiddydd]] ac [[ymgyrchydd gwleidyddol]]. Bu'n byw am rai blynyddoedd yn [[Sri Lanka]].
[[Awdur]]es Iddewig o [[Hwngari]] oedd '''Edith Gyömrői Ludowyk''' ([[8 Medi]] [[1896]] - [[11 Chwefror]] [[1987]]) sy'n cael ei hystyried yn nodigedig am ei gwaith fel [[bardd]], [[seicdreiddydd]] ac [[ymgyrchydd gwleidyddol]]. Bu'n byw am rai blynyddoedd yn [[Sri Lanka]].

Fersiwn yn ôl 02:01, 15 Mawrth 2020

Edith Gyömrői Ludowyk
GanwydGlück Edit Edit this on Wikidata
8 Medi 1896 Edit this on Wikidata
Budapest Edit this on Wikidata
Bu farw10 Chwefror 1987 Edit this on Wikidata
Llundain Edit this on Wikidata
Man preswylSri Lanca Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Hwngari Hwngari
Galwedigaethbardd, seicdreiddydd, gweithredydd gwleidyddol, ysgrifennwr Edit this on Wikidata
Plaid WleidyddolPlaid Gomiwnyddol yr Almaen, Lanka Sama Samaja Party Edit this on Wikidata
PriodErvin Rényi, László Újvári, E. F. C. Ludowyk Edit this on Wikidata
PerthnasauIstván Hollós Edit this on Wikidata

Awdures Iddewig o Hwngari oedd Edith Gyömrői Ludowyk (8 Medi 1896 - 11 Chwefror 1987) sy'n cael ei hystyried yn nodigedig am ei gwaith fel bardd, seicdreiddydd ac ymgyrchydd gwleidyddol. Bu'n byw am rai blynyddoedd yn Sri Lanka.

Fe'i ganed yn Budapest a bu farw yn Llundain yn 90 oed.[1]

Bu'n briod i E. F. C. Ludowyk. Roedd yn gymarol wleidyddol ei natur, ac yn ystod ei hoes bu'n aelod o Blaid Gomiwnyddol yr Almaen a Plaid Lanka Sama Samaja.

Y dyddiau cynnar

Fe'i ganed i Ilona Pfeifer, a'i thad oedd Mark Gelb, a newidiodd ei enw yn 1899 i Gyömrői, a oedd yn saer. Roedd ganddi frawd iau, Boris, a chwaer a oedd ddwy flynedd yn hŷn o'r enw Márta.

Ar gais ei thad, dechreuodd astudio dylunio mewnol, ond yn ddiweddarach, aeth ni orffenodd y cwrs.[2] Yn 1914, priododd y peiriannydd cemegol Ervin Renyi - a chawsantfab, Gabor, a fyddai'n marw'n ddiweddarach mewn gwersyll ffasgiaidd - yna ysgarodd yn 1918. Trwy ei ewythr István Hollós, dechreuodd ddysgu am seicdreiddiad a mynychodd 5ed Gyngres Ryngwladol Seico-ddadansoddol yn Budapest.[3][4][5]

Comiwnyddiaeth

O 1918 ymlaen aeth i gynulliadau'r grŵp o ddeallusion, adain chwith o'r enw'r "Cylch Dydd Sul" a oedd yn cynnwys y seicoanalydd René Spitz. Yn 1919, bu'n gweithio i'r Weriniaeth Sofietaidd Hwngari ond yn dilyn ymosodiad gan Romania, syrthiodd y weriniaeth, a bu'n rhaid iddi weithio mewn ffatri gwneud parasiwtiaid yn Fienna.

Roedd hi'n adnabod yr awduron Hwngari Balázs Béla, y cyfansoddwr Hanns Eisler, yr awdur Tsiec Egon Kisch a Hermann Broch - a gyfieithodd ei barddoniaeth i'r Almaeneg. Wedi hynny bu am gyfnod byr yn Tsiecoslofacia a Rwmania. Ar ôl cael ei diarddel o Rwmania am ei chomiwnyddiaeth, ymsefydlodd yn Berlin yn 1923, gyda'i hail ŵr Laszlo Tology (Gluck). Dyluniodd wisgoedd ar gyfer ffilmiau Elisabeth Bergner yn Stiwdio Produktion Neumann a gweithiodd fel cyfieithydd ac fel ffotograffydd. Bu hefyd yn gweithio i'r papur newydd Rote Hilfe o Blaid Gomiwnyddol yr Almaen am gyfnod. Astudiodd seicdreiddiad o 1924 ymlaen. Ar ôl ymgymryd â hyfforddiant mewn dadansoddi (neu 'analeiddiwr seicolegol'; seicoanaleiddiwr) gydag Otto Fenichel, agorodd bractis.[6]

Hi oedd seicoanalydd y bardd Hwngaraidd József Attila, a sgwennodd gerddi serch iddi.

Pan ddaeth Hitler i rym yn 1933, ymfudodd Gyömrői i Prag gan ei bod yn Iddew; roedd yn gwrthwynebu ideolegau Natsïaidd. Y flwyddyn ganlynol dychwelodd i Budapest, lle ymunodd gyda Chymdeithas Seicolegol Hwngari. Rhwng 1936 a 1938, cynhaliodd seminarau a nosweithiau trafod ar faterion addysgol ymarferol.

Sri Lanka

Yn 1938, pan basiwyd cyfraith ffasgiaidd gwrth-Iddewig ac ymfudodd i Sri Lanka gyda'i thrydydd gŵr, y newyddiadurwr Laszlo Ujvári, a fu farw ym 1940. Cyfarfu a phriododd EFC Ludowyk, Athro Saesneg ym Mhrifysgol, Colombo.

Aelodaeth

Bu'n aelod o Gymdeithas Seico-analytig Almaeneg, Cymdeithas Seico-analytig Hwngari a Chymdeithas Seico-analytig Lloegr am rai blynyddoedd.

Gweithiau llenyddol

  • Rényi Edit versei, 1919
  • Versohnung[2]
  • Gegen den Strom, 1941
  • Miracle and Faith in Early Buddhism, 1944
  • Pubertätsriten der Mädchen in einer in Umwandlung begriffenen Gesellschaft, 1955
  • Megbékélés, 1979

Anrhydeddau


Cyfeiriadau

  1. Rhyw: Deutsche Nationalbibliothek; Staatsbibliothek zu Berlin; Bayerische Staatsbibliothek; Llyfrgell Genedlaethol Awstria (yn de), Gemeinsame Normdatei, Wikidata Q36578, https://gnd.network/, adalwyd 27 Ebrill 2014
  2. 2.0 2.1 A Woman against the current: Edith Ludowyk Gyomori. The Island Online
  3. A Woman Against the Current. The Life Paths of Edit Gyömrői (Gelb, Rényi, Glück, Ujvári, Ludowyk)
  4. Edith Gyömröi (1896-1987), Psychoanalytikerinnen. Biografisches Lexikon [1]
  5. Gyömrői Edit (Bp., 1896. szept. 8. – London, 1987.)
  6. Endre Kiss, Edit Gyömrői and Hermann Broch.