Hafaliad: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
B r2.7.1) (robot yn ychwanegu: war:Ekwasyon |
B r2.7.1) (robot yn ychwanegu: an:Equación |
||
Llinell 27: | Llinell 27: | ||
{{Link FA|fr}} |
{{Link FA|fr}} |
||
[[an:Equación]] |
|||
[[ar:معادلة رياضية]] |
[[ar:معادلة رياضية]] |
||
[[be:Ураўненне]] |
[[be:Ураўненне]] |
Fersiwn yn ôl 20:30, 12 Ebrill 2011
Gosodiad mathemategol yw hafaliad. Dywed fod dau wrthrych mathemategol union yr un peth. Mynegir hyn yn symbolaidd â'r hafalnod, = , a ddefnyddiwyd cyntaf gan y mathemategwr o Gymro, Robert Recorde. Dyma rhai enghreifftiau o hafaliadau:
- 2 + 3 = 5
neu
- x − x = 0
neu
- x = y
neu
- x + 1 = 2.
Unfathiannau yw'r cyntaf a'r ail: maent yn wir, pa bynnag werth a gymer y newidynnau ynddynt. Lle nad yw hafaliad yn unfathiant, fe all y gosodiad fod yn wir neu'n anwir yn dibynnu ar werthoedd y newidynnau ynddo. Fe gelwir gwerthoedd o'r newidynnau sy'n peri i'r gosodiad fod yn wir yn wreiddiau (neu datrysiadau) yr hafaliad. Dywedir eu bod yn bodlonni yr hafaliad. Yn y drydedd enghraifft uchod, mae nifer anfeidrol o ddatrysiadau, x = 1 , y = 1 er enghraifft. Yn y bedwaredd enghraifft, dim ond un datrysiad, x = 1 sy'n bodoli. Dywedir ei fod yn wraidd unigryw.
Priodweddau elfennol
Mewn algebra elfenol, os yw hafaliad yn wir, fe ellir deillio hafaliad gwir arall ohono wrth wneud y canlynol:
- Adio rhif i ddwy ochr yr hafaliad.
- Tynnu rhif o ddwy ochr yr hafaliad.
- Lluosi dwy ochr yr hafaliad â'r un rhif.
- Rhannu dwy ochr yr hafaliad ag unrhyw rhif an-sero.
- Yn gyffredinol, gellir gymhwyso ffwythiant i'r ddwy ochr.
Mae hafaledd yn enghraifft o berthynas unfathiant.