Ifor Rees (awdur): Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Wicipedia
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
B cat
Tagiau: Golygiad cod 2017
→‎top: Gwybodlen wd
Llinell 1: Llinell 1:
{{Gwybodlen person/Wicidata | fetchwikidata=ALL | onlysourced=no | suppressfields= dinasyddiaeth | nationality = {{banergwlad|Cymru}} | dateformat = dmy}}
{{Person | fetchwikidata=ALL | onlysourced=no | suppressfields= dinasyddiaeth | nationality = {{banergwlad|Cymru}} | dateformat = dmy}}
Awdur, cyfansoddwr, golygydd, cynhyrchydd a phregethwr oedd '''Ifor Rees''' ([[1 Mawrth]] [[1921]] – [[27 Chwefror]] [[2004]]).<ref>[http://www.tafelai.com/blw2004/TAFOD186g.pdf Taf Elai; Ebrill 2004]</ref> Fe'i ganwyd yn 1921 yn [[Glasgow]] lle roedd ei dad yn gweithio fel [[saer]] ym mhorthladdoedd y ddinas yn ystod [[y Rhyfel Byd Cyntaf]]. Dychwelodd ei deulu i [[Mynydd-bach|Fynydd-bach]], [[Abertawe]] pan oedd yn ifanc iawn. Cafodd ei addysg gynnar yn [[Tirdeunaw|Ysgol Tirdeunaw]], ac yna [[Ysgol Ramadeg Abertawe]] a [[Coleg y Brifysgol Abertawe|Choleg y Brifysgol Abertawe]] lle graddiodd gydag anrhydedd yn y Gymraeg. Yna, aeth yn bregethwr ar ôl mynychu’r Coleg Presbyteraidd yng [[Caerfyrddin|Nghaerfyrddin]].

Fersiwn yn ôl 21:25, 14 Mawrth 2020

Ifor Rees
Ganwyd1 Mawrth 1921 Edit this on Wikidata
Mynydd Bach Edit this on Wikidata
Bu farw27 Chwefror 2004 Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Alma mater
  • Ysgol Bishop Gore Edit this on Wikidata

Awdur, cyfansoddwr, golygydd, cynhyrchydd a phregethwr oedd Ifor Rees (1 Mawrth 192127 Chwefror 2004).[1] Fe'i ganwyd yn 1921 yn Glasgow lle roedd ei dad yn gweithio fel saer ym mhorthladdoedd y ddinas yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf. Dychwelodd ei deulu i Fynydd-bach, Abertawe pan oedd yn ifanc iawn. Cafodd ei addysg gynnar yn Ysgol Tirdeunaw, ac yna Ysgol Ramadeg Abertawe a Choleg y Brifysgol Abertawe lle graddiodd gydag anrhydedd yn y Gymraeg. Yna, aeth yn bregethwr ar ôl mynychu’r Coleg Presbyteraidd yng Nghaerfyrddin.

Ymunodd â’r BBC ym 1957 ym Mangor fel cynhyrchydd radio cyn cynhyrchu a chyflwyno rhaglenni am wledydd eraill lle bu’n arloesi yn y maes. Ar ôl gadael y BBC ym 1981, ffurfiodd gwmni cynhyrchu annibynnol ‘Ffilmiau’r Garth’ gyda’i wraig, Joan, gan adrodd hanesion nifer o wledydd gan gynnwys Groeg, Twrci, Denmarc a Dwyrain yr Almaen. Bu hefyd yn olrhain hanes O. M. Edwards mewn rhaglen a ffilmiwyd ar ynys Cyprus.

Roedd hefyd yn olygydd a chyhoeddodd nifer o gyfrolau. Ffurfiodd ddeuawd ysgafn gyda'i gyfaill Dafydd Evans. Ef oedd cyfansoddwr ac awdur y gân ‘Dros y Mynydd Du o Frynaman’.

Derbyniodd radd MA er anrhydedd yn 1996 am ei waith. Bu farw'n 2004 yn 82 oed.

Llyfryddiaeth

Cyfeiriadau