Ifor Williams: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
dyfarniad Bob Owen Tagiau: Golygiad cod 2017 |
→top: Gwybodlen wd |
||
Llinell 1: | Llinell 1: | ||
{{ |
{{Person | fetchwikidata=ALL | onlysourced=no | suppressfields= dinasyddiaeth | nationality = {{banergwlad|Cymru}} | dateformat = dmy}} |
||
:''Erthygl am yr ysgolhaig yw hon. Am y cwmni Cymreig gweler [[Ifor Williams (Trelars)|Trelars Ifor Williams]].'' |
:''Erthygl am yr ysgolhaig yw hon. Am y cwmni Cymreig gweler [[Ifor Williams (Trelars)|Trelars Ifor Williams]].'' |
||
Ysgolhaig [[Cymraeg]] oedd Syr '''Ifor Williams''' ([[16 Ebrill]] [[1881]] – [[4 Tachwedd]] [[1965]]), un o ffigyrau mwyaf blaengar ym myd astudiaethau [[Y Celtiaid|Celtaidd]] yng [[Cymru|Nghymru]] yn yr [[20fed ganrif|ugeinfed ganrif]]. Ei arbenigedd oedd [[llenyddiaeth Gymraeg]] gynnar, yn enwedig [[Cynfeirdd|barddoniaeth Hen Gymraeg]]. Cynhyrchodd y golygiadau safonol o nifer o destunau o bwys, yn enwedig ''Canu [[Aneirin]]'', ''Canu [[Taliesin]]'' a ''[[Pedair Cainc y Mabinogi]]''. Treuliodd ei holl yrfa ym [[Bangor|Mangor]], ger ei bentref genedigol, lle roedd e'n athro yn Adran Gymraeg y brifysgol. |
Ysgolhaig [[Cymraeg]] oedd Syr '''Ifor Williams''' ([[16 Ebrill]] [[1881]] – [[4 Tachwedd]] [[1965]]), un o ffigyrau mwyaf blaengar ym myd astudiaethau [[Y Celtiaid|Celtaidd]] yng [[Cymru|Nghymru]] yn yr [[20fed ganrif|ugeinfed ganrif]]. Ei arbenigedd oedd [[llenyddiaeth Gymraeg]] gynnar, yn enwedig [[Cynfeirdd|barddoniaeth Hen Gymraeg]]. Cynhyrchodd y golygiadau safonol o nifer o destunau o bwys, yn enwedig ''Canu [[Aneirin]]'', ''Canu [[Taliesin]]'' a ''[[Pedair Cainc y Mabinogi]]''. Treuliodd ei holl yrfa ym [[Bangor|Mangor]], ger ei bentref genedigol, lle roedd e'n athro yn Adran Gymraeg y brifysgol. |
Fersiwn yn ôl 21:25, 14 Mawrth 2020
Ifor Williams | |
---|---|
Ganwyd | 16 Ebrill 1881 Tre-garth |
Bu farw | 4 Tachwedd 1965 Cymru |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Alma mater | |
Galwedigaeth | ieithydd, beirniad llenyddol |
Cyflogwr | |
Gwobr/au | Cymrawd yr Academi Brydeinig |
- Erthygl am yr ysgolhaig yw hon. Am y cwmni Cymreig gweler Trelars Ifor Williams.
Ysgolhaig Cymraeg oedd Syr Ifor Williams (16 Ebrill 1881 – 4 Tachwedd 1965), un o ffigyrau mwyaf blaengar ym myd astudiaethau Celtaidd yng Nghymru yn yr ugeinfed ganrif. Ei arbenigedd oedd llenyddiaeth Gymraeg gynnar, yn enwedig barddoniaeth Hen Gymraeg. Cynhyrchodd y golygiadau safonol o nifer o destunau o bwys, yn enwedig Canu Aneirin, Canu Taliesin a Pedair Cainc y Mabinogi. Treuliodd ei holl yrfa ym Mangor, ger ei bentref genedigol, lle roedd e'n athro yn Adran Gymraeg y brifysgol.
Meddai Bob Owen, Croesor amdano: "ef yw'r myfyriwr caletaf yn ein hanes fel cenedl".[1]
Bywgraffiad
Fe'i ganed yn Mhendinas, Tregarth, ger Bangor, yn fab i chwarelwr, John Williams a'i wraig Jane. Cafodd ei addysg yng Ngholeg Prifysgol Gogledd Cymru, Bangor, lle astudiodd Gymraeg a Groeg. Dysgodd yno tan iddo ymddeol yn 1947. Penodwyd yn ddarlithydd cynorthwyol o dan yr Athro Syr John Morris-Jones. Derbyniodd gadair bersonol yn 1920, gan ddod yn bennaeth ar yr Adran Gymraeg yno pan fu farw Morris-Jones yn 1929.
Cyfraniad i astudiaethau Celtaidd
Roedd prif gyfraniad Wiilliams i ysgolheictod Cymraeg ym maes barddoniaeth gynnar. Golygodd nifer o testunau cynnar pwysig, sef y gweithiau barddol Canu Llywarch Hen (1935), Canu Aneirin (1938, y testun safonol cyntaf o'r Gododdin), Armes Prydain (1955) a Chanu Taliesin (1960).
Gwnaeth gyfraniad o bwys i astudiaeth rhyddiaith Gymraeg ganoloesol hefyd. Golygodd y gweithiau rhyddiaith Breuddwyd Maxen, Cyfranc Lludd a Llevelys (1910), Chwedlau Odo a Pedeir Keinc y Mabinogi. Golygydd Y Traethodydd oedd ef o 1939 tan 1964 a golygydd Bwletin y Bwrdd Gwybodau Celtaidd o 1937 tan 1948. Mae ei argraffiad o'r Pedair Cainc yn dal i fod yn safonol heddiw.
Rhai gweithiau eraill
Un o hoff bynciau Ifor Williams oedd enwau lleoedd Cymraeg ac erys ei gyfrol Enwau Lleoedd (1945) yn gyflwyniad safonol i'r pwnc. Ysgrifennodd yn ogystal Meddwn I (1946), cyfres o draethodau radio poblogaidd ar bynciau amrywiol. Mae'r gyfrol I Ddifyrru'r Amser (1959) yn cynnwys nifer o ysgrifau byr amrywiol, e.e. atgofion am ei blentyndod, myfyrdodau, ac ati.
Gweithiau
Ceir llyfryddiaeth lawn o waith Ifor Williams yn y gyfrol Sir Ifor Williams[:] A Bibliography, gol. Alun Eirug Davies (allbrintiwyd o Studia Celtica IV). Defnyddiol hefyd yw Mynegai i weithiau Ifor Williams, gol. Thomas Parry (Caerdydd, 1939).
- Breuddwyd Maxen. Bangor: Jarvis a Foster, 1908.
- Casgliad o waith Ieuan Deulwyn. Bangor: Welsh Manuscripts Society, 1909.
- Cywyddau Dafydd ap Gwilym a’i gyfoeswyr. Gol. Ifor Williams a Thomas Roberts. Bangor: Evan Thomas, 1914.
- Cywyddau Iolo Goch ac Eraill, 1350–1450. Gol. Henry Lewis, Thomas Roberts ac Ifor Williams. Bangor: Evan Thomas, 1925 (ail argraffiad diwgiedig, 1938).
- Canu Llywarch Hen. Caerdydd: Gwasg Prifysgol Cymru, 1935
- Pedeir Keinc y Mabinogi. Caerdydd: Gwasg Prifysgol Cymru, 1930.
- Canu Aneirin, gyda rhagymadrodd a nodiadau. Caerdydd: Gwasg Prifysgol Cymru, 1938.
- Lectures on early Welsh poetry. Dublin: Dublin Institute of Advanced Studies, 1944.
- Enwau lleoedd. Lerpwl: Gwasg y Brython, 1945.
- Chwedl Taliesin. Caerdydd: Gwasg Prifysgol Cymru, 1957.
- Canu Taliesin. Caerdydd: Gwasg Prifysgol Cymru, 1960.
Cyfeiriadau
- ↑ Dyfed Evans, Bywyd Bob Owen (Caernarfon: Gwasg Gwynedd, 1979), t. 75.