John Jones (seryddwr): Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Wicipedia
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Dim crynodeb golygu
→‎top: Gwybodlen wd
Llinell 1: Llinell 1:
{{Person
{{infobox person/Wikidata
| fetchwikidata=ALL
| fetchwikidata=ALL
| onlysourced=no
| onlysourced=no

Fersiwn yn ôl 20:22, 14 Mawrth 2020

John Jones
John Jones (1818–1898), Bangor, Cymru, gyda'i delesgop mwyaf, adlewyrchydd 8 modfedd o drawsfesur
Ganwyd1818 Edit this on Wikidata
Dwyran Edit this on Wikidata
Bu farw1898 Edit this on Wikidata
Bangor Edit this on Wikidata
DinasyddiaethTeyrnas Unedig Prydain Fawr ac Iwerddon, Cymru Edit this on Wikidata
Galwedigaethseryddwr, gweithiwr bôn braich Edit this on Wikidata
Llechen goffa John Jones

Seryddwr ac ieithydd Cymreig oedd John Jones (1818 - 1898), a adnabyddid hefyd fel John Jones y Sêr neu Ioan Bryngwyn Bach (ei enw barddol). Roedd yn ŵr hunanaddysgedig a enillodd gryn sylw yn ei oes fel seryddwr amatur. Roedd yn frodor o blwyf Llanidan, Ynys Môn.[1]

Bywgraffiad

Gweithiwr oedd John Jones ar hyd ei oes o ran ei alwedigaeth. Cafodd ei eni yn y Bryngwyn Bach ger Dwyran, Sir Fôn, yn 1818. Ychydig o addysg elfennol yn unig a gafodd yn blentyn. Cafodd waith fel gwas fferm ac yn 1848 aeth i weithio fel llwythwr llechi ym Mhorth Penrhyn ger Bangor.[2]

Darllenai lyfrau o lyfrgell gweinidog lleol a dysgodd am seryddiaeth - ei hoff bwnc - ac ieithoedd y Beibl gan ddod i fedru darllen Groeg a Hebraeg. Gwnaeth ddau sbienddrych (telesgop) iddo ei hun. Roedd hefyd yn barddoni.[1]

Daeth i amlygrwydd ar draws gwledydd Prydain pan gafodd ei "ddarganfod" gan yr awdur Samuel Smiles, a fu'n enwog yn ail hanner y 19g am ei lyfrau "dod ymlaen" poblogaidd fel Self-Help, a ymwelodd ag ef ym Mangor ac a ysgrifenodd amdano yn ei gyfrol Men of Invention and Industry (1884).[2]

Bu farw ym Mangor yn 1898.[1]

Llyfryddiaeth

  • Eleazar Roberts, 'John Jones y Seryddwr', Y Geninen (Gŵyl Dewi), 1901 , 42-6. Ysgrif sy'n cynnwys hanes byr ei fywyd ei hun gan John Jones.
  • Samuel Smiles, Men of Invention and Industry (Llundain, 1884)

Cyfeiriadau

  1. 1.0 1.1 1.2 Y Bywgraffiadur Ar-Lein
  2. 2.0 2.1 Eleazar Roberts. 'John Jones y Seryddwr', Y Geninen (Gŵyl Dewi), 1901 , 42-6.