Khushal Khan Khattak: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Wicipedia
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
B Gwybodlen wicidata
→‎top: Gwybodlen wd
Llinell 1: Llinell 1:
{{Person
{{infobox person/Wikidata
| fetchwikidata=ALL
| fetchwikidata=ALL
| onlysourced=no
| onlysourced=no

Fersiwn yn ôl 18:47, 14 Mawrth 2020

Khushal Khan Khattak
Ganwyd1613 Edit this on Wikidata
Akora Khattak Edit this on Wikidata
Bu farw19 Chwefror 1689 Edit this on Wikidata
Tirah Edit this on Wikidata
Galwedigaethbardd, ysgrifennwr Edit this on Wikidata
Swyddkhan Edit this on Wikidata
PlantGohar Khan Khattak, Ashraf Khan Khattak Edit this on Wikidata

Bardd yn yr iaith Pashto, rhyfelwr Pashtun a phennaeth llwyth y Khattack oedd Khushal Khan Khattak (161325 Chwefror 1689) (Pashto: خوشحال خان خټک). Roedd yn fardd gwladgarol a gyfansoddodd yng nghyfnod teyrnasiad yr ymerodron Mughal yn yr 17g; mae nifer o'i gerddi yn ceisio ysbrydoli y pobloedd Pashtun (Pathan) a'r Affganiaid i roi heibio eu cwerylon oesol ac uno â'i gilydd dros ryddid. Roedd yn rhyfelwr dewr ac enwog ac yn ddiweddarach fe'i llysenwyd "y Bardd-Ryfelwr Affgan". Roedd yn byw wrth droed mynyddoedd yr Hindu Kush yn yr ardal sydd erbyn heddiw yn Khyber Pakhtunkhwa, Pacistan.

Cyfansoddodd Khushal Khan gerddi ar sawl pwnc. Mae'n enwog am ei gerddi gwladgarol ond canai hefyd am fywyd yr heliwr rhydd, natur, bywyd da a chwmni merched hardd. Roedd yn arbennig o hoff o ferched yr Affridiaid, un o lwythau mawr y Ffin a arosodd yn ffyddlon i'w achos trwy gydol ei yrfa dymhestlog.[1]

Bu farw yn 78 oed gan adael ar ei ôl dros hanner cant o blant. Cafodd ei gladdu ym mryniau Khattack "allan o gyrraedd y Mughal"; mae'r beddrod i'w weld heddiw, nepell o Attock.[2]

Cyfeiriadau

  1. James W. Spain, The Way of the Pathans (Gwasg Prifysgol Rhydychen 1962, arg. newydd 1972), pennod 'The Warrior Bard'.
  2. The Way of the Pathans.