Sabino Arana: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Wicipedia
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
cats
Tagiau: Golygiad cod 2017
→‎top: Gwybodlen wd
Llinell 1: Llinell 1:
{{Gwybodlen person/Wikidata | fetchwikidata=ALL | nationality = {{banergwlad|Gwlad y Basg}} | onlysourced=no | suppressfields= cenedl dinasyddiaeth | dateformat = dmy }}
{{Person/Wikidata | fetchwikidata=ALL | nationality = {{banergwlad|Gwlad y Basg}} | onlysourced=no | suppressfields= cenedl dinasyddiaeth | dateformat = dmy }}
Awdur a gwleidydd [[gwlad y Basg|Basgaidd]] oedd '''Sabino Arana Goiri''', hefyd '''Arana ta Goiri'taŕ Sabin''' ([[26 Ionawr]] [[1865]] – [[25 Tachwedd]] [[1903]]). Ef oedd sylfaenydd [[Plaid Genedlaethol Gwlad y Basg]] (PNV), ac ystyrir mai ef oedd tad [[cenedlaetholdeb Basgaidd]].
Awdur a gwleidydd [[gwlad y Basg|Basgaidd]] oedd '''Sabino Arana Goiri''', hefyd '''Arana ta Goiri'taŕ Sabin''' ([[26 Ionawr]] [[1865]] – [[25 Tachwedd]] [[1903]]). Ef oedd sylfaenydd [[Plaid Genedlaethol Gwlad y Basg]] (PNV), ac ystyrir mai ef oedd tad [[cenedlaetholdeb Basgaidd]].



Fersiwn yn ôl 15:32, 14 Mawrth 2020

Nodyn:Person/Wikidata Awdur a gwleidydd Basgaidd oedd Sabino Arana Goiri, hefyd Arana ta Goiri'taŕ Sabin (26 Ionawr 186525 Tachwedd 1903). Ef oedd sylfaenydd Plaid Genedlaethol Gwlad y Basg (PNV), ac ystyrir mai ef oedd tad cenedlaetholdeb Basgaidd.

Ganed ef yn Abando, Bilbao. Dysgodd yn iaith Fasgeg fel gŵr ieuanc, a gwnaeth lawer o waith i geisio safoni'r orgraff. Bu farw yn Sukarrieta yn 38, o ganlyniad i glwyf Addison, a gafodd tra yng ngharchar. Roedd wedi ei garcharu am yrru neges i Arlywydd yr Unol Daleithiau, Theodore Roosevelt, yn ei ganmol am gynorthwyo Ciwba i ddod yn annibynnol ar Sbaen.

Dyfyniadau o waith Sabino Arana

“Nid wyf yn mynnu dim byd imi fy hun, yr wyf yn ei mynnu er mwyn Bizkaia; byddwn yn gadael iddyn nhw dorri fy nghorn gwddf â chyllell nid unwaith ond canwaith heb ofyn hyd yn oed cof i’m enw, os gwyddwn mai atgyfodi fy mamwlad a ddilynai.” El Juramento de Larrázabal, 1893

“Elfen anhepgor i genedl y Basgiaid yw’r Euskara, hebddi hi mae ein sefydliadau yn annychmygol.” 1886

“Mae ’na wahaniaeth ethnograffig rhwng bod yn Sbaenwr a bod yn Fasgwr, mae’r hil Fasgaidd yn hollol wahanol i’r hil Sbaenaidd.” Bizkaitarra, nº 11

“Mae’r rhai sy’n adnabod y Jeswitiaid yn gwybod bod cenedlaetholdeb Basgaidd yn gwbl Gatholig.” El Correo Vasco, 1899

“Daeth gyda’r goresgyniad maketo… annuwioldeb, pob math o anfoesoldeb, cabledd, trosedd, rhydd-feddwl, anghrediniaeth, sosialaeth, anarchiaeth… ei waith ef yw hyn i gyd.”