Robin Llwyd ab Owain: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Wicipedia
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Cell Danwydd (sgwrs | cyfraniadau)
dramau cerdd
→‎top: Gwybodlen wd
Llinell 1: Llinell 1:
{{Gwybodlen person/Wicidata | fetchwikidata=ALL | onlysourced=no | suppressfields= dinasyddiaeth | nationality = {{banergwlad|Cymru}} | dateformat = dmy}}
{{Person | fetchwikidata=ALL | onlysourced=no | suppressfields= dinasyddiaeth | nationality = {{banergwlad|Cymru}} | dateformat = dmy}}
[[Delwedd:Eisteddfod 1991.jpg|bawd|200px|de|Robin Llwyd ab Owain yn y seremoni cadeirio yn Eisteddfod Bro Delyn, 1991]]
[[Delwedd:Eisteddfod 1991.jpg|bawd|200px|de|Robin Llwyd ab Owain yn y seremoni cadeirio yn Eisteddfod Bro Delyn, 1991]]



Fersiwn yn ôl 15:18, 14 Mawrth 2020

Robin Llwyd ab Owain
LlaisRobin Owain Llais cy.ogg Edit this on Wikidata
GanwydMehefin 1958 Edit this on Wikidata
Cynwyd Edit this on Wikidata
Man preswylRhuthun Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Galwedigaethbardd, ysgrifennwr, cyhoeddwr, Wicipediwr Edit this on Wikidata
TadOwain Owain Edit this on Wikidata
Gwobr/auCadair yr Eisteddfod Genedlaethol Edit this on Wikidata
Robin Llwyd ab Owain yn y seremoni cadeirio yn Eisteddfod Bro Delyn, 1991

Bardd ac Enillydd Cadair Eisteddfod Genedlaethol Cymru yr Wyddgrug 1991 yw Robin Llwyd ab Owain (ganwyd Mehefin 1958; enw barddol: Robin Llwyd). Ysgrifennodd yr awdl Merch Ein Amserau mewn dull modern ac yn ôl un o'r beirniad Eirian Davies yn ei feirniadaeth yn y cyfansoddiadau, roedd yr awdl yn "torri tir newydd".

Mae e hefyd wedi ysgrifennu geiriau caneuon e.e. Pedair Oed (Rhys Meirion) a Brenin y Sêr (Bryn Terfel). Ysgrifennodd sgript a geiriau caneuon y dramâu cerdd Ceidwad y Gannwyll (1985), Rhys a Meinir (1987), Iarlles y Ffynnon (1992-3) a Pwy bia'r Gân? (2003).[1]

Dyw e ddim wedi cyhoeddi cyfrol (papur) o'i waith, ond cyhoeddwyd Rebel ar y We ar y we fyd-eang yn Rhagfyr 1996; hon oedd y gyfrol gyntaf yn y Gymraeg i'w rhoi ar y we fyd-eang.[2][3] Newidiwyd teitl y gyfrol ddigidol hon ar y 22 Mai 2006 i 'Rhedeg ar Wydr'.[4]

Bu'n brifathro am gyfnod o tua 15 mlynedd.

Wikimedia

Ar 1 Gorffennaf 2013, apwyntiwyd Robin yn Reolwr cyntaf i Gymru gan Wikimedia UK a Wici Cymru.[5][6] Mae ei rôl yn bwriadu ehangu y Wicipedia Cymraeg a deunydd Cymreig ar y Wicipedia Saesneg. Fel rhan o'r cynllun hwn, cyfrannodd Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn ariannol at hyfforddi olygyddion newydd.[6] Wrth siarad am apwyntiad Robi, dywedodd Jon Davies, Prif Weithredwr Wikimedia UK: "Mae apwyntiad Robin fel Rheolwr Cymru yn rhan hanfodol o'n strategaeth allgymorth. Y Wicipedia Cymraeg yw'r wefan Gymraeg mwyaf poblogaidd yn y byd a rydym yn falch o gefnogi'r Gymraeg."[5]

Llyfryddiaeth

Rhannau o fewn cyfrolau

  • Er Hwylio'r Haul Comisiynwyd gan Eisteddfod Genedlaethol Eryri a'r Cylch 2005
  • Wyth Cân, Pedair Sioe; Gwasg y Lolfa. Cerddoriaeth Robat Arwyn; geiriau gan Hywel Gwynfryn a Robin Llwyd.
  • Pedair Oed/Mae'r Gân yn ein Huno Dwy gân gan Robat Arwyn a Robin Llwyd; Trefniant SATB i 'Pedair Oed'. Trefniant deulais i 'Mae'r gân yn ein huno'.
cofnod Chwefror 2014

Problem chwarae ffeil yma? Gweler Cymorth.

Cyfeiriadau

  1. robatarwyn.co.uk; adalwyd Rhagfyr 2018.
  2. Llais Llyfrau, Hydref 1997: Erthygl gan Dafydd John Pritchard; Cyhoeddwyd gan Gyngor Llyfrau Cymru.
  3. Trafodaeth ar Welsh-L yn Chwefror 1997.
  4. Gwefan Robin llwyd
  5. 5.0 5.1 "Wikimedia UK yn penodi Rheolwr i Gymru / Wikimedia UK appoints Wales Manager". Wikimedia UK (yn Saesneg). 2013-07-02. Cyrchwyd 2013-07-25.
  6. 6.0 6.1 "Wicipedia Cymraeg: New manager looks to expand Wiki in Welsh". BBC News. 2013-07-02. Cyrchwyd 2013-07-25.

Gweler hefyd

Dolenni allanol