Morgan Owen (bardd a llenor): Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Wicipedia
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Tagiau: Golygiad drwy declyn symudol Golygiad ar declun symudol
Llinell 15: Llinell 15:


== Rhyddiaith ==
== Rhyddiaith ==
Mae'n ysgrifwr toreithiog, ac wedi cyhoeddi nifer o ysgrifau ac adolygiadau mewn cyhoeddiadau megis ''O'r Pedwar Gwynt'' ac ''Y Stamp''. Ym mis Ionawr, 2020, derbyniodd ysgoloriaeth awdur gan [[Llenyddiaeth Cymru]] er mwyn datblygu casgliad o ysgrifau ar themâu amrywiol, yn cynnwys tirwedd a'r amgylchedd, perthyn ac ymddieithriwch, ysgrifennu am natur a'r Gymru ôl-ddiwydiannol.<ref>https://www.llenyddiaethcymru.org/lw-news/amrywiaeth-o-leisiau-rhyfeddol/</ref>
Mae'n ysgrifwr toreithiog, ac wedi cyhoeddi nifer o ysgrifau ac adolygiadau mewn cyhoeddiadau megis ''O'r Pedwar Gwynt'' ac ''Y Stamp''. Ym mis Ionawr, 2020, derbyniodd ysgoloriaeth awdur gan [[Llenyddiaeth Cymru]] er mwyn datblygu casgliad o ysgrifau ar themâu amrywiol, gan gynnwys tirwedd a'r amgylchedd, perthyn ac ymddieithriwch, ysgrifennu am natur a'r Gymru ôl-ddiwydiannol.<ref>https://www.llenyddiaethcymru.org/lw-news/amrywiaeth-o-leisiau-rhyfeddol/</ref>


== Dramâu ==
== Dramâu ==

Fersiwn yn ôl 20:12, 9 Mawrth 2020

moroedd/dŵr (2019)

Bardd a llenor Cymreig sy'n hanu o Ferthyr Tudful yw Morgan Owen (ganed 13 Ionawr 1994).

Graddiodd gyda BA Cymraeg o Brifysgol Caerdydd yn 2016,[1] ac MA Astudiaethau Cymreig a Cheltaidd yn 2017, hefyd o Brifysgol Caerdydd, gan ymchwilio i ofodoldeb cerddi Dafydd ap Gwilym mewn perthynas â locus y goedwig.[2]

Ym mis Rhagfyr 2019, enillodd Wobr Michael Marks am Farddoniaeth yn yr Ieithoedd Celtaidd am ei gasgliad moroedd/dŵr. [3]

Barddoniaeth

Mae'n rhan o brosiect 'Awduron wrth eu Gwaith' Gŵyl y Gelli.[4] Fis Hydref 2018, ef oedd un o bedwar bardd a gymerodd ran yn Her 100 Cerdd Llenyddiaeth Cymru,[5], ynghyd ag Osian Owen, Caryl Bryn, a Manon Awst; a'r un flwyddyn, ef oedd bardd preswyl Arddangosfa Bensaernïaeth Y Lle Celf yn Eisteddfod Genedlaethol Cymru Caerdydd 2018. Mae wedi cyhoeddi gwaith yn O'r Pedwar Gwynt, [6] Barddas, ac Y Stamp, ymysg llefydd eraill. Enillodd Dlws Coffa D Gwyn Evans yn 2017 a 2018,[7] sef tlws a roddir gan y Gymdeithas Gerdd Dafod am y gerdd orau mewn cystadleuaeth i feirdd dan 25 oed. Ym mis Ebrill 2018, dyfarnwyd iddo Ysgoloriaeth Gerallt gan Y Gymdeithas Gerdd Dafod i fynychu cwrs cynganeddu dwys yn y Tŷ Newydd; ac yn ddiweddarach yn y flwyddyn, fe’i comisiynwyd gan y Y Senedd i gyfansoddi cerddi yn ymateb i nodweddion pensaernïol yr adeilad. Fe'i penodwyd yn Fardd y Mis BBC Radio Cymru ar gyfer mis Ionawr 2019.[8]

Lansiwyd ei gasgliad cyntaf o gerddi, pamffled dan y teitl moroedd/dŵr, yng Ngŵyl Arall, Caernarfon, fis Gorffennaf 2019. Cerddi am foroedd a dyfrffyrdd yw cynnwys y pamffled; ceir yn y casgliad fyfyrio ynghylch y ffin anelwig rhwng afonydd a'r môr, a'r modd y gall aberoedd fod yn gyfrwng i brofiadau dyn. Cyhoeddwyd y pamffled gan Gyhoeddiadau'r Stamp, ac mae'n cynnwys delweddau gan yr artist Timna Cox mewn ymateb i rai o'r cerddi.[9] Enillodd y casgliad hwn wobr Michael Marks am Farddoniaeth yn yr Ieithoedd Celtaidd yn Rhagfyr 2019.[10]

Ym mis Awst, 2019, cyhoeddwyd taw ef oedd ennillydd Her Gyfieithu Cyfnewidfa Lên Cymru/PEN Cymru yn Eisteddfod Genedlaethol Cymru Sir Conwy 2019.[11] Ym mis Medi 2019, enillodd gadair Eisteddfod Cwmystwyth, gyda cherdd yn y wers rydd ar y testun 'Bro'; fis yn ddiweddarach, enillodd gadair Eisteddod Bancffosfelen a Chrwbin.

Ddiwedd mis Hydref 2019, cyhoeddwyd ei gasgliad hir cyntaf o gerddi, Bedwen ar y lloer, gan Gyhoeddiadau'r Stamp.[12] Mae'r cerddi hyn yn mynd i'r afael â phrofiadau a llefydd ôl-ddiwydiannol, gyda thref enedigol y bardd, Merthyr Tudful, yn ganolog i lawer ohonynt, a theimladau o ymddieithrwch a pherthyn. Maent hefyd yn archwilio coedwigoedd hynafol a mannau dinesig, ucheldiroedd hynafol ac ymylon cymdeithas. Ceir canu natur yn ogystal, a thipyn o bwyslais ar sut mae hanes a phrofiad yn ymwau â gwahanol ofodau.

Rhyddiaith

Mae'n ysgrifwr toreithiog, ac wedi cyhoeddi nifer o ysgrifau ac adolygiadau mewn cyhoeddiadau megis O'r Pedwar Gwynt ac Y Stamp. Ym mis Ionawr, 2020, derbyniodd ysgoloriaeth awdur gan Llenyddiaeth Cymru er mwyn datblygu casgliad o ysgrifau ar themâu amrywiol, gan gynnwys tirwedd a'r amgylchedd, perthyn ac ymddieithriwch, ysgrifennu am natur a'r Gymru ôl-ddiwydiannol.[13]

Dramâu

Daeth yn ail agos yng nghystadleuaeth Medal Ddrama Eisteddfod yr Urdd yn 2018. Cyhoeddwyd detholiad o'r ddrama honno, 'Y Gweundir', fel atodiad i rifyn Haf 2018 o gylchgrawn Y Stamp.

Cyhoeddiadau

  • Bedwen ar y lloer (cyfrol o gerddi) - Cyhoeddiadau'r Stamp - Hydref 2019
  • moroedd/dŵr (pamffled o gerddi) - Cyhoeddiadau'r Stamp - Gorffennaf 2019
  • Y Gweundir (detholiad o ddrama) - atodiad i gylchgrawn Y Stamp, Haf 2018

Cyfeiriadau

  1. https://www.cardiff.ac.uk/cy/news/view/387391-celebrating-on-graduation-day
  2. discover.library.wales; adalwyd 28 Ionawr 2019.
  3. https://www.bbc.co.uk/cymrufyw/50732451
  4. https://www.hayfestival.com/writers-at-work/
  5. https://www.literaturewales.org/our-projects/her-100-cerdd/
  6. https://pedwargwynt.cymru/safle/tag/Morgan+Owen
  7. https://www.barddas.cymru/bardd/morgan-owen/
  8. https://www.bbc.co.uk/programmes/p06x0jww
  9. "Cerdd a chyhoeddiad: moroedd/dŵr - Morgan Owen". Cylchgrawn y Stamp. Cyrchwyd 2019-07-15.
  10. "Gwobr genedlaethol i fardd o Ferthyr". 2019-12-11. Cyrchwyd 2019-12-11.
  11. "Her Gyfieithu 2019: Cyhoeddi'r Enillydd – Wales PEN Cymru". Cyrchwyd 2019-08-09.
  12. https://www.ystamp.cymru/single-post/2019/10/23/Cyhoeddiad-Bedwen-ar-y-Lloer---Morgan-Owen
  13. https://www.llenyddiaethcymru.org/lw-news/amrywiaeth-o-leisiau-rhyfeddol/