Enw deuenwol: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Wicipedia
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
B r2.7.1) (robot yn ychwanegu: ht:Nomanklati binomyal
B r2.7.1) (robot yn newid: fi:Binominen nimistö
Llinell 35: Llinell 35:
[[eu:Nomenklatura binomial]]
[[eu:Nomenklatura binomial]]
[[fa:نام علمی]]
[[fa:نام علمی]]
[[fi:Kaksisanainen nimikkeistö]]
[[fi:Binominen nimistö]]
[[fr:Nom binominal]]
[[fr:Nom binominal]]
[[he:שם מדעי]]
[[he:שם מדעי]]

Fersiwn yn ôl 17:35, 1 Ebrill 2011

Carolus Linnaeus, sefydlydd y drefn o defnyddio enwau deuenwol

Enw deuenwol mewn Bioleg yw'r dull safonol o enwi rhywogaeth. Mae'n cynnwys dau enw: enw'r genws ac enw arbennig i'r rhywogaeth ei hun; er enghraifft Homo sapiens.

Yr arferion ynglŷn â'u defnyddio yw:

  • Fel rheol maent yn cael eu hysgrifennu mewn llythrennau italig.
  • Defnyddir llythyren fawr ar gyfer enw'r genws a llythyren fach ar gyfer enw'r rhywogaeth (hyd yn oed os yw'r enw hwnnw yn dod o enw person neu le).
  • Yn ffurfiol, mae'r enw deuenwol yn cael ei ddilyn gan gyfenw y person a ddisgrifiodd y rhywogaeth gyntaf
  • Mewn papur gwyddonol, rhoir yr enw yn llawn y tro cyntaf; wedi hynny gellir talfyrru enw'r genws; er enghraifft Aderyn y To Passer domesticus yn troi'n P. domesticus

Dechreuwyd y system gan Carolus Linnaeus (1707 - 1778), a geisiodd roi enw deuenwol i bob rhywogaeth oedd yn wybyddus iddo. O ganlyniad, enw Linnaeus sydd ynghlwm wrth y nifer fwyaf o enwau deuenwol, ac fe'i talfyrrir i L.

Daw'r enwau o'r Lladin neu o ieithoedd eraill, ond beth bynnag eu tarddiad maent yn cael eu trin fel pe baent yn Lladin o ran gramadeg.