Dodecanese: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Wicipedia
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
B r2.7.1) (robot yn ychwanegu: sq:Dodekanes
B r2.7.1) (robot yn ychwanegu: eu:Dodekanesoko uhartedia
Llinell 36: Llinell 36:
[[es:Archipiélago del Dodecaneso]]
[[es:Archipiélago del Dodecaneso]]
[[et:Dodekaneesid]]
[[et:Dodekaneesid]]
[[eu:Dodekanesoko uhartedia]]
[[fi:Dodekanesia]]
[[fi:Dodekanesia]]
[[fr:Dodécanèse]]
[[fr:Dodécanèse]]

Fersiwn yn ôl 15:58, 30 Mawrth 2011

Grŵp o ynysoedd yn nwyrain Gwlad Groeg yw'r Dodecanese. Ystyr yr enw Groeg yw "Y Deuddeg Ynys" ond mae'n enw camarweiniol braidd. Ceir 14 prif ynys yn y grŵp heddiw a cheir trigfannau ar ambell ynys lai yn ogystal. Yn ddiwylliannol ac yn wleidyddol maent yn perthyn i Wlad Groeg ond yn ddaearyddol mae nhw'n perthyn i Asia Leiaf am eu bod yn gorwedd yn agos iawn i'w harfordir de-orllewinol. Mae'r enw 'Dodecanese' yn deillio o 1908 pan unodd deuddeg ynys mewn protest yn erbyn colli eu breintiau traddodiadol dan lywodraeth yr Otomaniaid, a roddwyd iddynt yn y 16eg ganrif gan Suleiman y Mawreddog. Ystyrir ynys Rhodes, nad oedd yn un o'r deuddeg ynys gwreiddiol, fel y pennaf o'r Dodecanese heddiw gyda dinas Rhodes yn brifddinas y grŵp. Twristiaeth sy'n dominyddu'r economi lleol erbyn heddiw.

Y prif ynysoedd

Tref Pigadia ar ynys Karpathos
Eginyn erthygl sydd uchod am Wlad Groeg. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato