Daeargryn a tsunami Sendai 2011: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Wicipedia
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Mjbmrbot (sgwrs | cyfraniadau)
B r2.7.1) (robot yn ychwanegu: kl:Jordskælvet ved Torquato 2011
Llinell 67: Llinell 67:
[[jv:Lindhu lan tsunami Sendai 2011]]
[[jv:Lindhu lan tsunami Sendai 2011]]
[[ka:მიწისძვრა წყნარ ოკეანეში ტოჰოკუს რეგიონთან]]
[[ka:მიწისძვრა წყნარ ოკეანეში ტოჰოკუს რეგიონთან]]
[[kl:Jordskælvet ved Torquato 2011]]
[[ko:2011년 도호쿠 지방 태평양 앞바다 지진]]
[[ko:2011년 도호쿠 지방 태평양 앞바다 지진]]
[[ksh:Sendai-Ärdbebe va 2011]]
[[ksh:Sendai-Ärdbebe va 2011]]

Fersiwn yn ôl 06:55, 28 Mawrth 2011

Lleoliad y ddaeargryn.
Tokyo wedi'r daeargryn a tsunami Sendai

Daeargryn ar raddfa 9.0 Mw a darodd Sendai yn Japan, am 14:46 p.m. amser lleol ar 11 Mawrth 2011 (05:46:23 11 Mawrth UTC) oedd Daeargryn Sendai 2011. Roedd yr uwchganolbwynt yn agos i Sendai ar yr ynys Honshu, tua 130 kilometr (81 milltir) i ffwrdd o draeth dwyreiniol Penrhyn Oshika, Tōhoku, gyda'r canolbwynt oddeutu 24.4 km (15.2 mi) o ddyfnder. [1]

Achosodd y daeargryn i tsunami godi a tharo'r tir mawr ychydig wedyn. Gwelwyd tonnau o hyd at 4-10 metr o uchder.

Ceir adroddiadau fod "trefi cyfan" wedi cael eu golchi i ffwrdd gan y tswnami, a bod 9,500 o bobl ar goll yn Minamisanriku;[2] a bod Kuji ac Ofunato wedi cael eu diddymu "heb olion o'u bodolaeth i'w weld yn unman."[3] Difrodwyd Rikuzentakata, Iwate, hefyd, ble y dywedir fod y tswnami yn dri llawr - o ran uchder.[4]

Effaith ar isadeiledd

Atomfeydd

Yn dilyn y ddaeargryn, diffoddodd yr adweithyddion niwclear mewn pedair atomfa o fewn yr ardal a effeithwyd yn awtomatig. Methodd systemau oeri y ddwy atomfa yn Fukushima, a dywedodd Cwmni Pŵer Trydanol Tokyo (TEPCO) ei fod yn pwmpio dŵr i brif adweithydd atomfa Fukushima-Daiichi er mwyn ei oeri. Ar 12 Mawrth bu ffrwydrad mawr yn atomfa Fukushima-Daiichi, ac anafwyd pedwar gweithiwr.[5]

Ymateb

Ymateb rhyngwladol

Dywedodd David Cameron, Prif Weinidog y Deyrnas Unedig, bod y DU yn "barod i gynorthwyo mewn unrhyw modd y gallwn". Cynigwyd cymorth gan y grwpiau chwilio ac achub o Brydain International Rescue Corps a Rapid UK. Mae'r Cenhedloedd Unedig yn cydgordio'r gwaith achub gan 45 o wledydd.

Cyfeiriadau

Eginyn erthygl sydd uchod am Japan. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato