Hugh Davies: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Wicipedia
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Petroc2 (sgwrs | cyfraniadau)
Petroc2 (sgwrs | cyfraniadau)
Llinell 19: Llinell 19:
[[Categori:marwolaethau 1821]]
[[Categori:marwolaethau 1821]]
[[Categori:Gwyddonwyr]]
[[Categori:Gwyddonwyr]]
[[Categori:Pobl o Fôn]]
[[Categori:Pobl o Ynys Môn]]
[[Categori:Aelodau'r Linnean Society , Llundain]]
[[Categori:Aelodau'r Linnean Society , Llundain]]
[[Categori:Alumni Coleg Iesu, Rhydychen]]
[[Categori:Alumni Coleg Iesu, Rhydychen]]

Fersiwn yn ôl 22:16, 27 Mawrth 2011

Cofeb Hugh Davies yn Eglwys Beaumaris

Roedd Hugh Davies (3 Ebrill 1739 - 16 Chwefor 1821) yn fotanegydd ac yn offeiriad Eglwys Lloegr. Brodor o Ynys Môn oedd o, ac yn awdur y llyfr Welsh Botanology y llyfr gwyddonol cyntaf i rhestru enwau cymraeg am blanhigion ag y rhai lladin.

Bywyd

Cafodd ei eni yn Llandyfrydog, Môn, Cymru, ac yr oedd ei dad yn reithor Eglwys Tyfrydog, Llandyfrydog. Cafodd addysg yn Ysgol David Hughes ym Meaumaris. Aeth ymlaen i Goleg yr Iesu yn Rhydychen fel ei dad o'i flaen. Graddiodd yn 1757 a daeth yn offeiriad. Wedi ei ordeinio aeth yn gurad Llangefni (1763–1766), Llanfaes , Penmon (1766–1785) a Phenmynydd (1775–1778). Wedyn yn rheithor Llandegfan a Beaumaris yn 1778, ac wedyn yn rheithor Aber, Sir Gaernarfon yn 1787. Bu farw ym Meaumaris yn 1821 lle y'i gladdwyd.

Botaneg

Roedd Hugh Davies yn gyfaill Thomas Pennant ac anfonodd spesimenau a nodiadau. Aeth i Ynys Manaw yn 1774 gyda Pennant, a dychwelodd i Manaw y flwyddyn wedyn i astudio planhigion yr ynys. yfrannodd yn helaeth i lyfrau Pennant ''British Zoology'', [[Indian Zoology] ac y ''Journey to Snowdon''. Cyfranodd hefyd i lyfr, William Hudson Flora Anglica, ac English Botany gan James Sowerby a James Edward Smith, Flora Britannica gan Smith, a'r The Botanist's Guide through England and Wales gan Dawson Turner a'r cymro Lewis Weston Dillwyn. Etholwyd ef yn Gymrawd y Linnean Society yn 1790, cyhoeddwyd pedawar erthygl yn eu cylchgrawn. Daeth ei "opus magum" Welsh Botanology yn 1813, ac ei astudiaeth o Sir Fôn yn arbennig o werthfawr fel model o Fflora Sir. Enwyd y genus Daviesia (Leguminosae), ar ei ôl gan Smith yn 1798.

References

Davies, Hugh (1739 -1821), botanist and Church of England clergyman. Oxford Dictionary of National Biography 2004 Thomas Pennant British Zoology 1766, Indian Zoology and Journey to Snowdon 1781.