Iwan Roberts (actor a cherddor): Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Wicipedia
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Llwybrau (sgwrs | cyfraniadau)
Dim crynodeb golygu
Llwybrau (sgwrs | cyfraniadau)
Dim crynodeb golygu
Llinell 7: Llinell 7:
Ym 1995, chwaraeodd Iwcs ran y prif gymeriad yn y gyfres ddrama A55, a ddangoswyd ar S4C. Roedd y sioe yn llwyddiant ysgubol, a derbyniodd wobr [[BAFTA Cymru]] am y Gyfres Ddrama Orau. Ym 1996, dewisodd Iwcs arallgyfeirio ei yrfa fel perfformiwr, ac ynghyd â'r gitarydd [[John Doyle]], ffurfiodd y deuawd [[Iwcs a Doyle]]. Ym Mhontrhydfendigaid ar Fawrth y 1af 1996, ennillodd Iwcs a Doyle y gystadleuaeth flynyddol [[Cân i Gymru]]. Ym 1997, rhyddhaodd Iwcs a Doyle yr albwm ''[[Edrychiad Cynta']]'', a werthodd yn dda iawn ac a dderbyniodd glod mawr. Perfformiodd Iwcs a Doyle mewn sawl lleoliad a gŵyl gerddorol, gan gynnwys [[Sesiwn Fawr Dolgellau]], a'r [[Wŷl Ban Geltaidd]] yn Nrhalee, Iwerddon ym 1996.

Yn 2005, cyfansoddodd a recordiodd Iwcs albwm ar ben ei hun o'r enw ''[[Cynnal Fflam]]''. Cafodd yr albwm ei rhyddhau ar y label [[Gwynfryn Cymunedol]], sydd wedi ei leoli yn [[Waunfawr]].<ref>[http://www.gwynfryncymunedol.co.uk/cymraeg/GCCD25.html]</ref> <ref>[http://www.na-nog.com/site/product.aspx?productuid=247961&clickproductonpage=/site/category.aspx?categoryid=365&page=5&pagesize=10]</ref>
Yn 2005, cyfansoddodd a recordiodd Iwcs albwm ar ben ei hun o'r enw ''[[Cynnal Fflam]]''. Cafodd yr albwm ei rhyddhau ar y label [[Gwynfryn Cymunedol]], sydd wedi ei leoli yn [[Waunfawr]].<ref>[http://www.gwynfryncymunedol.co.uk/cymraeg/GCCD25.html Gwefan Gwynfryn Cymunedol]</ref> <ref>[http://www.na-nog.com/site/product.aspx?productuid=247961&clickproductonpage=/site/category.aspx?categoryid=365&page=5&pagesize=10 Dolen Wybodaeth am 'Cynnal Fflam']</ref>

Dychwelodd Iwcs i chwarae rhan Kevin Powell yn yr opera sebon ''[[Pobol y Cwm]]'' yn 2006. Mae'n parhau yn y rôl hon, fel un o'r prif gymeriadau heddiw.
Dychwelodd Iwcs i chwarae rhan Kevin Powell yn yr opera sebon ''[[Pobol y Cwm]]'' yn 2006. Mae'n parhau yn y rôl hon, fel un o'r prif gymeriadau heddiw.
Llinell 14: Llinell 14:
* [http://www.bbc.co.uk/cymru/pobolycwm/safle/cymeriadau/tudalen/kevin_powell.shtml Tudalen wybodaeth Pobol y Cwm ar gymeriad Iwan "Iwcs" Roberts, Kevin Powell]
* [http://www.bbc.co.uk/cymru/pobolycwm/safle/cymeriadau/tudalen/kevin_powell.shtml Tudalen wybodaeth Pobol y Cwm ar gymeriad Iwan "Iwcs" Roberts, Kevin Powell]
* [http://www.myspace.com/iwcs Safle tudalen Myspace Iwcs]
* [http://www.myspace.com/iwcs Safle tudalen Myspace Iwcs]
* [http://www.bbc.co.uk/radiocymru/c2/safle/gwesteion/cynnwys/iwcs.shtml Cyfweliad efo Iwcs ar C2 Radio Cymru]

== Cyfeirnodau ==
== Cyfeirnodau ==

Fersiwn yn ôl 09:58, 27 Mawrth 2011

Actor, canwr a thelynegwr Cymreig yw Iwan "Iwcs" Roberts, (ganwyd 1967).

Bywgraffiad a Gyrfa

Ganed Iwan Roberts yn nrhef Dolgellau, Gwynedd ym 1967. Cychwynodd ei yrfa fel actor yn ifanc, drwy berfformio mewn sawl Eisteddfod leol, gan gynnwys Eisteddfod Stesion ac Eisteddfod Llawr Plwy', yn ogystal a pherfformio yn Eisteddfod yr Urdd tra'n ddisgybl yn Ysgol Gynradd Trawsfynydd, lle dderbyniodd ei lysenw: "Iwcs". Ar ôl gadael yr Ysgol Uwchradd (Ysgol y Moelwyn, Blaenau Ffestiniog), gweithiodd Iwcs mewn sawl cynhyrchiant theatr gyda cwmnïau theatr megis Theatr Arad Goch, Theatr Bara Caws, ac eraill, cyn gwneud ei ymddangosiad cyntaf ar y teledu yn y gyfres Rhew Poeth ym 1986. Wedi hynny, ymddangosodd Iwcs ar sawl raglen deledu gan gynnwys treulio cyfnod byr ar ddiwedd y 1980au yn actio yn yr opera sebon Pobol y Cwm, cyn mynd yn ei flaen i actio mewn cyfresi teledu gan gynnwys y rhaglen gomedi C'mon Midffild.

Ym 1995, chwaraeodd Iwcs ran y prif gymeriad yn y gyfres ddrama A55, a ddangoswyd ar S4C. Roedd y sioe yn llwyddiant ysgubol, a derbyniodd wobr BAFTA Cymru am y Gyfres Ddrama Orau. Ym 1996, dewisodd Iwcs arallgyfeirio ei yrfa fel perfformiwr, ac ynghyd â'r gitarydd John Doyle, ffurfiodd y deuawd Iwcs a Doyle. Ym Mhontrhydfendigaid ar Fawrth y 1af 1996, ennillodd Iwcs a Doyle y gystadleuaeth flynyddol Cân i Gymru. Ym 1997, rhyddhaodd Iwcs a Doyle yr albwm Edrychiad Cynta', a werthodd yn dda iawn ac a dderbyniodd glod mawr. Perfformiodd Iwcs a Doyle mewn sawl lleoliad a gŵyl gerddorol, gan gynnwys Sesiwn Fawr Dolgellau, a'r Wŷl Ban Geltaidd yn Nrhalee, Iwerddon ym 1996.

Yn 2005, cyfansoddodd a recordiodd Iwcs albwm ar ben ei hun o'r enw Cynnal Fflam. Cafodd yr albwm ei rhyddhau ar y label Gwynfryn Cymunedol, sydd wedi ei leoli yn Waunfawr.[1] [2]

Dychwelodd Iwcs i chwarae rhan Kevin Powell yn yr opera sebon Pobol y Cwm yn 2006. Mae'n parhau yn y rôl hon, fel un o'r prif gymeriadau heddiw.

Ffynonellau

Cyfeirnodau