Kathoey: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Wicipedia
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
MastiBot (sgwrs | cyfraniadau)
B r2.6.4) (robot yn ychwanegu: pl:Kathoey
Mjbmrbot (sgwrs | cyfraniadau)
B r2.7.1) (robot yn ychwanegu: ar:كاثوى
Llinell 15: Llinell 15:
[[Categori:Rhywioldeb]]
[[Categori:Rhywioldeb]]


[[ar:كاثوى]]
[[da:Ladyboy]]
[[da:Ladyboy]]
[[de:Kathoey]]
[[de:Kathoey]]

Fersiwn yn ôl 00:35, 26 Mawrth 2011

Yr actores a bociswr cic Thai Nong Tum, un o kathoeys enwocaf Gwlad Thai, mewn golygfa o'r ffilm Beautiful Boxer.

Term Thai ydyw kathoey neu katoey (Thai: กะเทย, IPA: [kaʔtʰɤːj]) sy'n cyfeirio fel rheol at berson trawsryw gwrywaidd-benywaidd — a weithiau hefyd am ddyn hoyw merchetaidd — yng Ngwlad Thai. Mae termau cyffelyb yn cynnwys sao (neu phuying) praphet song ("merch o'r ail fath"), neu phet thi sam ("trydydd rhyw"). Bathwyd y cyfieithiad rhydd "ladyboy" yn Saesneg ac mae'r gair hwnnw wedi ymledu erbyn heddiw i sawl iaith arall yn cynnwys ieithoedd eraill De-Ddwyrain Asia heblaw'r Pilipinas lle ceir y term llafar billyboy hefyd.

Mae gan y kathoey le unigryw yn niwylliant Gwlad Thai ac ni ellir eu cymharu i ddynion hoyw neu drawsrywiol yn y Gorllewin. Ar y cyfan, maent yn cael eu derbyn fel grŵp arbennig o fewn y gymdeithas.

Fel rheol, mae'r kathoey yn dilyn galwedigaethau benywaidd traddodiadol, fel gweithwyr siop, mewn caffis a bwytai, salons pamprio (beauty salons) neu siopau gwallt. Mae nifer yn gweithio fel perfformwyr hefyd, e.e. fel dawnswyr mewn sioeau cabaret. Mae rhai eraill yn gweithio fel gweithwyr rhyw: yn y diwylliant Thai nid yw dyn sy'n cael rhyw gyda kathoey yn cael ei ystyried yn hoyw.

Mae'r kathoeys yn rhan amlwg o'r diwylliant Thai ac yn cael eu derbyn fel rhan ohono. Mae sawl actor(es) ffilm, model a chanwr Thai yn kathoey, ac mae newyddiaduron Thai yn aml yn printio lluniau o enillwyr sioeau harddwch merched a kathoey ochr yn ochr a'i gilydd. Mae'r sioeau harddwch hyn yn boblogaidd iawn ac yn cael eu cynnal mewn trefi a phentrefi bychain yn ogystal ag yn y dinasoedd mawr.

Dolenni allanol

Comin Wikimedia
Comin Wikimedia
Mae gan Gomin Wikimedia
gyfryngau sy'n berthnasol i: