Libia: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Wicipedia
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Dim crynodeb golygu
Mjbmrbot (sgwrs | cyfraniadau)
B r2.7.1) (robot yn ychwanegu: wa:Libeye
Llinell 269: Llinell 269:
[[vls:Libië]]
[[vls:Libië]]
[[vo:Lübän]]
[[vo:Lübän]]
[[wa:Libeye]]
[[war:Libya]]
[[war:Libya]]
[[wo:Libi]]
[[wo:Libi]]

Fersiwn yn ôl 20:06, 25 Mawrth 2011

الجماهيرية العربية الليبية الشعبية الاشتراكية العظمى‎
Al-Jamāhīriyyah al-`Arabiyyah al-Lībiyyah aš-Ša`biyyah al-Ištirākiyyah al-`Udhmā

Great Socialist People's Libyan Arab Jamahiriya
Baner Libya Arfbais Libya
Baner Arfbais
Arwyddair: Dim
Anthem: Allahu Akbar
Lleoliad Libya
Lleoliad Libya
Prifddinas Tripoli
Dinas fwyaf Tripoli
Iaith / Ieithoedd swyddogol Arabeg
Llywodraeth Jamahiriya
- Arweinydd (de facto) Muammar al-Gaddafi
- Arweinydd (de jure) Imbarek Shamekh
- Prif Weinidog Baghdadi Mahmudi
Annibyniaeth
- oddiwrth yr Eidal
- oddi Ffrainc/DU

10 Chwefror 1947
24 Rhagfyr 1951
Arwynebedd
 - Cyfanswm
 - Dŵr (%)
 
1,759,540 km² (17fed)
-
Poblogaeth
 - Amcangyfrif 2006
 - Cyfrifiad 2006
 - Dwysedd
 
5,670,688 (105fed)
5,670,688
3.2/km² (218fed)
CMC (PGP)
 - Cyfanswm
 - Y pen
Amcangyfrif 2006
$74.97 biliwn (67fed)
$12,700 (58fed)
Indecs Datblygiad Dynol (2005) 0.798 (64fed) – canolig
Arian cyfred Dinar (LYD)
Cylchfa amser
 - Haf
EET (UTC+2)
(UTC+2)
Côd ISO y wlad .ly
Côd ffôn +218

Gwlad yng ngogledd Affrica, sy'n ffinio â'r Môr Canoldir, yw Sosialaidd Fawr Pobl Libiadd Arabaidd Jamahiriya neu Libya (hefyd Libia). Mae wedi ei lleoli rhwng yr Aifft i'r dwyrain, Swdan i'r de-ddwyrain, Chad a Niger i'r de ac Algeria a Tunisia i'r gorllewin. Ei phrifddinas yw Tripoli. Tair rhanbarth draddodiadol y wlad yw Tripolitania, y Fezzan a Cyrenaica. Mae'r wlad yn un o'r 10 gwlad sy'n cynhyrchu mwyaf o olew drwy'r byd.

Chwyldro 1969

Ar y 1af o Fedi 1969 cafwyd coup d'état yn y wlad a daeth Muammar al-Gaddafi i rym ar ôl trechu'r Brenin Idris tra fod y brenin yn Nhwrci yn cael triniaeth meddygol.

Chwyldro 2011

Baner 1951 - 1969, a ddefnyddiwyd cyn Gadaffi ac a ddefnyddiwyd gan yr ochr wrth-gadaffi yn ystod protestiadau 2011 fel baner de-facto'r Weriniaeth newydd.

Yn Chwefror 2011 llifodd ton ar ôl ton o brotestiadau gwleidyddol drwy'r Dwyrain Canol; ffynhonnell y protestiadau hyn oedd Tiwnisia ac yna'r Aifft yn Ionawr 2011 a gwelwyd ymgyrch gref drwy Lybia i gael gwared â Gaddafi a'i ddull unbeniaethol o reoli. Dyw hyn ddim yn syndod o gofio fod y ddwy wlad yma (Tiwnisa a'r Aifft) o fewn tafliad carreg i Lybia (ffiniau dwyreiniol a gorllewinol).

Erbyn 23ain o Chwefror roedd Gaddafi wedi colli rheolaeth o lawer iawn o drefi'r wlad ac yn ôl nifer o adroddiadau roedd dros fil o bobl wedi marw.

Ar yr 17fed o Fawrth pasiwyd "mesur 1973" gan Gyngor Diogelwch y Cenhedloedd Unedig o 10 pleidlais i 0 gyda Rwsia, Tseina ac India yn ymatal. Roedd y mesur yn caniatau "no-fly zone" ac i warchod trigolion Lybia "drwy unrhyw ddull angenrheidiol". Deuddydd wedyn roedd Awyrlu Ffrainc wedi ymosod ar 4 o danciau Gadaffi.[1]

Daearyddiaeth

Mae rhan fawr o Libya'n gorwedd yn anialwch y Sahara, gyda 1,800,000 kilometr sgwar (700,000 milltir sgwar). Hi yw'r bedwaredd wlad fwyaf yn Affrica, a'r 17ed yn y byd. Mae 1.7 miliwn o drigolion y wlad yn byw yn Tripoli, y brif ddinas, allan o boblogaeth o 6.4 miliwn.

Hanes

Cynhanes

Celfyddyd cynhanes mewn ogof yn Tadrart Acacus.

Dros 10 mil o flynyddoedd yn ôl roedd 90% o'r wlad yn llawn o blanhigion a choed, gyda hinsawdd debyg i wledydd y Canoldir. Dengys tystiolaeth archaeolegol mai'r Berberiaid oedd yn byw yn y rhan yma o Affrica yn Oes Newydd y Cerrig. Gallent dyfu cnydau a magu anifeiliaid.

Y Ffeniciaid a'r Groegwyr

Tua 500 CC roedd dylanwad Ffeniciaid ar yr ardal yn gryf a gwelwyd sefydlu tair dinas yn yr ardal rydym heddiw'n ei alw'n Tripolis ("tair dinas"). Erbyn 630 roedd yr Hen Roegiaid wedi sefydlu 630 BC, porthladd Cyrene ac yna pedair dinas arall yn ystod y blynyddoedd dilynol, a galwyd rhain y Pentapolis ("pum dinas").

Tyfodd Cyrene yn un o ganolfannau celfyddydol ac academig drwy gydol y byd Groegaidd, gyda'i hysgol meddygol a phensaerniol a'i chanolfannau dysg heb eu hail drwy'r byd.

Y Rhufeiniaid

Ymosododd y Rhufeiniaid ar yr ardal o gwmpas Tripoli) yn 106 CC ac erbyn 64 CC roedd llengoedd Iwl Cesar wedi cadarnhau a chryfhau'r dair ardal yn Rhanbarth Rufeinig, gan greu (o ran tiriogaeth) am y tro cyntaf y ffiniau presennol.

Llewyrchodd yr economi am rai canrifoedd o dan y Rhufeiniaid.

Economi

Mae Libya'n wlad ffynnianus sy'n elwa o'r cyfoeth olew a geir yn Niffeithwch Libya a mannau eraill yn ne'r wlad.

Cyfeiriadau

Gweler hefyd


Eginyn erthygl sydd uchod am Libia. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato

Nodyn:Cyswllt erthygl ddethol ak:Libya