Mozilla Firefox: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Wicipedia
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
B r2.7.1) (robot yn newid: en:Firefox
Mjbmrbot (sgwrs | cyfraniadau)
B r2.7.1) (robot yn newid: fa:فایرفاکس موزیلا
Llinell 62: Llinell 62:
[[et:Mozilla Firefox]]
[[et:Mozilla Firefox]]
[[eu:Mozilla Firefox]]
[[eu:Mozilla Firefox]]
[[fa:موزیلا فایرفاکس]]
[[fa:فایرفاکس موزیلا]]
[[fi:Mozilla Firefox]]
[[fi:Mozilla Firefox]]
[[fo:Mozilla Firefox]]
[[fo:Mozilla Firefox]]

Fersiwn yn ôl 00:21, 25 Mawrth 2011

Mozilla Firefox wordmark
Firefox 3.6 yn dangos tudalen Wicipedia ar Ubuntu

Porwr gwe ffynhonnell agored yn rhad ac am ddim sy'n dod o'r Mozilla Application Suite ac yn cael ei reoli gan Mozilla Corporation yw Mozilla Firefox. Ers Medi 2009, Firefox oedd yr ail borwr i'w gael ei ddefnyddio'n fawr, gyda 22.82% o gyfran ddefnydd porwyr gwe yn fyd-eang, yn ôl Net Applications.[1] Dywed ffynonnellau eraill mai rhwng 20% a 32% yw defnydd Firefox.[2][3][4]

I ddangos tudalennau gwe, mae Firefox yn defnyddio Gecko peiriant porwr gwe, sy'n gweithredoli bron pob safonau gwe cyfredol gan gynnwys sawl nodwedd sydd i fod i ragweld ychwanegiadau tebygol i'r safonau.[5]

Mae nodweddion diweddaraf Firefox[6] yn cynnwys pori gyda thabiau (gyda'i ryngwyneb defnyddiwr graffigol), gwirio sillafu, chwilio fesul air, nodi tudalen byw, rheolwr lawrlwytho, pori preifat, geoleoli sy'n seiliedig ar wasanaeth Google[7] a system chwilio cyfannol sy'n defnyddio Google yn ddiofyn o fewn bron mwyaf o leoliadau. Gellir ychwanegu nodweddion drwy estyniadau, a grëir gan ddatblygwyr trydydd-parti,[8] lle bo dewis eang ar gael, sy'n nodwedd a dynna lawer o ddefnyddwyr Firefox.

Mae Firefox yn rhedeg ar lawer o systemau gweithredu, gan gynnwys Microsoft Windows, GNU/Linux, Mac OS X, FreeBSD, a llawer mwy o blatfformau. 3.6.12 yw'r fersiwn sefydlog cyfredol, a ryddhawyd ar 15 Medi 2010.[9] Mae gan god ffynhonnell Firefox dair trwydded o dan Drwydded Gyhoeddus Gyffredinol GNU, Trwydded Gyhoeddus Gyffredinol Llai GNU, a Mozilla Public License.[10]

Poblogrwydd

Mae defnyddwyr y we wedi mabwysiadu Firefox yn gyflym, er gwaetha'r ffaith bod Internet Explorer wedi ei rag-osod gyda phob copi o sustem weithredu Windows. Fe welwyd gostyngiad cyson yng nghanran defnyddwyr Internet Explorer wedi lansiad Firefox. Yn ôl cwmni dadansoddi OneStat, erbyn Gorffennaf 2006, Firefox oedd y porwr mwyaf poblogaidd tu ôl i Internet Explorer, gyda 12.93% o'r ganran defnyddwyr byd eang. [11] Erbyn Mawrth 2007, yn ôl data a ryddhawyd gan gwmni NetApplications, roedd cyfradd marchnad byd eang Firefox wedi cynyddu i 15.1%. [12]

Nodweddion

Fel sawl meddalwedd cod agored, mae Firefox wedi'i leoleiddio i'r Gymraeg (gweler isod am y fersiwn Cymraeg.

Cyfeiriadau

  1. (Saesneg) Gwall wrth ddefnyddio Nodyn:Dyf gwe: mae'r paramedrau url a teitl yn angenrheidiol.. Net Applications (2010-11-02).
  2. (Saesneg) Web Browser Market Share. StatOwl (2010-02-01).
  3. (Saesneg) StatCounter Global Stats. StatCounter (2010-03-01).
  4. (Saesneg) Global Web Stats. W3Counter (2010-02-01).
  5. (Saesneg) Gecko Layout Engine (2009).
  6. (Saesneg) Latest Firefox’s Feature-Pack.
  7. (Saesneg) Location-Aware Browsing. Mozilla Corp. (adran "What information is being sent, and to whom? (...)")
  8. addons.mozilla.org Tudalen estyniadau
  9. (Saesneg) Mozilla Firefox 3.6.10 Release Notes. Mozilla.
  10. (Saesneg) Mozilla Foundation. Mozilla Code Licensing.
  11. (Saesneg)  Mozilla Firefox usage share remains stable. OneStat.com. Adalwyd ar 13 Ebrill, 2007.
  12. (Saesneg)  Browser Market Share for December, 2006. Net Applications. Adalwyd ar 13 Ebrill, 2007.

Dolenni allanol

Eginyn erthygl sydd uchod am gyfrifiaduron neu gyfrifiadureg. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.

Nodyn:Cyswllt erthygl ddethol Nodyn:Cyswllt erthygl ddethol Nodyn:Cyswllt erthygl ddethol Nodyn:Cyswllt erthygl ddethol Nodyn:Cyswllt erthygl ddethol