Mawrth (planed): Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Wicipedia
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Xqbot (sgwrs | cyfraniadau)
B robot yn ychwanegu: tw:Mars
Mjbmrbot (sgwrs | cyfraniadau)
B r2.7.1) (robot yn newid: uk:Марс
Llinell 294: Llinell 294:
[[tw:Mars]]
[[tw:Mars]]
[[ug:مارس]]
[[ug:مارس]]
[[uk:Марс (планета)]]
[[uk:Марс]]
[[ur:مریخ]]
[[ur:مریخ]]
[[uz:Mars]]
[[uz:Mars]]

Fersiwn yn ôl 20:57, 24 Mawrth 2011

Mawrth
Mawrth
Symbol
Nodweddion orbitol
Pellter cymedrig i'r Haul 1.52 US
Radiws cymedrig 227,936,640km
Echreiddiad 0.09341233
Parhad orbitol 779.95d
Buanedd cymedrig orbitol 24.1309 km s-1
Gogwydd orbitol 1.85061°
Nifer o loerennau 2
Nodweddion materol
Diamedr cyhydeddol 6792.4 km
Arwynebedd 1.44×108km2
Más 6.4191×1023 kg
Dwysedd cymedrig 3.94 g cm-3
Disgyrchiant ar yr arwyneb 3.71 m s-2
Parhad cylchdro 24.6229a
Gogwydd echel 25.19°
Albedo 0.15
Buanedd dihangfa 5.02 km s-1
Tymheredd ar yr arwyneb:
isafrif cymedrig uchafrif
133K 210K 293K
Nodweddion atmosfferig
Gwasgedd atmosfferig 0.7-0.9kPa
Carbon deuocsid 95.32%
Nitrogen 2.7%
Argon 1.6%
Ocsigen 0.13%
Carbon monocsid 0.07%
Anwedd dŵr 0.03%

Llosgnwy
Neon
Crypton
Senon
Osôn

arlliw

Y bedwaredd blaned oddi wrth yr Haul yw Mawrth. Mewn rhai ffyrdd, mae'n debyg i'r Ddaear; mae iddo ddiwrnod 24 awr (y "sol") ac mae'r tymhorau rhywbeth yn debyg, ac mae ganddo begynau . Ar y llaw arall, prin fod y tymheredd yn codi dros y rhewbwynt ac mae'r awyr yn denau iawn heb fawr o ocsigen. Mae gan Fawrth ddwy leuad neu loeren, sef Phobos a Deimos.

Daearyddiaeth

Mae wyneb y blaned yn dangos gwahaniaeth sylfaenol rhwng y gogledd a'r de. Yn hemisffer y gogledd mae diffyg craterau a nodweddion tebyg yn awgrymu bod wyneb y blaned yn gymharol ifanc. Yn yr hemisffer deheuol, fodd bynnag, mae digonedd o graterau, dyffrynoedd ac yn y blaen - sy'n awgrymu hen wyneb. Rhwng yr hemisfferau mae dyffryn mawr o'r enw Valles Marineris. Nodweddion pwysig eraill yw'r llosgfynyddoedd Olympus Mons, Pavonis Mons, Ascraeus Mons, ac Arsia Mons. Mae statws y llosgfynyddoedd yma yn ansicr.

Cafwyd digonedd o dystiolaeth o ddŵr ar wyneb y blaned yn y gorffennol; awgrymir bod llifogydd wedi siapio nifer o ddyffrynoedd ar y blaned (gweler y llun, dde), a chredir bod y basn Hellas yn cynnwys môr miliynau o flynyddoedd yn ôl. Heddiw, mae'r capiau iâ yn cynnwys carbon deuocsid a dŵr, ac mae'n debyg bod y pridd Mawrthaidd yn cynnwys cryn dipyn o iâ dŵr. Cadarnhaodd Phoenix (y glaniwr NASA) hyn yn 2008 ar ôl palu ffos yn y pridd gyda'i fraich robotig, a thynnu lluniau o iâ ar ochrau y ffos.

Bywyd

Ers canrifoedd mae seryddwyr wedi awgrymu bod bywyd yn bodoli ar y blaned. Ym 1877 cyhoeddodd y seryddwr Giovanni Schiaparelli ei ddarganfyddiad o 'gamlesi' ar y blaned; cafodd yr adroddiad ei gadarnhau gan seryddwyr eraill. Roedd opteg, fodd bynnag, yn sylfaen iawn ar y pryd, ac mae'n debyg bod hyn yn enghraifft o dwyll llygaid.

Ym 1976 anfonodd NASA ddau chwiliedydd gofod, sef Viking 1 a Viking 2, i'r blaned. Glaniodd y ddau ar y blaned, a chafodd arbrofion eu gwneud ar y pridd i chwilio am ficro-organebau, ond roedd y canlyniadau yn amhendant. Yn ddiweddar, fodd bynnag, mae chwiliedyddion gofod wedi darganfod methan yn yr awyr, arwydd sydd, efallai, yn awgrymu bod micro-organebau yn goroesi hyd heddiw o dan y pridd.

Fforio Mawrth

Y chwiliedydd cyntaf i ymweld â'r blaned oedd Mariner 4, a lansiwyd gan NASA ym 1964; wnaeth o hedfan heibio'r blaned yn 1965, yn dychwelyd 22 o luniau. Wnaeth y rhain ddangos wyneb y blaned i fod yn debyg i'r Lleuad, gyda nifer mawr o graterau.

Yn y diwedd, darganfuwyd y gwnaeth Mariner 4 hedfan heibio'r ardal hynaf ar y blaned trwy ddamwain a hap; mae tirlun y blaned yn fwy amrywiol nac yr awgrymwyd gan y lluniau cyntaf yma. Wnaeth Mariner 9 gylchu'r blaned o 1971 ymlaen, yn creu'r mapiau cyflawn cyntaf o'i wyneb cyn diwedd ei daith y flwyddyn wedyn, ac yn dangos amrywiaeth yn nhirlun y blaned. Roedd Mariner 9 hefyd yn gyfrifol am ddarganfod Valles Marineris, y dyffryn mwyaf i'w darganfod yng Nghysawd yr Haul. Roedd yr Undeb Sofietaidd yn gyfrifol am lanio'r chwiliedydd cyntaf ar y blaned, Mawrth 2, ym 1972, ond wnaeth y chwiliedydd gyrraedd yn ystod storm llwch, a methodd yn ystod ei ddarllediad cyntaf heb ddychwelyd unrhyw ddata o bwysigrwydd. Wnaeth y chwiliedyddion Viking ehangu ac ymestyn y data a gasglwyd gan Mariner 9 yn y 70au hwyr.

Ers yr 1990au ar ôl mwy na degawd ers ei daith olaf i'r blaned, penderfynodd NASA wneud fforio Mawrth. Roedd Mars Observer, a lansiwyd ym 1992, yn gais i roi chwiliedydd mewn orbit, ond methodd cyn cyrraedd. Roedd Mars Pathfinder, a lansiwyd ym 1996, yn fwy llwyddiannus; glaniodd y chwiliedydd ar y blaned, a llwyddodd i ddanfon lluniau o wyneb y blaned am y tro cyntaf ers yr 80au cynnar yn ôl i'r Ddaear.

Erbyn hyn, mae dau chwiliedydd yn weithredol ar wyneb y blaned, Spirit ac Opportunity, cerbydau gyda'r gallu i deithio dros wyneb y blaned (ond ers 2009 mae Spirit wedi bod yn sownd mewn pridd meddal). Mae tri arall yn cylchu'r blaned, yn monitro tywydd y blaned ac yn dychwelyd data eraill; bydd cerbyd arall, y Mars Science Laboratory, yn cael ei lansio yn 2011, ac mae gan yr Asiantaeth Ofod Ewropeiaidd gynllun i lawnsio cerbyd, ExoMars, yn 2016. Mae cynllun ar y gweill i anfon chwiliedydd i Fawrth gyda'r bwriad o ddychwelyd pridd Mawrthaidd yn ôl i'r Ddaear, ond bydd taith o'r math hon yn gymhleth iawn o safbwynt technoegol, ac mae'n yn annhebyg i gael ei lawnsio cyn y 2020au cynnar.

Cyfeiriad


Planedau yng Nghysawd yr Haul
Mercher
Mercher
Gwener
Gwener
Y Ddaear
Y Ddaear
Mawrth
Mawrth
Iau
Iau
Sadwrn
Sadwrn
Wranws
Wranws
Neifion
Neifion
Eginyn erthygl sydd uchod am seryddiaeth. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.

Nodyn:Cyswllt erthygl ddethol Nodyn:Cyswllt erthygl ddethol Nodyn:Cyswllt erthygl ddethol Nodyn:Cyswllt erthygl ddethol Nodyn:Cyswllt erthygl ddethol Nodyn:Cyswllt erthygl ddethol Nodyn:Cyswllt erthygl ddethol Nodyn:Cyswllt erthygl ddethol Nodyn:Cyswllt erthygl ddethol Nodyn:Cyswllt erthygl ddethol Nodyn:Cyswllt erthygl ddethol Nodyn:Cyswllt erthygl ddethol Nodyn:Cyswllt erthygl ddethol