Y Gwanwyn Arabaidd: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Wicipedia
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Mjbmrbot (sgwrs | cyfraniadau)
Llinell 29: Llinell 29:
[[bg:Арабски протести (2010-2011)]]
[[bg:Арабски протести (2010-2011)]]
[[bn:২০১০-২০১১ খ্রি. মধ্যপ্রাচ্য ও উত্তর আফ্রিকায় গণবিদ্রোহ ও বিক্ষোভ]]
[[bn:২০১০-২০১১ খ্রি. মধ্যপ্রাচ্য ও উত্তর আফ্রিকায় গণবিদ্রোহ ও বিক্ষোভ]]
[[ca:Protestes dels països àrabs de 2010–2011]]
[[ca:Protestes dels països àrabs de 2010-2011]]
[[da:Protesterne i den arabiske verden 2010-2011]]
[[da:Protesterne i den arabiske verden 2010-2011]]
[[de:Proteste in der Arabischen Welt 2010–2011]]
[[de:Proteste in der Arabischen Welt 2010–2011]]

Fersiwn yn ôl 19:37, 24 Mawrth 2011

Y sefyllfa yn nechrau Chwefror 2011.      Addewid o newid llywodraeth      Chwyldro yn ei anterth      Protestiadau mawr      Protestiadau bach      Gwledydd eraill
Delwedd:Millionmarchtahrirsquare.jpg
"Gorymdaith y Miliynau", Sgwâr Tahrir yn Cairo, yr Aifft.

Cyfres o brotestiadau a gwrthryfeloedd yn llawer o wledydd y Byd Arabaidd a thu hwnt yw Protestiadau'r Dwyrain Canol a Gogledd Affrica, 2010–2011. Taniwyd y wreichionen gyntaf yn Tiwnisia pan losgodd dyn ifanc ei hun i farwolaeth ar 17 Rhagfyr 2010 yn ninas Sidi Bouzid yng nghanolbarth Tunisia. Dilynwyd hyn gan gyfres o brotestiadau gan y werin a alwyd yn Chwyldro Jasmin neu Intifada Tunisia.

Ymledodd y protestiadau hyn ar hyd a lled y gwledydd Arabaidd: yr Aifft, Algeria, Bahrain, Djibouti, Gorllewin Sahara, Gwlad Iorddonen, Iran, Kuwait, Libya, Moroco, Tunisia a Yemen gyda phrotestiadau llai yn Irac, Mauritania, Oman, Saudi Arabia, Senegal, Somalia, Sudan a Syria. Mae'r protestiadau wedi cynnwys gorymdeithiau, ralïau a streiciau ac mae'r protestwyr wedi defnyddio cyfryngau cymdeithasol fel Facebook a Twitter yn aml.

Dechreuodd protestiadau yn Tunisia yn Rhagfyr 2010 yn arwain i ddymchweliad yr arlywydd Zine el-Abidine Ben Ali ar 14 Ionawr 2011. Ymddiswyddodd Hosni Mubarak, arlywydd yr Aifft, ar 11 Chwefror 2011 ar ôl 18 dydd o brotestiadau yn y wlad honno.

Tua canol Chwefror cyhoeddodd Brenin Abdullah o Wlad Iorddonen enw prif weinidog newydd a chyhoeddodd Llywydd Yemen, Ali Abdullah Saleh, na fyddai'n dymuno tymor arall yn ei swydd yn 2013. Gwelwyd protestiadau drwy Libya lle galwyd am ymddiswyddiad y Llywydd Muammar al-Gaddafi. Cyhoeddodd Llywydd Swdan, Omar al-Bashir, na fyddai'n rhoi ei enw ymlaen yn yr etholiad nesaf yn 2015.

Gweler hefyd