Bangor-is-y-coed: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Wicipedia
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
BDim crynodeb golygu
Llinell 18: Llinell 18:


{{Trefi Wrecsam}}
{{Trefi Wrecsam}}
[[Category:Wrecsam]]
[[Category:Pentrefi Wrecsam]]
[[Categori:Oes y Seintiau]]
[[Categori:Oes y Seintiau]]
[[Categori:Tai crefydd Cymru]]
[[Categori:Tai crefydd Cymru]]

Fersiwn yn ôl 22:37, 12 Ionawr 2007

Bangor-is-y-coed
Wrecsam

Mae Bangor-is-y-coed (hefyd Bangor Is-Coed) yn bentref ar Afon Dyfrdwy ym mwrdeistref sirol Wrecsam. Mae cae rasio ceffylau i'r de-orllewin o'r pentref.

Mynachlog Bangor Is-coed

Roedd mynachlog Bangor Is-Coed yn ganolfan crefydd a dysg pwysig iawn yn hanes cynnar Cymru a'r Brydain Geltaidd. Yn ôl traddodiad sefydlwyd y fynachlog enwog gan y sant Dunawd yn y 6ed ganrif, gyda'i feibion Deiniol Wyn (nawddsant Bangor yng Ngwynedd), Cynwyl a Gwarthan. Roedd y sant wedi ffoi o'r Hen Ogledd a chafodd heddwch a lloches ar lannau Afon Dyfrdwy ac felly penderfynodd sefydlu mynachlog yno.

Yn ôl yr hanesydd o Sais Beda, cafodd Bangor Is-Coed ei dinistrio gan y Saeson yn sgîl Brwydr Caer (tua 615 neu 616). Roedd carfan gref o'r mynachod wedi cymryd rhan yn y frwydr ei hun ond collwyd y dydd i luoedd y brenin Aethelfrith o Ddeira (Northumbria heddiw) a chollodd 1200 o'r mynachod eu bywydau.

Does dim olion o'r fynachlog i'w gweld yno heddiw.

Y pentref

Mae pont pump bwa sy'n dyddio o tua 1660 yn rhychwantu Afon Dyfrdwy yn y pentref; credir iddo gael ei chodi gan y pensaer enwog Inigo Jones.