Arsyllfa Frenhinol Greenwich: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Wicipedia
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Xqbot (sgwrs | cyfraniadau)
Llinell 47: Llinell 47:
[[sv:Observatoriet i Greenwich]]
[[sv:Observatoriet i Greenwich]]
[[tr:Greenwich Gözlemevi]]
[[tr:Greenwich Gözlemevi]]
[[uk:Королівська Гринвіцька Обсерваторія]]
[[uk:Королівська Ґрінвіцька Обсерваторія]]
[[zh:格林尼治天文台]]
[[zh:格林尼治天文台]]

Fersiwn yn ôl 17:29, 22 Mawrth 2011

Arsyllfa Frenhinol Greenwich.
Yr Arsyllfa ar ei bryn.

Lleolir Arsyllfa Frenhinol Greenwich ar fryn ym Mharc Greenwich yn Llundain. Roedd y Seryddwr Brenhinol yn gweithio yn y fan yma ac roedd yr arsyllfa ar y Prif Feridian, sef y meridian sylfaenol ar gyfer pob hydred. Heddiw, mae llinell efydd ar y lawnt yn dangos safle'r Prif Feridian ac ers 16 Rhagfyr, 1999 mae golau laser gwyrdd wedi goleuo i'r gogledd yn ystod y nos.

Comisiynwyd yr arsyllfa gan y brenin Siarl II ym 1675. Adeiladwyd yr arsyllfa wreiddiol, Flamsteed House (1675-76), gan Syr Christopher Wren. Dyma'r adeilad cyntaf ym Mhrydain i gael ei adeiladu'n arbennig fel sefydliad ymchwil gwyddonol.

Nid yw'r awyr uwchben Llundain bellach yn ddigon clir ar gyfer seryddiaeth, felly symudwyd yr Arsyllfa Frenhinol i Gastell Herstmonceux ger Hailsham, Dwyrain Sussex. Adeiladwyd Sbiendrych Isaac Newton yn y fan yma ym 1967, ond symudwyd ef i La Palma yn Sbaen ym 1979. Symudodd yr Arsyllfa Frenhinol unwaith eto ym 1990, y tro yma i Gaergrawnt, ond ar ôl penderfyniad y Cyngor Ymchwil Ffiseg Gronyn a Seryddiaeth (PPARC) terfynwyd ef ym 1998. Ar ôl hynny symudwyd Swyddfa y Nautical Almanac i Labordy Rutherford Appleton ac unwaith arall i'r Canolfan Technoleg Seryddiol yng Nghaeredin.

Cyn i gyflwyno Amser Cyfesurol Cyffredinol roedd Amser Safonol Greenwich (GMT), sef amser a penderfynwyd ar ôl arsylliadau'r arsyllfa hon, yr amser sylfaenol y byd.

Mae'r pelen amser wedi a'i adeiladwyd gan y Seryddwr Brenhinol John Pond ym 1833 yn dal i gwympo pob dydd ar 13:00. Heddiw, mae yna hefyd amgueddfa offer seryddol a mordwyol sydd yn cynnwys H4, y cronomedr hydred gan John Harrison.

Eginyn erthygl sydd uchod am Lundain. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.