Leo I: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Wicipedia
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
B r2.5.4) (robot yn newid: tl:Leo I (emperador)
B r2.7.1) (robot yn ychwanegu: sh:Car Lav I
Llinell 44: Llinell 44:
[[ro:Leon I (împărat)]]
[[ro:Leon I (împărat)]]
[[ru:Лев I Макелла]]
[[ru:Лев I Макелла]]
[[sh:Car Lav I]]
[[sk:Lev I. (Byzantská ríša)]]
[[sk:Lev I. (Byzantská ríša)]]
[[sr:Лав I]]
[[sr:Лав I]]

Fersiwn yn ôl 10:16, 14 Mawrth 2011

Cerflun o Leo I yn y Louvre

Ymerawdwr Bysantaidd o 457 hyd 474 oedd Flavius Valerius Leo neu Leo I (401 - 18 Ionawr 474), Ef oedd yr olaf o gyfres o ymerodron a osodwyd ar yr orsedd gan y cadfridog Alanaidd Aspar.

Coronwyd Leo ar 7 Chwefror 457, y tro cyntaf i'r ymerawdwr gael ei goroni gan Batriarch Caergystennin. Gwnaeth Leo gynghrair a'r Isawriaid, gan briodi ei ferch i'w harweinydd Tarasicodissa, a olynodd Leo fel yr ymerawdwr Zeno yn ddiweddarach. Trwy'r cynghrair yma, gallodd ddod yn rhydd o reolaeth Aspar.

Bu'n ymladd llawer yn erbyn y Gothiaid dwyreiniol a'r Hyniaid. Apwyntiodd Anthemius yn ymerawdwr yn y gorllewin yn 467. Dechreuodd ymgyrch yn erbyn y Fandaliaid yn 468, ond fe'i gorchfygwyd oherwydd brad ei frawd-yng-nghyfraith Basiliscus.

Magwyd Theodoric Fawr, arweinydd y Gothiaid, yn llys Leo yng Nghaergystennin.