George Hartley Bryan: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
ehangu dipyn bach |
Deb (sgwrs | cyfraniadau) Dim crynodeb golygu |
||
Llinell 1: | Llinell 1: | ||
{{Person | fetchwikidata=ALL | onlysourced=no | suppressfields= dinasyddiaeth | nationality = {{banergwlad|Cymru}} {{banergwlad|Lloegr}} | dateformat = dmy}} |
{{Person | fetchwikidata=ALL | onlysourced=no | suppressfields= dinasyddiaeth | nationality = {{banergwlad|Cymru}} {{banergwlad|Lloegr}} | dateformat = dmy}} |
||
[[Mathemategydd]] cymhwysol Seisnig oedd George Hartley Bryan FRS (1 Mawrth |
[[Mathemategydd]] cymhwysol Seisnig oedd George Hartley Bryan FRS ([[1 Mawrth]] [[1864]] – [[13 Hydref]] [[1928]]) a oedd yn awdurdod ar [[thermodynameg]] ac [[awyren]]neg. |
||
Roedd ganddo cysylltiadau Cymreig hefyd: addysgwyd ef yng [[Peterhouse, Caergrawnt|Ngholeg Peterhouse, Caergrawnt]], gan ennill ei BA ym 1886, MA ym 1890, a DSc ym 1896.Bu'n athro ym Mhrifysgol Gogledd Cymru, Bangor. Yn bennaf, mae'n cael y clod am ddatblygu triniaeth fathemategol o fudiant awyrennau wrth hedfan fel cyrff anhyblyg gyda chwe gradd o ryddid.<ref>Eglurhad: Mewn [[ffiseg]], 'graddfa rhyddid' (DOF) unrhyw system fecanyddol yw'r nifer o baramedrau annibynnol sy'n diffinio ei ffurfweddiad (''configuration'').</ref> |
Cafodd ei eni yng [[Caergrawnt|Nghaergrawnt]]. Roedd ganddo cysylltiadau Cymreig hefyd: addysgwyd ef yng [[Peterhouse, Caergrawnt|Ngholeg Peterhouse, Caergrawnt]], gan ennill ei BA ym 1886, MA ym 1890, a DSc ym 1896.Bu'n athro ym Mhrifysgol Gogledd Cymru, Bangor. Yn bennaf, mae'n cael y clod am ddatblygu triniaeth fathemategol o fudiant awyrennau wrth hedfan fel cyrff anhyblyg gyda chwe gradd o ryddid.<ref>Eglurhad: Mewn [[ffiseg]], 'graddfa rhyddid' (DOF) unrhyw system fecanyddol yw'r nifer o baramedrau annibynnol sy'n diffinio ei ffurfweddiad (''configuration'').</ref> |
||
Ar wahân i fân wahaniaethau mewn nodiant, mae hafaliadau Bryan yn 1911 yr un fath â'r rhai a ddefnyddir heddiw i werthuso awyrennau modern. Yn rhyfeddol efallai, mae hafaliadau Bryan - a gyhoeddwyd wyth mlynedd yn unig ar ôl i’r awyren gyntaf hedfan - yn fwyaf cywir wrth eu rhoi ar jetiau uwchsonig! Wrth werthuso awyrennau yn fathemategol, canolbwyntiodd Bryan ar faterion sefydlogrwydd aerodynamig yn hytrach nag ar reolaeth; mae sefydlogrwydd a rheolaeth awyren yn tueddu i orwedd ar ddau ben arall yr un sbectrwm. Roedd ei ganlyniadau aeronautig yn estyniad o'i waith cynharach ym maes [[dynameg hylif]].<ref>{{Cite journal|last=Pekeris|first=C. L.|date=1961|title=Rotational Multiplets in the Spectrum of the Earth|journal=Physical Review|volume=122|issue=6|pages=1692–1700|doi=10.1103/physrev.122.1692|bibcode=1961PhRv..122.1692P}}</ref> Ym 1888, datblygodd Bryan fodelau mathemategol ar gyfer pwysau hylif mewn pibell ac ar gyfer pwysau bwclio allanol. Mae'r modelau hyn yn dal i gael eu defnyddio heddiw. |

Llinell 9: | Llinell 9: | ||
Ym 1890, darganfu Bryan yr hyn a elwir yn "effaith syrthni tonnau" (''wave inertia effect'') mewn cregyn elastig tenau axi-gymesur. Yr effaith hon yw'r sylfaen ddamcaniaethol ar gyfer [[gyrosgopi]] modern cyflwr solid gan ddefnyddio cyseinyddion hemisfferig neu "wydr gwin", a ymhelaethwyd ac a ddatblygwyd ymhellach gan Dr. David D. Lynch bron i ganrif ar ôl darganfyddiad gwreiddiol Bryan. Mae'r synwyryddion newydd, manwl gywir hyn bellach yn cael eu datblygu yn yr [[Unol Daleithiau]], yr [[Wcrain]], [[Singapore]], [[Gweriniaeth Korea]], [[Ffrainc]], [[De Affrica]], a thir mawr [[Tsieina]]. Fe'u defnyddir ar gyfer systemau canllaw lloeren, ymhlith cymwysiadau eraill. |

Mae astudiaethau seismologig Bryan o effeithiau Coriolis mewn cylchoedd hylif enfawr wedi derbyn cadarnhad arbrofol gan ddata a gasglwyd gan orsafoedd seismologig a sefydlwyd i ganfod ffrwydradau niwclear yn dilyn yr [[Ail Ryfel Byd]], yn ogystal ag o ddata seismograffig o Ddaeargryn Mawr Chile ym 1960. |
Mae astudiaethau seismologig Bryan o effeithiau Coriolis mewn cylchoedd hylif enfawr wedi derbyn cadarnhad arbrofol gan ddata a gasglwyd gan orsafoedd seismologig a sefydlwyd i ganfod ffrwydradau niwclear yn dilyn yr [[Ail Ryfel Byd]], yn ogystal ag o ddata seismograffig o Ddaeargryn Mawr Chile ym 1960. Bu farw yn [[Bordighera]], yr [[Eidal]]. |
||
==Gwobrau ac anrhydeddau== |
==Gwobrau ac anrhydeddau== |
Fersiwn yn ôl 09:05, 16 Chwefror 2020
George Hartley Bryan | |
---|---|
Ganwyd | 1 Mawrth 1864 Caergrawnt |
Bu farw | 13 Hydref 1928 Bordighera |
Man preswyl | Bangor |
Dinasyddiaeth | Cymru Lloegr |
Alma mater | |
Galwedigaeth | Q10497074, mathemategydd, ffisegydd, peiriannydd, athro cadeiriol |
Cyflogwr | |
Gwobr/au | Cymrawd y Gymdeithas Frenhinol |
Mathemategydd cymhwysol Seisnig oedd George Hartley Bryan FRS (1 Mawrth 1864 – 13 Hydref 1928) a oedd yn awdurdod ar thermodynameg ac awyrenneg.
Cafodd ei eni yng Nghaergrawnt. Roedd ganddo cysylltiadau Cymreig hefyd: addysgwyd ef yng Ngholeg Peterhouse, Caergrawnt, gan ennill ei BA ym 1886, MA ym 1890, a DSc ym 1896.Bu'n athro ym Mhrifysgol Gogledd Cymru, Bangor. Yn bennaf, mae'n cael y clod am ddatblygu triniaeth fathemategol o fudiant awyrennau wrth hedfan fel cyrff anhyblyg gyda chwe gradd o ryddid.[1]
Ar wahân i fân wahaniaethau mewn nodiant, mae hafaliadau Bryan yn 1911 yr un fath â'r rhai a ddefnyddir heddiw i werthuso awyrennau modern. Yn rhyfeddol efallai, mae hafaliadau Bryan - a gyhoeddwyd wyth mlynedd yn unig ar ôl i’r awyren gyntaf hedfan - yn fwyaf cywir wrth eu rhoi ar jetiau uwchsonig! Wrth werthuso awyrennau yn fathemategol, canolbwyntiodd Bryan ar faterion sefydlogrwydd aerodynamig yn hytrach nag ar reolaeth; mae sefydlogrwydd a rheolaeth awyren yn tueddu i orwedd ar ddau ben arall yr un sbectrwm. Roedd ei ganlyniadau aeronautig yn estyniad o'i waith cynharach ym maes dynameg hylif.[2] Ym 1888, datblygodd Bryan fodelau mathemategol ar gyfer pwysau hylif mewn pibell ac ar gyfer pwysau bwclio allanol. Mae'r modelau hyn yn dal i gael eu defnyddio heddiw.
Ym 1890, darganfu Bryan yr hyn a elwir yn "effaith syrthni tonnau" (wave inertia effect) mewn cregyn elastig tenau axi-gymesur. Yr effaith hon yw'r sylfaen ddamcaniaethol ar gyfer gyrosgopi modern cyflwr solid gan ddefnyddio cyseinyddion hemisfferig neu "wydr gwin", a ymhelaethwyd ac a ddatblygwyd ymhellach gan Dr. David D. Lynch bron i ganrif ar ôl darganfyddiad gwreiddiol Bryan. Mae'r synwyryddion newydd, manwl gywir hyn bellach yn cael eu datblygu yn yr Unol Daleithiau, yr Wcrain, Singapore, Gweriniaeth Korea, Ffrainc, De Affrica, a thir mawr Tsieina. Fe'u defnyddir ar gyfer systemau canllaw lloeren, ymhlith cymwysiadau eraill.
Mae astudiaethau seismologig Bryan o effeithiau Coriolis mewn cylchoedd hylif enfawr wedi derbyn cadarnhad arbrofol gan ddata a gasglwyd gan orsafoedd seismologig a sefydlwyd i ganfod ffrwydradau niwclear yn dilyn yr Ail Ryfel Byd, yn ogystal ag o ddata seismograffig o Ddaeargryn Mawr Chile ym 1960. Bu farw yn Bordighera, yr Eidal.
Gwobrau ac anrhydeddau
Cafodd ei ethol yn Gymrawd y Gymdeithas Frenhinol ym Mehefin 1895. Roedd yn enillydd medal Aur yn Sefydliad y Penseiri Llynges (1901), Llywydd y Gymdeithas Fathemategol (1907), ac enillydd medal Aur y Gymdeithas Awyrennol (1914).
Llyfryddiaeth
- Bryan, G. H. (1889). "The Waves on a Rotating Liquid Spheroid of Finite Ellipticity". Philosophical Transactions of the Royal Society A: Mathematical, Physical and Engineering Sciences 180: 187–219. Bibcode 1889RSPTA.180..187B. doi:10.1098/rsta.1889.0006.
- Stability in Aviation (1911).
- Bryan G.H. On the Beats in the Vibrations of a Revolving Cylinder or Bell //Proc. of Cambridge Phil. Soc. 1890, Nov. 24. Vol.VII. Pt.III. pp. 101–111.
- Bryan G.H. Stability in Aviation. – Macmillan. 1911. Online Version (This is the original book scanned by Google Books).
- Love A.E.H. GEORGE HARTLEY BRYAN //Journal of the London Mathematical Society. 1929. 1–4(3). – pp .238–240.
- Abzug, Malcolm J. and Larrabee, E. Eugene, Airplane Stability and Control, Second Edition: A History of Technologies that Made Aviation Possible, Cambridge University Press, 2002. Online version.
- Hunsaker, Jerome C. Dynamic Stability of Aeroplanes, US Navy and Massachusetts Institute of Technology, 1916 Online version[dolen marw] (This text validates experimentally Bryan's mathematical theories).
- Lynch D.D. HRG Development at Delco, Litton, and Northrop Grumman //Proceedings of Anniversary Workshop on Solid-State Gyroscopy (19–21 May 2008. Yalta, Ukraine). – Kyiv-Kharkiv. ATS of Ukraine. 2009. ISBN 978-976-0-25248-5.
- Sarapuloff S.A. 15 Years of Solid-State Gyrodynamics Development in the USSR and Ukraine: Results and Perspectives of Applied Theory //Proc. of the National Technical Meeting of US Institute of Navigation (ION) (Santa Monica, Calif., USA. January 14–16, 1997). – pp. 151–164.
Cyfeiriadau
- ↑ Eglurhad: Mewn ffiseg, 'graddfa rhyddid' (DOF) unrhyw system fecanyddol yw'r nifer o baramedrau annibynnol sy'n diffinio ei ffurfweddiad (configuration).
- ↑ Pekeris, C. L. (1961). "Rotational Multiplets in the Spectrum of the Earth". Physical Review 122 (6): 1692–1700. Bibcode 1961PhRv..122.1692P. doi:10.1103/physrev.122.1692.