Rhestrau copaon gwledydd Prydain ac Iwerddon: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
Llinell 7: | Llinell 7: | ||
==Corbetts== |
==Corbetts== |
||
Copaon rhwng 2,500 a 3,000 (762.0 a 914.4 m) o droedfeddi ydy'r |
Copaon rhwng 2,500 a 3,000 (762.0 a 914.4 m) o droedfeddi ydy'r [[Corbett|Corbetts]], gydag uchder cymharol o dros 500 troedfedd (152.4 m). Lluniwyd y rhestr yn wreiddiol yn y 1920au gan John Rooke Corbett. Ceir 449 ohonyn nhw. |
||
==Donalds== |
==Donalds== |
Fersiwn yn ôl 03:04, 12 Mawrth 2011
Dyma restrau cydnabyddiedig o gopaon gwledydd Prydain yngŷd â'u henwau a'u diffiniadau. Ceir nifer fawr o restrau neu ddosbarthiadau tebyg sy'n categoreiddio mynyddoedd mewn gwahanol ffyrdd megis uchder, amlygrwydd y copa neu gategoriau eraill. Mae llawer o gerddwyr yn ceisio cerdded i ben rhestr gyfan o gopaon ac wedi creu cymdeithas o gerddwyr cyffelyb.
Munros
Y rhestr cyntaf i gael ei chreu yng ngwledydd prydain oedd y Munros a grewyd yn 1891 gan Syr Hugh Munro, 4ydd Barwn (1856–1919). Galwodd bob copa dros 3000 troedfedd yn yr Alban yn "Funro" a chedwir rhestr gyfoes gan Glwb Mynydda'r Alban. Ceir 283 copa a ddiffinir fel "Munro" a 227 copa atodol. Yr enwocaf o'r math hwn ydy Ben Nevis sy'n 1,344 metr (4,409 tr).
Ar wahân i'r math hwn, ceir nifer o restrau poblogaidd eraill e.e. Corbetts, Wainwrights a'r Marilyns.
Corbetts
Copaon rhwng 2,500 a 3,000 (762.0 a 914.4 m) o droedfeddi ydy'r Corbetts, gydag uchder cymharol o dros 500 troedfedd (152.4 m). Lluniwyd y rhestr yn wreiddiol yn y 1920au gan John Rooke Corbett. Ceir 449 ohonyn nhw.
Donalds
Percy Donald a luniodd y rhestr o gopaon dros 2,000 o droedfeddi (609.6 metr). Dim ond yn iseldiroedd yr Alban mae'r copaon hyn. Mae'r fformiwla sy'n eu diffinio'n eitha cymhleth; mae'n rhaid i'r bryncyn o'r math hwn gael amlgygrwydd o 30 m (98 tr). Ceir 140 Donalds: 89 ohonyn nhw'n fryniau a 51 yn gopaon.
Grahams
Bryniau yn yr Alban o rhwng 2,000 a 2,499 tr (609.6 a 761.7 m), gydag amlygrwydd o 150 m (490 tr). Cyhoeddwyd y rhestr hon yn gyntaf gan Alan Dawson mewn llyfr o'r enw The Relative Hills of Britain ond galwyd y copaon ar ôl Fiona Torbet (née Graham) a luniodd restr debyg tua'r un pryd. Dawson sy'n cynnal y rhestr hyd heddiw (2011), rhestr o 224 bryn wedi'u rhannu fel a ganlyn: Yr Ucheldir i'r de o Great Glen 92; yr Ucheldir i'r gogledd o'r Great Glen 84; Canol a de'r Alban 23; Ynys Skye 10; Mull 7; Harris 3; Jura 2; Arran 1; Rum 1 a de Uist 1.
Yn 2004 cyhoeddodd Dawson restr o Gopaon Grahams (Saesneg: Graham Tops) yn yr Alban i lawr i 610 m o ran uchder a 30 m o ran uchder cymharol. Ceir 777 ohonyn nhw.
Murdos
Mae'r rhain yn debyg iawn i'r Munros ac yn cynnwys holl gopaon yr Alban dros 3,000 tr, sydd ag uchder gymharol o dros 30 m (98 tr). Ceir 444 ohonyn nhw ar hyn o bryd (2011). Caiff y rhestr hon ei chynnal gan Alan Dawson.
Uchder troedfeddi |
Uchder metrau |
Amlygrwydd metrau |
yr Alban | Cymru a Lloegr |
---|---|---|---|---|
dros 3000 | pob un | 150+ | Marilyn | Marilyn |
dros 3000 | pob un | tros 100 | HuMP | HuMP |
dros 3000 | 914.4+ | heb ei ddiffinio | Munro, Munro Top |
Furth |
dros 3000 | 914.4+ | 30+ | Murdo | Hewitt |
2500-2999 | 762.0-914.3 | 152.4+(500tr) | Corbett | Hewitt |
2500-2999 | 762.0-914.3 | 30+ | Corbett Top | Hewitt |
2000-2499 | 609.6-761.9 | 150+ | Graham | Hewitt |
2000-2499 | 609.6-761.9 | 30+ | Graham Top | Hewitt |
2000+ | 609.6+ | 15+ | Nuttall | |
500-609.5 | 30+ | Dewey |
Gweler hefyd
Cyfeiriadau
- ↑ (Saesneg) [http://www.biber.fsnet.co.uk/database_notes.html Gwefan "Database of British Hills"