W. H. Davies: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Wicipedia
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Llinell 16: Llinell 16:


==Llyfryddiaeth==
==Llyfryddiaeth==
[[Delwedd:Lesiure.png|bawd|300px|[[Leisure (cerdd W H Davies)|Lesiure]] gan W H Davies]]
[[Delwedd:Lesiure.png|bawd|300px|[[Leisure (cerdd W. H. Davies)|Leisure]] gan W. H. Davies]]
;Barddoniaeth
;Barddoniaeth
*''The Soul's Destroyer'' ([[1905]])
*''The Soul's Destroyer'' ([[1905]])

Fersiwn yn ôl 20:14, 12 Chwefror 2020

W. H. Davies
Ganwyd3 Gorffennaf 1871 Edit this on Wikidata
Casnewydd Edit this on Wikidata
Bu farw26 Medi 1940 Edit this on Wikidata
Swydd Gaerloyw Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Galwedigaethbardd, ysgrifennwr Edit this on Wikidata
Adnabyddus amThe Autobiography of a Super-Tramp Edit this on Wikidata

Llenor Cymreig yn yr iaith Saesneg a chrwydryn oedd W. H. Davies (William Henry Davies) (3 Gorffennaf 187126 Medi 1940). Mae'n fwyaf nodedig am ei gyfrol The Autobiography of a Super-Tramp (1908), un o tua 50 o lyfrau a sgwennodd. Dathlodd ef ei ben-blwydd ar 20 Ebrill, ond 3 Gorffennaf sydd ar ei dystysgrif geni.

Roedd yn ffrind i'r beirdd Edward Thomas, Rupert Brooke a Siegfried Sassoon.

Magwraeth

Roedd yn fab i Francis Boase Davies, mowldiwr haearn, Casnewydd-ar-Wysg, a'i wraig Mary Ann.[1] Cafodd ei eni yn 6 Heol Portland ym Mhillgwenlli, Casnewydd. Fe'i addysgwyd yn yr ysgol elfennol, lle magodd ddiddordeb mewn barddoniaeth.

Priododd Helen Payne yn 1923.

Teithio

Wedi gorffen ei brentisiaeth fel cerfiwr a goreurwr, teithiodd yn helaeth drwy U.D.A. a Chanada. Ym Mawrth 1899, collodd ei goes wedi i'w droed dde gael ei mathru gan olwyn trên tra'n ceisio neidio ar drên yn Renfrew, Ontario.

Ysgrifennu

Dychwelodd o America i Gymru a lle treuliodd ei amser yn barddoni. Ar ôl llawer o anawsterau a siomedigaethau, cyhoeddodd ei lyfr cyntaf, The Soul's Destroyer and Other Poems (Mawrth 1905). Erbyn 1911 roedd yn fardd a llenor cydnabyddedig, yn awdur wyth o lyfrau, ac yn cael blwydd-dâl o restr sifil y Llywodraeth am ei drafferth. Yn 1929, fel gwobr am ei wasanaeth i lenyddiaeth, rhoddwyd iddo radd Doethur er anrhydedd iddo, gan Brifysgol Cymru. Bu farw yn Nailsworth, Swydd Gaerloyw, 26 Medi 1940.

Llyfryddiaeth

Leisure gan W. H. Davies
Barddoniaeth
  • The Soul's Destroyer (1905)
  • New Poems (1907
  • Nature Poems (1908)
  • Farewell to Poesy (1910)
  • Songs of Joy (1911)
  • Foliage (1913)
  • Raptures (1918)
  • Secrets (1924)
  • The Collected Poems of W. H. Davies (1928)
  • The Loneliest Mountain (1939)
Hunangofiant
Taithlyfr
Cofiant

Cyfeiriadau