Ymerodraeth Trebizond: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
B r2.5.2) (robot yn ychwanegu: id:Kekaisaran Trebizond |
Xqbot (sgwrs | cyfraniadau) B robot yn newid: az:Trapezund imperiyası |
||
Llinell 12: | Llinell 12: | ||
[[Categori:Hanes Twrci]] |
[[Categori:Hanes Twrci]] |
||
[[az:Trapezund |
[[az:Trapezund imperiyası]] |
||
[[be:Трапезундская імперыя]] |
[[be:Трапезундская імперыя]] |
||
[[be-x-old:Трапэзундзкая Імпэрыя]] |
[[be-x-old:Трапэзундзкая Імпэрыя]] |
Fersiwn yn ôl 01:36, 6 Mawrth 2011
Sefydlwyd Ymerodraeth Trebizond (Groeg: Βασίλειον τής Τραπεζούντας, yn 1204, wedi i'r Ymerodraeth Fysantaidd ymrannu'n nifer o ddarnau yn dilyn cipio dinas Caergystennin.
Cipiwyd Caergystennin gan y croesgadwyr ar anogaeth Fenis yn ystod y Bedwaredd Groesgad yn 1204, a sefydlasant hwy eu hymerodraeth ei hunain, yr Ymerodraeth Ladin, yng Nghaergystennin a rhai o diriogaethau'r Ymerodraeth Fysantaidd. Un o'r rhannau yr ymrannodd yr Ymerodraeth Fysantaidd iddynt oedd Ymerodraeth Trebizond, gyda'r brifddinas yn Trebizond (Trabzon yn Nhwrci yn awr). Sefydlwyd yr ymerodraeth gan Alexius I, ŵyr yr ymerawdwr Bysantaidd Andronikos I Komnenos, a gymerodd feddiant ar ddinasoedd Groegaidd Trebizond a Sinope a Paphlagonia.
Wedi i ddinas Baghdad gael ei dinistrio gan Hulagu Khan yn 1258, Trebizond oedd pen dwyreiniol Ffordd y Sidan, ac yn ystod teyrnasiad Alexios III (1349 - 1390) daeth yn un o ganolfannau masnach pwysicaf y byd ac yn gyfoethog iawn. Parhaodd ymerodraeth Trebizond hyd 1461, pan gymerwyd meddiant ar ei thiriogaethau gan yr Ymerodraeth Ottomanaidd.