Afon Clwyd: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Wicipedia
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
D22 (sgwrs | cyfraniadau)
BDim crynodeb golygu
cwrs yr afon...
Llinell 1: Llinell 1:
Mae'r '''Afon Clwyd''' yn [[afon]] yng Ngogledd [[Cymru]]. Mae'n llifo o [[Melin y Wig|Felin y Wig]] i [[Môr Iwerddon|Fôr Iwerddon]] ger [[Y Rhyl]]. Mae [[Rhuthun]] a [[Llanelwy]] yn drefi ar lannau'r afon.
Mae '''Afon Clwyd''' yn [[afon]] yng [[Gogledd Cymru|Ngogledd Cymru]]. Enwyd yr hen sir [[Clwyd]] ar ôl yr afon, sy'n rhedeg trwy ei chanol, a'r [[Dyffryn Clwyd|dyffryn]]. Mae'n llifo o gyffiniau [[Melin y Wig]] i [[aber]]u ym [[Môr Iwerddon]] yn [[Y Foryd]], ger [[Y Rhyl]]. Mae [[Rhuthun]] a [[Llanelwy]] ymhlith y trefi ar lannau'r afon.


== Gweler hefyd ==
==Ei chwrs==
Gorwedd tarddle Afon Clwyd ar ucheldiroedd llym rhan ddwyreiniol [[Mynydd Hiraethog]], yn ne [[Sir Ddinbych]]. Yno, tua 1650 troedfedd i fyny yng nghoedwig [[Coniffer|gonifferaidd]] [[Fforest Clocaenog]], mae'r afon yn tarddu i'r gogledd o bentref bach [[Bod Petrual]] ac yn llifo ar gwrs i'r de. Ym Melin y Wig mae'n gwneud tro pedol i'r gogledd-ddwyrain a heibio i gymunedau [[Derwen (Dinbych)|Derwen]] a [[Llanelidan]] gan droi ar gwrs gogleddol. Rhwng y pentrefi hynny mae lôn yr [[A494]] yn ei chroesi am y tro cyntaf.
*[[Afonydd o'r Deyrnas Unedig]]


Wrth i Afon Clwyd lifo i mewn i ran uchaf Dyffryn Clwyd a'r tir ddechrau mynd yn fwy gwastad ar ei glannau, mae [[Afon Alyn]] yn ymuno â hi o'r de-ddwyrain. Saif pentref hanesyddol [[Llanfair Dyffryn Clwyd]] ar aber Alyn a Chlwyd. Erbyn iddi gyrraedd tref [[Rhuthun]] a'i [[Castell Rhuthun|gastell]] canoloesol mae'r afon wedi chwyddo'n sylweddol ac yn cymryd cwrs mwy hamddenol bron yn syth i gyfeiriad y gogledd a'r môr. Mae hi'n gadael Rhuthun ar ei glan ddwyreiniol ac mae'r A494 yn ei chroesi am yr ail dro ar ymyl y dref. Mae nifer o ffrydiau llai yn ymuno â hi wrth iddi fynd yn ei blaen, gan gynnwys [[Afon Ystrad]] o gyfeiriad [[Nantglyn]] i'r gorllewin. Rhed yr afon heibio i [[Llangynhafal|Langynhafal]] a [[Llandyrnog]], i'r dwyrain, a thref [[Dinbych]] i'r gorllewin.
[[Category:Afonydd Cymru|Clwyd]]

Am draean olaf ei siwrnai mae'r afon yn llifo'n urddasol trwy ffermdir cyfoethog a dolydd braf Dyffryn Clwyd, heibio i [[Bodfari|Fodfari]], gyda [[Bryniau Clwyd]] i'r dwyrain. Ar gyrrion dwyreiniol dinas eglwysig [[Llanelwy]] mae'r [[A55]] yn croesi'r afon ar bont newydd. Mae'r tir ar ei glannau'n wastad iawn erbyn hynny. Mae hi'n llifo trwy ganol [[Rhuddlan]] ac yn fuan wedyn yn ymagor i'r [[Y Foryd|Foryd]], ei haber cysgodlyd ger [[Y Rhyl]], ac yn cyrraedd y môr.

==Gweler hefyd==
*[[Dyffryn Clwyd]]
*[[Afonydd Cymru]]

[[Categori:Afonydd Cymru|Clwyd]]
[[Categori:Afonydd Sir Ddinbych|Clwyd]]
[[Categori:Dyffryn Clwyd]]


[[en:River Clwyd]]
[[en:River Clwyd]]

Fersiwn yn ôl 19:37, 10 Ionawr 2007

Mae Afon Clwyd yn afon yng Ngogledd Cymru. Enwyd yr hen sir Clwyd ar ôl yr afon, sy'n rhedeg trwy ei chanol, a'r dyffryn. Mae'n llifo o gyffiniau Melin y Wig i aberu ym Môr Iwerddon yn Y Foryd, ger Y Rhyl. Mae Rhuthun a Llanelwy ymhlith y trefi ar lannau'r afon.

Ei chwrs

Gorwedd tarddle Afon Clwyd ar ucheldiroedd llym rhan ddwyreiniol Mynydd Hiraethog, yn ne Sir Ddinbych. Yno, tua 1650 troedfedd i fyny yng nghoedwig gonifferaidd Fforest Clocaenog, mae'r afon yn tarddu i'r gogledd o bentref bach Bod Petrual ac yn llifo ar gwrs i'r de. Ym Melin y Wig mae'n gwneud tro pedol i'r gogledd-ddwyrain a heibio i gymunedau Derwen a Llanelidan gan droi ar gwrs gogleddol. Rhwng y pentrefi hynny mae lôn yr A494 yn ei chroesi am y tro cyntaf.

Wrth i Afon Clwyd lifo i mewn i ran uchaf Dyffryn Clwyd a'r tir ddechrau mynd yn fwy gwastad ar ei glannau, mae Afon Alyn yn ymuno â hi o'r de-ddwyrain. Saif pentref hanesyddol Llanfair Dyffryn Clwyd ar aber Alyn a Chlwyd. Erbyn iddi gyrraedd tref Rhuthun a'i gastell canoloesol mae'r afon wedi chwyddo'n sylweddol ac yn cymryd cwrs mwy hamddenol bron yn syth i gyfeiriad y gogledd a'r môr. Mae hi'n gadael Rhuthun ar ei glan ddwyreiniol ac mae'r A494 yn ei chroesi am yr ail dro ar ymyl y dref. Mae nifer o ffrydiau llai yn ymuno â hi wrth iddi fynd yn ei blaen, gan gynnwys Afon Ystrad o gyfeiriad Nantglyn i'r gorllewin. Rhed yr afon heibio i Langynhafal a Llandyrnog, i'r dwyrain, a thref Dinbych i'r gorllewin.

Am draean olaf ei siwrnai mae'r afon yn llifo'n urddasol trwy ffermdir cyfoethog a dolydd braf Dyffryn Clwyd, heibio i Fodfari, gyda Bryniau Clwyd i'r dwyrain. Ar gyrrion dwyreiniol dinas eglwysig Llanelwy mae'r A55 yn croesi'r afon ar bont newydd. Mae'r tir ar ei glannau'n wastad iawn erbyn hynny. Mae hi'n llifo trwy ganol Rhuddlan ac yn fuan wedyn yn ymagor i'r Foryd, ei haber cysgodlyd ger Y Rhyl, ac yn cyrraedd y môr.

Gweler hefyd