Inis: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Wicipedia
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
B r2.7.1) (robot yn ychwanegu: br:Inis
EmausBot (sgwrs | cyfraniadau)
B r2.6.4) (robot yn newid: nl:Ennis (Ierland)
Llinell 24: Llinell 24:
[[it:Ennis]]
[[it:Ennis]]
[[lt:Enisas]]
[[lt:Enisas]]
[[nl:Ennis]]
[[nl:Ennis (Ierland)]]
[[nn:Ennis]]
[[nn:Ennis]]
[[no:Ennis]]
[[no:Ennis]]

Fersiwn yn ôl 05:40, 4 Mawrth 2011

Eglwys gadeiriol Sant Pedr a Sant Paul ar hyd Stryd O'Connell

Prif dref Swydd Clare yn nhalaith Munster, Gweriniaeth Iwerddon yw Inis (Saesneg: Ennis). Saif ar Afon Fergus, i'r gogledd o Limerick ac i'r de o Galway, ar y briffordd N18. Yr enw llawn gwreiddiol oedd Inis Cluain Ramh Fhada ("Ynys y Rhwyfo Hir"). Saif o fewn 12 milltir i Faes Awyr Shannon. Roedd y boblogaeth yn 2006 yn 24,253.

Tyfodd Inis o amgylch yr abaty Ffransiscaidd, a sefydlwyd tua 1242. Ceir Eglwys gadeiriol Sant Pedr a Sant Paul yma hefyd. Mae'n ganolfan bwysig i gerddoriaeth draddodiadol Iwerddon, a chynhelir gwyl gerddorol y Fleadh Nua yma'n flynyddol tua diwedd Mai.

Ceir cofgolofn yma i Daniel O'Connell, oedd yn frodor o'r dref.