Wicipedia:Gweinyddwyr: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Wicipedia
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Xqbot (sgwrs | cyfraniadau)
Xqbot (sgwrs | cyfraniadau)
Llinell 59: Llinell 59:
[[ang:Wikipedia:Bewitend]]
[[ang:Wikipedia:Bewitend]]
[[ar:ويكيبيديا:إداريون]]
[[ar:ويكيبيديا:إداريون]]
[[arc:ܘܝܩܝܦܕܝܐ:Administrators]]
[[arc:ܘܝܩܝܦܕܝܐ:ܡܕܒܪܢܐ]]
[[arz:ويكيبيديا:اداريين/سيسوبات]]
[[arz:ويكيبيديا:اداريين/سيسوبات]]
[[as:Wikipedia:প্ৰশাসনবৃন্দ]]
[[as:Wikipedia:প্ৰশাসনবৃন্দ]]

Fersiwn yn ôl 21:24, 3 Mawrth 2011

Defnyddwyr sydd â galluoedd arbennig ganddynt yw'r gweinyddwyr, sy'n eu galluogi i wneud rhai tasgau cynnal a chadw ar Wicipedia. Nid y gweinyddwyr sydd yn penderfynu ar y tasgau heblaw ei fod yn dasg amlwg neu angen ei wneud yn ddiymdroi (e.e. dileu lluniau sydd wedi eu huwchlwytho heb ganiatâd perchennog yr hawlfraint). Yn hytrach gweithredu penderfyniadau'r gymuned yw eu swyddogaeth. Maent yn ddefnyddwyr eu hunain, sydd yn ymgymryd â'r gwaith gweinyddol ychwanegol yn ddi-dâl. Eu prif ddyletswyddau yw diogelu a dileu tudalennau, golygu tudalennau sydd wedi eu diogelu, rhwystro defnyddwyr, a dadwneud y gweithredoedd hyn i gyd hefyd.

Creu gweinyddwyr

Biwrocratiaid yw'r rhai sydd â phwerau uwch fyth ganddynt (gweler Wikipedia), a'r rhain sydd yn arfogi gweinyddwr. Os ydych am gynnig chi eich hunan neu ddefnyddiwr arall i fod yn weinyddwr gallwch wneud hynny ar y caffi. Mae'n arferol disgwyl i gael eilydd neu ddau o blith y defnyddwyr cyn i fiwrocrat greu gweinyddwr. Mae'n rhaid i ddefnyddiwr gydsynio i fod yn weinyddwr cyn cael ei wneud yn weinyddwr. Nid oes terfyn ar gyfnod penodiad fel gweinyddwr ond fe all pwerau gweinyddwr gael eu tynnu oddi arno. Gall hyn ddigwydd ar gais y gweinyddwr ei hunan. Mewn achosion lle y camddefnyddiwyd pwerau gweinyddwr gall stiward ddileu ei statws gweinyddwr yn unol â phenderfyniad gan Jimbo Wales neu'r pwyllgor cyflafareddu (gweler Wikipedia am eglurhad pellach).

Galluoedd gweinyddwyr

Rhain yw'r prif dasgau y gall gweinyddwyr eu gwneud:

  • Golygu tudalennau sydd wedi eu diogelu. Ymhlith y rhain mae'r:
    • Hafan
    • Wicipedia:GNU FDL
    • Negeseuon - rhain sy'n rhoi testun y rhyngwyneb (y tabiau, y botymau, testun y tudalennau arbennig ag ati. Fe'u cedwir yn y parth Mediawiki.

Os ydych am newid rhywbeth ar dudalen sydd wedi ei ddiogelu eglurwch y newid ar y dudalen sgwrs a rhowch y nodyn {{Atsylwgweinyddwr}} ar y dudalen sgwrs. Os ydych am newid rhywbeth yn y rhyngwyneb heb wybod teitl y neges i'w newid gallwch godi'r mater ar y Caffi neu Wicipedia:Cymorth iaith, gan nodi'r neges wreiddiol a'r dudalen y daethoch ar draws y neges arni. Oherwydd bod newid y ffeiliau pwysicaf megis Monobook.css yn gallu gwneud niwed i'r rhyngwyneb neu i'r wefan gyfan digon posib y bydd yn rhaid galw am gymorth datblygwyr y meddalwedd ar Mediawiki er mwyn diwygio rhai ffeiliau.

  • Diogelu a dad-ddiogelu tudalennau. Diben hwn yw diogelu rhag fandaliaeth neu niwed damweiniol i dudalennau hanfodol, e.e. yr Hafan. Anaml iawn y bydd erthyglau yn cael eu diogelu. Gwneir hynny er mwyn atal fandaliaeth remp neu er mwyn creu ysbaid o lonydd os oes anghydfod wedi codi a hynny'n arwain at newidiadau di-ddiwedd ar ryw dudalen. Os ydych am i dudalen gael ei ddiogelu neu ei ddad-ddiogelu codwch y mater ar Wicipedia:Y Caffi.
  • Dileu ac adfer tudalennau. Os ydych am gynnig y dylai tudalen gael ei dileu rhowch y nodyn {{Tudalen amheus}} ar y dudalen ac egluro'r rheswm dros eich cynnig ar y dudalen Wicipedia:Tudalennau amheus. Fe gaiff y cynnig ei drafod yno ac os ymddengys cydsynied y dylid ei dileu yna fe wnaiff gweinyddwr hynny.
  • Blocio, sef atal defnyddwyr rhag golygu tudalennau o ryw gyfrif neu gyfeiriad IP arbennig. Yn yr un modd gall gweinyddwr dad-flocio defnyddiwr.

Gofyn am gymorth gweinyddwr

Os oes angen cymorth gweinyddwr arnoch, cewch naill ai -

  • gysylltu'n unigol,
  • gofyn yn y Caffi, neu
  • ychwanegu nodyn pwrpasol at dudalen sgwrs i dynnu sylw'r gweinyddwyr ati, sef y nodyn Atsylwgweinyddwr.

Gan fod criw'r Wicipedwyr Wicipedia Cymraeg yn fach o'i gymharu â Wikipedia Saesneg mae'r ymateb i geisiadau yn gallu bod yn arafach o lawer nag yw hi ar Wikipedia. Mae weithiau'n gallu bod yn anodd dirnad ystyr diffyg ymateb i gynnig – ai diffyg cefnogaeth sydd wrth ei wraidd ynteu dim gwrthwynebiad i'r cynnig, neu ddiffyg amser i ystyried pob trafodaeth ac ymateb iddynt. Mae tuedd wedi datblygu i gymryd bod cynnig yn dderbyniol os na fynegir unrhyw wrthwynebiad iddo. Os na chewch ymateb i gais am help gweinyddwr peidiwch â digalonni – rhowch nodyn i'w hatgoffa ar y Caffi ar ôl rhai wythnosau.

Ceir rhagor o fanylion am weinyddwyr ar Wikipedia Saesneg.

Rhestr Gweinyddwyr

Dyma restr y gweinyddwyr ar Wicipedia ar hyn o bryd.

ak:Wikipedia:Administrators