Edward Tegla Davies: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Wicipedia
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Dim crynodeb golygu
BDim crynodeb golygu
Llinell 10: Llinell 10:
| dyddiadmarw = {{dyddiad marw ac oedran|df=y|1967|10|9|1880|5|31}}
| dyddiadmarw = {{dyddiad marw ac oedran|df=y|1967|10|9|1880|5|31}}
| manmarw =
| manmarw =
| galwedigaeth = [[Nofelydd]], [[bardd]] [[gweinidog]]
| galwedigaeth = [[Nofelydd]], [[bardd]] [[Gweinidog yr Efengyl]]
| cenedligrwydd =
| cenedligrwydd =
| ethnigrwydd =
| ethnigrwydd =
Llinell 34: Llinell 34:


== Bywyd ==
== Bywyd ==
Magwyd Tegla yn ei bentref genedigol, sef Llandegla, ger [[Rhuthun]] yn 1880, ac yno y cafodd ei addysg gynnar. Cafodd cymdeithas Gymraeg glos a byd natur ei ardal effaith amlwg ar ei waith llenyddol a'i agwedd at fywyd yn gyffredinol. Aeth i [[Coleg Didsbury|Goleg Didsbury]], [[Manceinion]] ar ôl cyfnod o 4 mlynedd yn ddisgybl-athro ac yna tair mlynedd fel athro cynorthwyol yn Ysgol [[Bwlchgwyn]], ei hen ysgol, cyn gwasanaethu fel gweinidog [[Eglwys Fethodistaidd Cymru|Wesla]] am weddill ei oes. Crwydrodd o gylchdaith i gylchdaith yn ystod ei weinidogaeth, fel oedd yn arferol i weinidogion Wesla, ac roedd yn [[Pregethwyr|bregethwr]] dylanwadol. Roedd yn sgwennu'n gyson i'r [[Y Wasg Gymraeg|wasg Gymraeg]] ac yn olygydd ar ''[[Y Winllan]]'' ([[1920]]-[[1928]]), cylchgrawn y Wesleaid, a'r ''[[Yr Efrydydd|Efrydydd]]'' ([[1931]]-[[1935]]). Golygodd ''[[Cyfres Pobun|Gyfres Pobun]]'' am gyfnod yn ogystal. Roedd yn adnabod nifer o lenorion eraill yng Nghymru ac yn gyfaill agos i [[Thomas Gwynn Jones|T. Gwynn Jones]] ac [[Ifor Williams]].
Magwyd Tegla yn ei bentref genedigol, sef Llandegla, ger [[Rhuthun]] yn 1880, ac yno y cafodd ei addysg gynnar. Cafodd cymdeithas Gymraeg glos a byd natur ei ardal effaith amlwg ar ei waith llenyddol a'i agwedd at fywyd yn gyffredinol. Aeth i [[Coleg Didsbury|Goleg Didsbury]], [[Manceinion]] ar ôl cyfnod o 4 mlynedd yn ddisgybl-athro ac yna tair mlynedd fel athro cynorthwyol yn Ysgol [[Bwlchgwyn]], ei hen ysgol, cyn gwasanaethu fel [[Gweinidog yr Efengyl|gweinidog]] [[Eglwys Fethodistaidd Cymru|Wesla]] am weddill ei oes. Crwydrodd o gylchdaith i gylchdaith yn ystod ei weinidogaeth, fel oedd yn arferol i weinidogion Wesla, ac roedd yn [[Pregethwyr|bregethwr]] dylanwadol. Roedd yn sgwennu'n gyson i'r [[Y Wasg Gymraeg|wasg Gymraeg]] ac yn olygydd ar ''[[Y Winllan]]'' ([[1920]]-[[1928]]), cylchgrawn y Wesleaid, a'r ''[[Yr Efrydydd|Efrydydd]]'' ([[1931]]-[[1935]]). Golygodd ''[[Cyfres Pobun|Gyfres Pobun]]'' am gyfnod yn ogystal. Roedd yn adnabod nifer o lenorion eraill yng Nghymru ac yn gyfaill agos i [[Thomas Gwynn Jones|T. Gwynn Jones]] ac [[Ifor Williams]].


==Anrhydeddau==
==Anrhydeddau==

Fersiwn yn ôl 19:03, 5 Chwefror 2020

Edward Tegla Davies
Geni Edward Tegla Davies
31 Mai 1880(1880-05-31)
Llandegla-yn-Iâl, Sir Ddinbych, Cymru
Marw 9 Hydref 1967(1967-10-09) (87 oed)
Galwedigaeth Nofelydd, bardd Gweinidog yr Efengyl
Math o lên Nofelau i blant, straeon byrion, ysgrifau
Gwaith nodedig Gŵr Pen y Bryn, Y Llwybr Arian

Llenor yn yr iaith Gymraeg, a anwyd yn Llandegla-yn-Iâl yn yr hen Sir Ddinbych, yn fab i chwarelwr (31 Mai 18809 Hydref 1967) oedd Edward Tegla Davies. Fel Tegla roedd yn cael ei adnabod gan bawb.

Bywyd

Magwyd Tegla yn ei bentref genedigol, sef Llandegla, ger Rhuthun yn 1880, ac yno y cafodd ei addysg gynnar. Cafodd cymdeithas Gymraeg glos a byd natur ei ardal effaith amlwg ar ei waith llenyddol a'i agwedd at fywyd yn gyffredinol. Aeth i Goleg Didsbury, Manceinion ar ôl cyfnod o 4 mlynedd yn ddisgybl-athro ac yna tair mlynedd fel athro cynorthwyol yn Ysgol Bwlchgwyn, ei hen ysgol, cyn gwasanaethu fel gweinidog Wesla am weddill ei oes. Crwydrodd o gylchdaith i gylchdaith yn ystod ei weinidogaeth, fel oedd yn arferol i weinidogion Wesla, ac roedd yn bregethwr dylanwadol. Roedd yn sgwennu'n gyson i'r wasg Gymraeg ac yn olygydd ar Y Winllan (1920-1928), cylchgrawn y Wesleaid, a'r Efrydydd (1931-1935). Golygodd Gyfres Pobun am gyfnod yn ogystal. Roedd yn adnabod nifer o lenorion eraill yng Nghymru ac yn gyfaill agos i T. Gwynn Jones ac Ifor Williams.

Anrhydeddau

Gwrthododd gynnig i dderbyn OBE, gan ysgrifennu at ffrind, 'Ni allaf ddychmygu fy hun yn "Swyddog yr Ymerodraeth Brydeinig" pan oeddwn wedi ymrwymo fy mywyd i wasanaethu Un a fu farw ar groes'. Ond derbyniodd ddau anrhydedd o Brifysgol Cymru, gradd MA er anrhydedd ym 1924 a DLitt ym 1958, am ei gyfraniad at lenyddiaeth Gymreig.[1]

Gwaith Llenyddol

Ysgrifennai ar gyfer plant ac oedolion fel ei gilydd ac mae ei waith yn cynnwys nofelau, sawl cyfrol o straeon byrion, ysgrifau a hunangofiant. Mae ei arddull yn rhwydd ac agos-atoch ac mae ei gydymdeimlad cynhenid â phlant a byd natur yn elfen amlwg yn ei waith.

Llyfrau i blant yn bennaf

Llyfrau eraill

Llyfryddiaeth

  • Pennar Davies, Edward Tegla Davies, yn y gyfres Writers of Wales (1983)
  • Islwyn Ffowc Ellis, Dirgelwch Tegla (1977)
  • Islwyn Ffowc Ellis (gol.), Edward Tegla Davies, Llenor a Phroffwyd (1956)
  • Huw Ethall, Cofiant Tegla (1980)
  • Mairwen a Gwynn Jones (gol.), Dewiniaid Difyr (Llandysul, 1983). Ysgrif ar Degla gan Dyddgu Owen, tt.97-103. ISBN 0850887372
  • R.M. Jones, Llenyddiaeth Gymraeg 1902-1936 (Cyhoeddiadau Barddas, 1987). Pennod 41: "Tegla a Phlant".

Dolennau allanol

Cyfeiriadau

  1. Elis, I. (2004, September 23). Davies, (Edward) Tegla (1880–1967), Wesleyan Methodist minister and author. Oxford Dictionary of National Biography. Ed. Retrieved 11 Feb. 2019, from http://www.oxforddnb.com/view/10.1093/ref:odnb/9780198614128.001.0001/odnb-9780198614128-e-61275.


Edward Tegla Davies Tegla
Ar Ddisberod | Y Doctor Bach | Y Foel Faen | Gŵr Pen y Bryn | Gyda'r Blynyddoedd | Gyda'r Glannau | Hen Ffrindiau | Yr Hen Gwpan Cymun | Hunangofiant Tomi | Y Llwybr Arian | Nedw | Rhyfedd o Fyd | Rhys Llwyd Y Lleuad | Stori Sam | Tir Y Dyneddon