Francesco Petrarca: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
Amirobot (sgwrs | cyfraniadau) B r2.7.1) (robot yn ychwanegu: az:Françesko Petrarka |
B r2.7.1) (robot yn ychwanegu: eu:Petrarka |
||
Llinell 41: | Llinell 41: | ||
[[es:Petrarca]] |
[[es:Petrarca]] |
||
[[et:Francesco Petrarca]] |
[[et:Francesco Petrarca]] |
||
[[eu:Petrarka]] |
|||
[[fa:فرانچسکو پترارک]] |
[[fa:فرانچسکو پترارک]] |
||
[[fi:Francesco Petrarca]] |
[[fi:Francesco Petrarca]] |
Fersiwn yn ôl 20:57, 1 Mawrth 2011
Bardd, awdur ac ysgolhaig Eidalaidd oedd Francesco Petrarca, hefyd Pertrarch (20 Gorffennaf 1304 - 19 Gorffennaf 1374). Ystyrir ef yn un o ffigyrau amlycaf y Dadeni Dysg yn yr Eidal a sylfaenydd Dyneiddiaeth.
Cafodd ei eni yn Arezzo. Roedd ei dad wedi ei alltudio o Fflorens gyda Dante fel un o arweinwyr y Welfiaid, a threuliodd Petrarca ei ieuenctod yn Avignon. Astudiodd ym Montpellier (1319-1323) cyn astudio'r gyfraith yn Bologna o 1323 hyd 1325. Daeth yn gyfeillgar a Giovanni Boccaccio. Yn 1326, wedi marwolaeth ei dad, dychwelodd i Avignon, lle parhaodd i astudio'r clasuron Lladin.
Er ei fod ef ei hun yn ystyried mai ei weithiau athronyddol mewn Lladin oedd ei weithiau pwysicaf, daeth yn enwog am ei gerddi mewn Eidaleg, y Canzoniere, yn enwedig ei gerddi serch i "Laura". Galwyd y soned Betrarchaidd ar ei ôl.
Gweithiau
- Africa (arwrgerdd am Scipio Africanus)
- De viris illustribus
- Rerum memorandarum libri
- Canzoniere