Rhyd: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
B r2.7.1) (robot yn ychwanegu: hu:Boród |
Dadwneud y golygiad 964297 gan WikitanvirBot (Sgwrs | cyfraniadau): en:a certain town, not a general river crossing |
||
Llinell 35: | Llinell 35: | ||
[[gv:Aah]] |
[[gv:Aah]] |
||
[[he:מעברה (נקודת חצייה)]] |
[[he:מעברה (נקודת חצייה)]] |
||
[[hu:Boród]] |
|||
[[is:Vað]] |
[[is:Vað]] |
||
[[it:Guado]] |
[[it:Guado]] |
Fersiwn yn ôl 20:59, 28 Chwefror 2011
- Mae hon yn erthygl ar y nodwedd ddaearyddol. Am y pentref ym Meirionnydd, gweler Rhyd, Gwynedd.
Lle bas mewn afon, ffrwd, neu gorff arall o ddŵr, y gellir ei groesi ar droed neu ar geffyl ac ati yw rhyd.
Yn yr amser cyn i bontydd ddod yn gyffredin y rhyd oedd y man croesi arferol ar afonydd, yn arbennig yn achos afonydd llai a ffrydiau (defnyddio cwch i'w croesi oedd y dewis arall). Mewn mannau lle oedd y dŵr yn fwy dyfn ceir cerrig llam weithiau. Mae lleoliad rhydau yn gymorth mawr wrth geisio olrhain hen ffyrdd a llwybrau cynhanesyddol.
Oherwydd eu bod yn fannau strategol pwysig, mae rhydau yn cael eu cysylltu â brywdrau mewn hanes sawl gwlad. Yn llenyddiaeth y gwledydd Celtaidd mae cael arwyr yn ymladd mewn rhyd neu'n agos iddi yn olygfa gyffredin, yn enwedig yn achos llenyddiaeth Wyddeleg. Mae gan rai o rydau Cymru arwyddocád arbennig yn nhraddodiad y canu darogan a'r brudiau fel lleoedd a gysylltir â brwydrau tyngedfennol.
Mae rhyd yn elfen gyffredin mewn enwau lleoedd yng Nghymru, sy'n adlewyrchu ei bwysigrwydd ym mywyd y wlad. Fel enghreifftiau gellid enwi Rhydaman a Rhydcymerau yn y de, Rhyd Ddu yn Eryri, ac ati. Yn aml roedd llwybrau o bentref i bentref yn defnyddio rhydau. Gellir gweld rhai o'r rhydau llai hyn wrth gerdded yn y bryniau.
Gorweddai rhai rhydau ar ffyrdd y porthmyn ac fe'i defnyddid i gael gyrroedd o wartheg dros afon. Ceir enghreifftiau o bentrefi a dyfodd yn ymyl rhydau gyda thafarnau a chyfleusterau eraill ar gyfer y porthmyn.