El Salfador: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
Jac-y-do (sgwrs | cyfraniadau) Cefnfor yr Iwerydd |
|||
Llinell 1: | Llinell 1: | ||
{{Gwybodlen lle |
{{Gwybodlen lle |
||
| ynganiad = {{wikidata|property|P443}} |
| ynganiad = {{wikidata|property|P443}} |
||
| math = gwlad image1 sir |
|||
| math = gwlad image1 sir | enw_brodorol = <big>'''''República de El Salvador'''''</big> | suppressfields= image1 | map lleoliad = [[Delwedd:LocationElSalvador.svg|270px]] | sefydlwyd = 1810 (Anibyniaeth oddi wrth [[Sbaen]])<br />15 Medi 1821 (cydnabod gan Sbaen)| banergwlad = [[Delwedd:Flag of El Salvador.svg|170px]] }} |
|||
| enw_brodorol = <big>'''''República de El Salvador'''''</big> |
|||
| suppressfields = image1 |
|||
| map lleoliad = [[Delwedd:LocationElSalvador.svg|270px]] |
|||
| sefydlwyd = 1810 (Anibyniaeth oddi wrth [[Sbaen]])<br />15 Medi 1821 (cydnabod gan Sbaen) |
|||
| banergwlad = [[Delwedd:Flag of El Salvador.svg|170px]] |
|||
}} |
|||
[[Gweriniaeth]] [[Sbaeneg]] yng [[Canolbarth America|Nghanolbarth America]] sy'n ffinio â'r [[Cefnfor Tawel]] i'r de, [[Gwatemala]] i'r gorllewin, ac [[Hondwras]] i'r gogledd a'r dwyrain yw '''Gweriniaeth El Salfador''' neu '''El Salvador''' (Sbaeneg: ''República de El Salvador'', {{IPA|/re'puβlika ðe el salβa'ðor/}}). |
[[Gweriniaeth]] [[Sbaeneg]] yng [[Canolbarth America|Nghanolbarth America]] sy'n ffinio â'r [[Cefnfor Tawel]] i'r de, [[Gwatemala]] i'r gorllewin, ac [[Hondwras]] i'r gogledd a'r dwyrain yw '''Gweriniaeth El Salfador''' neu '''El Salvador''' (Sbaeneg: ''República de El Salvador'', {{IPA|/re'puβlika ðe el salβa'ðor/}}). |
||
Llinell 15: | Llinell 21: | ||
== Daearyddiaeth == |
== Daearyddiaeth == |
||
{{prif|Daearyddiaeth El Salfador}} |
{{prif|Daearyddiaeth El Salfador}} |
||
Mae dwy gadwyn [[llosgfynydd|folcanig]] sy'n llwybro o ddwyrain i orllewin El Salfador yn rhannu'r wlad yn dri rhanbarth daearyddol: llain gul arfordirol yn y de, [[dyffryn]]noedd a [[llwyfandir]]oedd ucheldirol gydag uchder cyfartalog o 600 m yng nghanolbarth y wlad, a [[mynydd]]oedd yn y gogledd (gyda [[Santa Ana]] (2381 m) fel man uchaf y wlad). Mae'r [[Afon Lempa]], sy'n croesi ffin ogleddol El Salfador â Hondwras a gyda'i tharddle yng [[Gwatemala|NGwatemala]], yn rhedeg yn ddeheuol trwy'r wlad i'r [[Y Cefnfor Tawel|Cefnfor Tawel]]. Mae nifer o [[llyn folcanig|lynnoedd folcanig]] yn El Salfador, ac mae daeargrynfeydd yn gyffredin. |
Mae dwy gadwyn [[llosgfynydd|folcanig]] sy'n llwybro o ddwyrain i orllewin El Salfador yn rhannu'r wlad yn dri rhanbarth daearyddol: llain gul arfordirol yn y de, [[dyffryn]]noedd a [[llwyfandir]]oedd ucheldirol gydag uchder cyfartalog o 600 m yng nghanolbarth y wlad, a [[mynydd]]oedd yn y gogledd (gyda [[Santa Ana]] (2381 m) fel man uchaf y wlad). Mae'r [[Afon Lempa]], sy'n croesi ffin ogleddol El Salfador â Hondwras a gyda'i tharddle yng [[Gwatemala|NGwatemala]], yn rhedeg yn ddeheuol trwy'r wlad i'r [[Y Cefnfor Tawel|Cefnfor Tawel]]. Mae nifer o [[llyn folcanig|lynnoedd folcanig]] yn El Salfador, ac mae daeargrynfeydd yn gyffredin. El Salfador yw'r unig wlad yng Nghanol America heb arfordir ar [[Cefnfor yr Iwerydd|Gefnfor yr Iwerydd]]. |
||
== Adrannau a bwrdeistrefi == |
== Adrannau a bwrdeistrefi == |
||
Llinell 81: | Llinell 87: | ||
{{Gwledydd Canolbarth America}} |
{{Gwledydd Canolbarth America}} |
||
⚫ | |||
[[Categori:Aelod-wladwriaethau'r Cenhedloedd Unedig]] |
[[Categori:Aelod-wladwriaethau'r Cenhedloedd Unedig]] |
||
[[Categori:Cyn-drefedigaethau Ymerodraeth Sbaen]] |
[[Categori:Cyn-drefedigaethau Ymerodraeth Sbaen]] |
||
⚫ | |||
[[Categori:Gweriniaethau]] |
[[Categori:Gweriniaethau]] |
||
[[Categori:Gwledydd Canolbarth America]] |
[[Categori:Gwledydd Canolbarth America]] |
Fersiwn yn ôl 08:26, 30 Ionawr 2020
República de El Salvador | |
Arwyddair | Duw, Undod, Rhyddid |
---|---|
Math | gwladwriaeth sofran, gwlad |
Enwyd ar ôl | y Gwaredwr |
Prifddinas | San Salvador |
Poblogaeth | 5,744,113 |
Sefydlwyd | 1810 (Anibyniaeth oddi wrth Sbaen) 15 Medi 1821 (cydnabod gan Sbaen) |
Anthem | Himno Nacional de El Salvador |
Pennaeth llywodraeth | Nayib Bukele |
Cylchfa amser | UTC−06:00, America/El_Salvador |
Iaith/Ieithoedd swyddogol | Sbaeneg |
Daearyddiaeth | |
Rhan o'r canlynol | America Ladin, Canolbarth America, America Sbaenig |
Gwlad | El Salfador |
Arwynebedd | 20,742 ±1 km² |
Yn ffinio gyda | Hondwras, Gwatemala |
Cyfesurynnau | 13.66889°N 88.86611°W |
Gwleidyddiaeth | |
Corff gweithredol | Llywodraeth El Salfador |
Corff deddfwriaethol | Cynulliad Deddfwriaethol |
Swydd pennaeth y wladwriaeth | Arlywydd El Salfador |
Pennaeth y wladwriaeth | Nayib Bukele |
Swydd pennaeth y Llywodraeth | Arlywydd El Salfador |
Pennaeth y Llywodraeth | Nayib Bukele |
Ariannol | |
Cyfanswm CMC (GDP) | $29,451 million, $32,489 million |
Arian | doler yr Unol Daleithiau, Bitcoin |
Canran y diwaith | 6 ±1 canran |
Cyfartaledd plant | 1.931 |
Mynegai Datblygiad Dynol | 0.675 |
Gweriniaeth Sbaeneg yng Nghanolbarth America sy'n ffinio â'r Cefnfor Tawel i'r de, Gwatemala i'r gorllewin, ac Hondwras i'r gogledd a'r dwyrain yw Gweriniaeth El Salfador neu El Salvador (Sbaeneg: República de El Salvador, /re'puβlika ðe el salβa'ðor/).
Hanes
- Prif: Hanes El Salfador
Gorchfygwyd El Salfador, oedd yn rhan o'r Deyrnas Astecaidd, gan y Sbaenwyr yn 1526, ac enillodd annibyniaeth yn 1821. Roedd yn aelod o Ffederasiwn Canolbarth America tan ei ddiddymiad yn 1839, a daeth yn weriniaeth yn 1841. Yng nghanol yr ugeinfed ganrif rheolwyd y wlad gan unbenaethau a dioddefodd o ansefydlogrwydd gwleidyddol. Bu wrthdaro â Hondwras yn 1965 ac yn Rhyfel Pêl-droed 1969. Parhaodd yr ansefydlogrwydd gwleidyddol i'r 1970au gyda gweithredoedd herwfilwrol yn erbyn y llywodraeth a gefnogwyd gan yr Unol Daleithiau. Yn dilyn bradlofruddiaeth Archesgob El Salfador Óscar Romero yn 1980 dechreuodd Rhyfel Cartref El Salfador, lle bu farw 75 000 a daeth nifer yn ffoaduriaid. Arwyddwyd cytundeb heddwch yn 1992; o dan delerau'r cadoediad cydnabuwyd y grŵp herwfilwrol asgell chwith Frente Farabundo Martí para la Liberación Nacional (FMLN) fel plaid wleidyddol ac aethant ymlaen i ennill seddi yn etholiadau deddfwriaethol 1994, pan ddaeth yr Alianza Republicana Nacionalista (ARENA) asgell dde i rym. Achosodd ddaeargrynfeydd difrod eang yn 2001.
Gwleidyddiaeth
Llywodraethir El Salfador gan Arlywydd a etholir pob pum mlynedd, a Chynulliad Cenedlaethol democrataidd gyda 60 o aelodau.
Daearyddiaeth
Mae dwy gadwyn folcanig sy'n llwybro o ddwyrain i orllewin El Salfador yn rhannu'r wlad yn dri rhanbarth daearyddol: llain gul arfordirol yn y de, dyffrynnoedd a llwyfandiroedd ucheldirol gydag uchder cyfartalog o 600 m yng nghanolbarth y wlad, a mynyddoedd yn y gogledd (gyda Santa Ana (2381 m) fel man uchaf y wlad). Mae'r Afon Lempa, sy'n croesi ffin ogleddol El Salfador â Hondwras a gyda'i tharddle yng NGwatemala, yn rhedeg yn ddeheuol trwy'r wlad i'r Cefnfor Tawel. Mae nifer o lynnoedd folcanig yn El Salfador, ac mae daeargrynfeydd yn gyffredin. El Salfador yw'r unig wlad yng Nghanol America heb arfordir ar Gefnfor yr Iwerydd.
Adrannau a bwrdeistrefi
- Gweler hefyd: Rhestr dinasoedd El Salfador.
Rhannir El Salfador yn 14 o adrannau (departamentos), a phob un adran wedi'i isrannu'n 267 o fwrdeistrefi (municipios). Yr adrannau yw:
Demograffeg
- Prif: Demograffeg El Salfador
Mae tua 7 miliwn o bobl yn byw yn El Salfador; 90% ohonynt yn mestizo (hil gymysg), 9% yn wyn ac 1% yn frodorol. El Salfador yw'r wlad gyda'r dwysedd poblogaeth mwyaf yng Nghanolbarth America (318.7/km²). Mae 62% o'r boblogaeth yn byw mewn ardaloedd trefol a 38% yn byw yng nghefn gwlad.[1] Mae 80% o Salfadoriaid yn Gatholigion Rhufeinig, 18% yn efengylaidd a 2% yn grefydd arall neu ddim yn dilyn crefydd o gwbwl.[1]
Twristiaeth
[1] Mae nifer y twristiaid sy'n ymweld ag El Salfador wedi cynyddu yn sgil dyfodiad heddwch i'r wlad yn y blynyddoedd diweddar, gyda'r mwyafrif yn dod i fwynhau cyrchfannau arfordirol a thraethau El Salfador. Ond mae trosedd, daeargrynfeydd a chostau uchel am ystafelloedd a theithiau awyr dal i rwystro'r diwydiant.
Bu nifer y twristiaid yn cynyddu 29% yn 2002 i 951 000 o ymwelwyr, tua un am bob 6.8 Salfadoriad. Daeth 31% ohonynt o Gwatemala, 22% o Unol Daleithiau America, 17% o Hondwras a'r 30% gweddill o wledydd eraill.
Addysg
- Prif: Addysg yn El Salfador
[1] Seilir cyfundrefn addysg El Salfador ar yr un Americanaidd. Y lefel llythrennedd yw 79%; mae addysg wedi'i chyfyngu mewn ardaloedd gwledig. Mae gan El Salfador 118 491 o fyfyrwyr (2004), a'r oedran i adael ysgol yw 15.
Cyfeiriadau
Cysyllltiadau allanol
Gwefannau'r llywodraeth
- (Sbaeneg) Casa Presidencial – Arlywydd El Salfador
- (Sbaeneg) Asamblea Legislativa – Cynulliad Deddfwriaethol
- (Sbaeneg) Ministerio de Defensa Nacional – Gweinyddiaeth Amddiffyn
- (Sbaeneg) Fuerza Aerea Salvadoreña – Awyrlu El Salfador
- (Sbaeneg) Ministerio de Medio Ambiente y Recursos Naturales – Gweinyddiaeth yr Amgylchedd ac Adnoddau Naturiol
- (Sbaeneg) Ministerio de Relaciones Exteriores – Gweinyddiaeth Materion Tramor
- (Sbaeneg) Ministerio de Economía – Gweinyddiaeth yr Economi
- (Sbaeneg) Ministerio de Turismo – Gweinyddiaeth Twristiaeth
- (Sbaeneg) Corte Suprema de Justicia – Llys Gorchuaf am Gyfiawnder
- (Sbaeneg) Procuraduría para la Defensa de los Derechos Humanos – Swyddfa'r Barnwr-Llysddadleuwr-Cyffredinol dros Amddiffyniad Hawliau Dynol
- (Sbaeneg) Banco Central de Reserva de El Salvador – Banc Cronfa Ganolog El Salfador
Gwefannau'r cyfryngau
Gwefannau newyddion
- (Sbaeneg) La Prensa Grafica
Gwefannau teledu
|