Guangdong: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Wicipedia
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
B r2.7.1) (robot yn ychwanegu: simple:Guangdong
FoxBot (sgwrs | cyfraniadau)
Llinell 16: Llinell 16:
[[be:Гуандун]]
[[be:Гуандун]]
[[bg:Гуандун]]
[[bg:Гуандун]]
[[bo:ཀོང་ཏུང་ཞིང་ཆེན།]]
[[bo:ཀོའོང་ཏུང་ཞིང་ཆེན།]]
[[ca:Guangdong]]
[[ca:Guangdong]]
[[cdo:Guōng-dĕ̤ng]]
[[cdo:Guōng-dĕ̤ng]]

Fersiwn yn ôl 20:16, 27 Chwefror 2011

Lleoliad Guandong

Un o daleithiau Gweriniaeth Pobl Tsieina yw Guangdong, hefyd Canton. Saif yn ne-ddwyrain y wlad, ger yr arfordir. Y brifddinas yn Guangzhou, a adwaenir hefyd fel dinas Canton. Mae'n ffinio ar Hong Kong, Macau, Guangxi, Hunan, Jiangxi a Fujian, gydag ynys Hainan gerllaw, yr ochr draw i Gulfor Hainan.

Guangdong yw talaith fwyaf poblog GPT, gyda phoblogaeth barhaol o 79 miliwn yn ogystal a 31 miliwn o fewnfudwyr dros dro yn byw yno yn 2005. Mae'r brifddinas, Guangzhou , a dinas Shenzhen ymysg dinasoedd mwyaf poblog a phwysicaf y wlad. Tsineaid Han yw mwyafrif y boblogaeth, gyda lleiafrif o'r Miao. Mae llawer o bobl wedi ymfudo o Guangdong i rannau eraill o'r byd, er enghraiift o Guangdong y daw mwyafrif Tsineaid Cymru yn wreiddiol.

Mae Guangdong yn un o daleithiau cyfoethogaf Tsieina, ac mae'n gyfrifol am tua 12% o gynnyrch economaidd y wlad. Yn 2008 roedd economi'r dalaith tua'r un faint ac economi Sweden.

Israniadau gweinyddol Gweriniaeth Pobl Tsieina
Taleithiau AnhuiFujianGansuGuangdongGuizhouHainanHebeiHeilongjiangHenanHubeiHunanJiangsuJiangxiJilinLiaoningQinghaiShaanxiShandongShanxiSichuanYunnanZhejiang
Taleithiau dinesig BeijingChongqingShanghaiTianjin
Rhanbarthau ymreolaethol GuangxiMongolia FewnolNingxiaTibetXinjiang
Rhanbarthau Gweinyddol Arbennig Hong CongMacau